Weithiau, mae angen cymorth ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Gall y Tîm o Amgylch y Teulu ddarparu cyngor, cymorth a chefnogaeth drwy ddod â’r bobl gywir ynghyd i helpu.

 

Sut mae hyn yn gweithio?

  • Bydd rhywun – chi neu weithiwr proffesiynol – yn pryderu neu’n gofidio am blentyn, person ifanc neu deulu.
  • Byddwch chi – neu weithiwr proffesiynol – yn gwneud cais i gael cymorth, gan nodi’r hyn sy’n peri pryder i chi (neu i’r gweithiwr proffesiynol) a’r hyn y byddech chi (neu’r gweithiwr proffesiynol) yn hoffi cael cymorth gydag e. Byddwn ni hefyd yn cadarnhau eich bod yn cytuno i ni rannu gwybodaeth amdanoch chi a’ch teulu â gwasanaethau eraill.
  • Bydd Cydgysylltydd Cymorth i Unigolion yn cysylltu â chi a’ch plentyn, a bydd yn dechrau pwyso a mesur ffyrdd o’ch cynorthwyo chi.
  • Byddwn yn gofyn i nifer fach o bobl a allai helpu, yn ein tyb ni, fod yn rhan o’r Tîm o Amgylch y Teulu.
  • Bydd pob un ohonom yn cydweithio i gytuno ar gamau gweithredu ac i baratoi cynllun.
  • Bydd un aelod o’r Tîm yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddilyn.

 

 

Facebook Logo - Free Vectors & PSDs to Download

 

www.facebook.com/TeuluoeddCeredigionFamilies