Mae llawer o ofalwyr am gael y cyfle i ymdopi ar au hunain heb gymorth o'r tu allan, ond maent yn poeni ynglyn a'r hyn y dylent ei wneud pe byddai argyfyngau yn codi.

Mae paratoi o flaen llaw yn fanteisiol oherwydd byddech yn gwybod beth i'w wneud pe byddech yn wynebu argyfwng, naill ai yn ystod y dydd, gyda'r nos, neu dros benwythnosau.

Mae amrywiol bethau allwch chi eu gwneud i baratoi ar gyfer argyfwng ac y mae gwybodaeth ar gael a all fod o gymorth i chi gynllunio ar gyfer hyn. Gweler isod dolenni cyswllt i wybodaeth a mannau eraill ar wefan y Cyngor a all fod o gymorth i chi baratoi ar gyfer argyfwng.

Canllaw i Ofalwyr mewn Argyfwng – sy'n eich cynorthwyo i lunio cynlluniau wrth gefn mewn argyfwng.

Canllawiau i Ofalwyr Cynllunio rhag Argyfyngau