Nid yw'r CDLl wedi cyrraedd y cam datblygu hwn eto

Wrth archwilio'r CDLl bydd yr Arolygiaeth Gynllunio (ar ran Llywodraeth Cymru) yn ystyried y sylwadau adnau, y cynllun adnau ac adroddiad terfynol yr arfarniad o gynaliadwyedd. Nod yr archwiliad yw sicrhau bod y cynllun yn “gadarn” a bod barn pawb sydd wedi gwneud sylwadau wedi cael ei hystyried.

Mae'r profion “cadernid” yn cwmpasu tri chategori: gweithdrefnau, cysondeb a chydlyniant/effeithiolrwydd. Caiff rhan o'r broses archwilio ei chynnal yn gyhoeddus a rhoddir hawl i bob gwrthwynebydd ymddangos a rhoi ei farn.