Mae a wnelo'r ymgynghori hwn â'r Adroddiad Cwmpasu sef cam cyntaf proses yr AG/AAS ac mae'n nodi'r modd y mae'r Awdurdod yn bwriadu asesu cynaliadwyedd y CDLl maes o law. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ychwanegol at ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda CNC a Cadw ym mis Ebrill 2018.

Mae trosolwg un dudalen o broses yr AG/AAS, y CDLl a'r berthynas rhyngddynt yn amgaeedig i'ch cynorthwyo chi i ddeall pwrpas yr ymgynghori ynghylch yr Adroddiad Cwmpasu.

Dylid anfon sylwadau'n ysgrifenedig at Polisi Cynllunio, Neuadd y Sir, Stryd y Farchnad, ABERAERON. Ceredigion SA46 0AT neu ar e-bost: ldp@ceredigion.gov.uk erbyn canol dydd 19 Mehefin 2019. Ni allwn ystyried sylwadau hwyr.

Trosolwg Byr o'r ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cwmpasu a'i pwrpas

Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Ffurflen Ymateb