Gyda threfi a thrigolion Ceredigion yn ysbryd yr ŵyl yn gynnar eleni, mae angen cofio siopa'n ddiogel tra’n siopa’n lleol y tymor hwn.

Bydd siopa ar gyfer y dathliadau yn wahanol eleni. Gyda chanllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar waith, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein siopa Nadolig mor ddiogel â phosib, pan yn draddodiadol ei bod hi’n amser prysur iawn. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i fusnesau oherwydd effeithiau Covid-19, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn gobeithio y bydd y cyfnod cyn yr ŵyl yn rhoi hwb i'w groesawu i fusnesau’r sir.

Mae parchu'r mesurau sydd gan fusnesau ar waith yn sicrhau eich diogelwch chi, yn ogystal â gweithwyr ac eraill sydd yn siopa. Dylid dilyn rheolau gorchuddio wynebau a phellter cymdeithasol wrth ymweld â threfi a siopau, ynghyd â golchi dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo.

Bydd parcio am ddim yn cael ei ddarparu ddydd Sadwrn 05, 12 a 19 o Ragfyr 2020 ym mhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae nifer o fusnesau lleol nawr yn gwerthu ar-lein, felly gall preswylwyr Ceredigion a thu hwnt gefnogi’r economi o wres y cartref.

Gyda Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 05 Rhagfyr, dewch i gefnogi siopau a busnesau Ceredigion wrth hefyd rhoi hwb i’n economi leol.

Mae hyn yn unol â Strategaeth y Gaeaf, gan alluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf tra hefyd yn amddiffyn iechyd a lles y rhai mwyaf agored i niwed.

Mae gwybodaeth bellach am y Coronafeirws yng Ngheredigion, yn ogystal a grantiau i fusnesau, ar gael ar wefan y Cyngor.

03/12/2020