Bydd trefniadau casglu gwastraff ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn amrywio bob blwyddyn i adlewyrchu'r diwrnod o'r wythnos y maent yn disgyn arno.

Gyda dyddiau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn disgyn ar ddydd Llun eleni, byddwn yn ymdrechu i ddarparu casgliadau gwastraff a drefnir fel arfer ar gyfer dydd Llun ar y dydd Sadwrn blaenorol. Bydd hyn yn golygu bod:

  • casgliadau dydd Llun 25 Rhagfyr 2023 yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr 2023 a;
  • casgliadau dydd Llun 01 Ionawr 2024 yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr 2023.

Dim ond casgliadau gwastraff gweddilliol (bag du) a chasgliadau bwyd fydd yn cael eu casglu ddydd Mawrth 26 Rhagfyr 2023 (Gŵyl San Steffan). Ni fydd ailgylchu a gwydr yn cael eu casglu a dylid cyflwyno'r rhain i'w casglu ar y diwrnod casglu nesaf a drefnwyd.

Bydd yr holl gasgliadau gwastraff ar ddydd Mercher 27, dydd Iau 28 a dydd Gwener 29 Rhagfyr 2023 fel y trefnwyd.

Bydd y casgliadau Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd yn cael eu hatal o 22 Rhagfyr 2023 a byddant yn ailddechrau ar yr wythnos sy’n dechrau ar 08 Ionawr 2024.

Mae nifer o weithlu’r Gwasanaeth Gwastraff yn ymwneud â darparu gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf. Gall hyn wedyn gael effaith uniongyrchol a phellach ar wasanaethau casglu gwastraff. Pe bai tywydd garw yn ystod y gwyliau bydd hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff a bydd y dull o ymdrin â'r rhain yn cael ei adolygu mewn ymateb iddynt, gan gymryd i ystyriaeth elfennau perthnasol megis eu hyd ac argaeledd adnoddau.

Bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth. Mae hyn fel arfer yn golygu canolbwyntio ar y casgliadau gweddilliol (bag du), bwyd a Gwastraff Hylendid Amsugnol (AHP). Mae'r casgliadau bagiau ailgylchu (clir) wythnosol yn rhoi cyfle i adennill y rhain yn gyflym. Mae gwydr yn haws i’w storio ac mae cyfleoedd eraill i gael gwared arno mewn banciau gwydr cymunedol ac yn Safleoedd Gwastraff Cartref y Cyngor.

Bydd diweddariadau dyddiol ar y gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu postio ar y dudalen we ganlynol: Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff - Cyngor Sir Ceredigion

Safleoedd Gwastraff Cartref

Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

Ar Wyliau Banc eraill, gan gynnwys Gŵyl San Steffan, byddant i gyd ar agor rhwng 10:00-15:00. Dim ond os yw Gŵyl y Banc yn disgyn ar ddiwrnod y byddai ar agor fel arfer y mae hyn yn berthnasol i safle Rhydeinon, Llanarth.

Mae oriau agor arferol y Safleoedd Gwastraff Cartref ar y wefan yma www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/safle-gwastraff-cartref-a-banciau-ailgylchu/

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae ein timau gweithredol yn gweithio trwy gydol y flwyddyn ym mhob tywydd ac felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y cymunedau y maent yn rhan ohonynt ac yn eu gwasanaethu. Hoffwn estyn gair o ddiolch diffuant iddynt am eu holl ymdrechion. Gall nifer o resymau amharu ar gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Nadolig. Byddwn yn ceisio darparu gwasanaethau fel yr hysbysebwyd, darparu diweddariadau rheolaidd ac adfer cyn gynted â phosibl os effeithir ar wasanaethau.”

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i’n cwsmeriaid am eu cefnogaeth barhaus a’u hymgysylltiad cadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod Ceredigion ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau o ran ailgylchu yng Nghymru a bod y gwastraff na allwn ei ailgylchu yn cael ei drin drwy broses ynni ar gyfer gwastraff. Dyma enghraifft wych o Caru Ceredigion ar waith, gyda’r Cyngor a’n cymunedau yn cydweithio i ymdrin â’n gwastraff yn y modd mwyaf amgylcheddol ac ariannol effeithlon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.”

15/12/2023