Datganiad Blynyddol (Arolygiaeth Gofal Cymru)
Beth yw Datganiad Blynyddol?
Rydym yn cwblhau Datganiad Blynyddol bob blwyddyn ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob darparwr gofal cofrestredig. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu'r gwasanaethau canlynol sydd wedi’u rheoleiddio:
Cartrefi Gofal Preswyl i Oedolion
- Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron
- Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llambed
- Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Waunfawr, Aberystwyth
- Cartref Gofal Preswyl Min y Môr, Aberaeron
- Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi
Gofal yn y Cartref
- Gofal Integredig sy’n Galluogi ac wedi’i Dargedu
Llety Diogel i Blant
- 3 lleoliad ar draws Ceredigion
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae’r Datganiad Blynyddol yn cynnwys:
- Gwybodaeth am ein gwasanaeth
- Manylion staffio a’r gweithlu
- Sut rydym yn bodloni’r safonau gofal gofynnol
Mae'n rhoi darlun clir o sut mae ein gwasanaethau yn cael eu rhedeg a sut rydym yn gwella.
Pam rydym ni’n ei gwblhau?
Mae Datganiad Blynyddol yn ein cynorthwyo i:
- Gadw ein gwybodaeth yn gyfredol
- Ddangos sut ydym yn cydymffurfio a’r rheoliadau
- Gefnogi cynnydd ar draws ein gwasanaethau gofal
Pryd fydd yn cael ei gwblhau?
- Mae’n cwmpasu’r flwyddyn sy’n gorffen 31 Mawrth 2026
- Cyflwynir i Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn 26 Mai 2026