Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiad Effaith Integredig - Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032 Cyngor Sir Ceredigion

Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:

  • yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
  • yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
  • yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
  • yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
  • yn ystyried rheoli risg.

Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:

  1. Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
  2. Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
  3. Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
  7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.

 

Manylion y Cynnig

Teitl y Polisi / Cynnig / Menter

  • Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027-2032.

Maes Gwasanaeth

  • Porth Cymorth Cynnar, Gwasanaeth Ieuenctid.

Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig

  • Gethin Jones.

Swyddog Arweiniol Corfforaethol

  • Greg Jones.

Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig

Mae Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027-2032 yn amlinellu gweledigaeth strategol, blaenoriaethau a fframwaith cyflawni'r Cyngor ar gyfer gwaith ieuenctid dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i Gyfarwyddydau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2026, sy'n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu cynlluniau strategol pum mlynedd ar gyfer gwaith ieuenctid mewn partneriaeth â phobl ifanc, cymunedau a rhanddeiliaid.

Mae’r strategaeth wedi'i llywio gan ymgysylltu helaeth â dros 400 o bobl ifanc, 30 o sefydliadau partner, staff gwaith ieuenctid, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid ehangach. Fe'i ategir gan ddata perfformiad lleol, casgliadau Archwiliad Gwaith Ieuenctid, gwerthusiadau Grant Cymorth Ieuenctid, gweithgarwch cynllunio busnes a datblygiadau polisi cenedlaethol.

Mae'r strategaeth yn sefydlu chwe blaenoriaeth:

  1. Mynediad at Waith Ieuenctid o Safon Uchel.
  2. Cymunedau Gwledig Ffyniannus.
  3. Llesiant, Perthyn a Pherthnasoedd Dibynadwy.
  4. Llais, Cyfranogiad ac Arweinyddiaeth Ieuenctid.
  5. Rhwydwaith Gweithlu a Gwirfoddolwyr Medrus, Cynaliadwy a Dwyieithog.
  6. Partneriaethau, Cymunedau a Gweithredu ar y Cyd.

Mae'r strategaeth yn amlinellu sut y bydd gwaith ieuenctid yn cyfrannu at wella llesiant, cyfranogiad, cynhwysiant, atal, ymyrraeth gynnar, datblygu'r Gymraeg a gwydnwch cymunedol i bobl ifanc 11-25 oed ar draws Ceredigion.

Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?

Prif fuddiolwyr:

  • Pobl ifanc 11-25 oed sy'n byw yng Ngheredigion.
  • Pobl ifanc sy'n cael mynediad at ddarpariaeth gwaith ieuenctid.
  • Pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ieuenctid ar hyn o bryd.
  • Pobl ifanc sy'n profi unigedd gwledig, tlodi neu rwystrau eraill i gyfranogiad.

Buddiolwyr eilaidd:

  • Teuluoedd a chymunedau.
  • Gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr.
  • Ysgolion.
  • Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
  • Partneriaid sector cyhoeddus ehangach.
  • Sefydliadau Cymraeg.
  • Grwpiau cymunedol a chyflogwyr.

A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?

Ydyn. Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu trwy weithgarwch cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu helaeth, gan gynnwys: 

  • Ymgysylltu â dros 400 o bobl ifanc.
  • Arolwg ieuenctid penodol gyda 195 o ymatebion.
  • Ymgysylltu â’r Cyngor Ieuenctid.
  • Digwyddiadau ymgysylltu yn yr ysgol.
  • Clybiau ieuenctid cymunedol.
  • Allgymorth a darpariaeth wedi’i thargedu.
  • Grwpiau cyfranogiad.
  • Ymgynghori digidol.
  • Ymatebion arolwg partneriaid gan 30 o sefydliadau.
  • Sesiynau ymgynghori a chynllunio staff.

Bydd pobl ifanc a rhanddeiliaid hefyd yn parhau i ddylanwadu ar y ddarpariaeth trwy drefniadau adolygu blynyddol, strwythurau’r Cyngor Ieuenctid, gweithgarwch cyfranogiad a’r Fforwm Darparwyr Plant a Phobl Ifanc.

Rheoli Fersiynau

Rhif y Fersiwn Awdur Cam yn y broses benderfynu Dyddiad yr Ystyriwyd Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed
1 Gethin Jones Drafft terfynol 03/07/2026 Amherthnasol

 

Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor

Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?

Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 2022-27

Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth

  • Mae'r strategaeth yn cefnogi cyflogadwyedd, cynnydd, gwirfoddoli, arweinyddiaeth a chyfleoedd dysgu achrededig i bobl ifanc. Mae'n cryfhau llwybrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant ac yn cyfrannu at leihau nifer y bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET.

Creu cymunedau gofalgar ac iach

  • Mae'r strategaeth yn cefnogi llesiant, atal, ymyrraeth gynnar, perthnasoedd dibynadwy, mannau diogel a gwydnwch cymunedol yn uniongyrchol. Mae gwaith ieuenctid yn cyfrannu at wella llesiant emosiynol, cysylltiadau cymdeithasol a chyfleoedd bywyd cadarnhaol.

Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu

  • Mae'r strategaeth yn cryfhau cyfleoedd ar gyfer dysgu anffurfiol, datblygiad personol, arweinyddiaeth, achredu, cyfranogiad a datblygu sgiliau bywyd.

Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

  • Mae’r strategaeth yn cefnogi cyfranogiad cymunedol, gwirfoddoli, mentrau amgylcheddol, dysgu yn yr awyr agored, gwaith ieuenctid sy'n seiliedig ar le a chydlyniant cymunedol ar draws cymunedau trefol a gwledig.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Mae Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027-2032 yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at Gymru Lewyrchus trwy helpu pobl ifanc i ddatblygu'r hyder, sgiliau, profiad a dyheadau y mae eu hangen i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau i gryfhau llwybrau cyflogadwyedd, dysgu achrededig, arweinyddiaeth ieuenctid, gwirfoddoli a chymorth cynnydd.
Mae'r strategaeth hefyd yn cydnabod effaith tlodi, anfantais wledig, fforddiadwyedd tai a mynediad at gyfleoedd ar bobl ifanc, ac mae'n cynnwys camau gweithredu i leihau rhwystrau i gyfranogiad a gwella mynediad at gymorth a chyfleoedd datblygu ar draws y sir.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi nodi swyddi, cyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith a sgiliau bywyd fel blaenoriaethau pwysig. Mae'r strategaeth hefyd yn defnyddio data lleol y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid lleol, gwerthusiadau Grant Cymorth Ieuenctid a data cyfranogiad sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, cymorth cyflogadwyedd a chyfleoedd cynnydd i bobl ifanc. Mae'r Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid yn cynnwys ymrwymiadau penodol i gryfhau llwybrau cynnydd i addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Parhau i gryfhau llwybrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli, arweinyddiaeth a dysgu achrededig.
  • Gweithio'n agos gydag ysgolion, cyflogwyr, Gyrfa Cymru a darparwyr hyfforddiant.
  • Monitro canlyniadau cyfranogiad a chynnydd ar gyfer pobl ifanc sydd dan anfantais.
  • Targedu cefnogaeth at y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ddatgysylltu o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth

Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo gwydnwch cymunedol, dysgu yn yr awyr agored, ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwaith ieuenctid sy'n seiliedig ar le. Mae'n cydnabod cryfderau amgylchedd naturiol Ceredigion ac yn annog mwy o gyfranogiad mewn gweithredu cymunedol, gwirfoddoli a gweithgareddau sy'n cryfhau cymunedau lleol a chysylltiadau â lle.

Mae'r strategaeth hefyd yn ceisio gwneud gwell defnydd o asedau cymunedol ac adnoddau lleol i wella cyfleoedd i bobl ifanc ar draws cymunedau gwledig.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Roedd pobl ifanc wedi tynnu sylw at werth gweithgareddau awyr agored, mynediad at natur a chymunedau lleol trwy gydol y gweithgarwch ymgysylltu. Mae Blaenoriaeth 2 (Cymunedau Gwledig Ffyniannus) yn hyrwyddo dysgu awyr agored, gweithgareddau amgylcheddol, gwirfoddoli a chyfranogiad cymunedol yn benodol fel cryfderau y gellir adeiladu arnynt dros oes y strategaeth.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Annog prosiectau amgylcheddol a chynaliadwyedd dan arweiniad pobl ifanc.
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a gwirfoddoli.
  • Cryfhau partneriaethau â sefydliadau amgylcheddol, cefn gwlad a chymunedol.
  • Hyrwyddo mentrau gweithredu cymunedol sy'n gwella amgylcheddau a chymdogaethau lleol.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach

Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Mae llesiant yn thema ganolog trwy gydol y strategaeth. Mae'r Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid yn hyrwyddo mannau diogel, perthnasoedd dibynadwy, llesiant cadarnhaol, ymyrraeth gynnar ac atal. Trwy waith ieuenctid, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gryfhau hyder, gwydnwch, gweithgarwch corfforol, cysylltiadau cymdeithasol a llesiant emosiynol.

Mae'r strategaeth yn cydnabod bod llesiant yn golygu mwy na iechyd meddwl yn unig ac yn cynnwys cyfleoedd sy'n cefnogi perthyn, cyfeillgarwch, cyfranogiad a pherthnasoedd cadarnhaol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Llesiant oedd un o'r themâu cryfaf a nodwyd trwy’r ymgysylltu â phobl ifanc. Roedd pobl ifanc wedi tynnu sylw’n gyson at bwysigrwydd oedolion dibynadwy, mannau diogel, grwpiau cyfeillgarwch a chymorth cyn i anawsterau droi’n argyfwng. Mae casgliadau gwerthuso lleol hefyd yn dangos y rôl arwyddocaol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae o fewn cynnig atal ac ymyrraeth gynnar Ceredigion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Cynnal llesiant fel thema drawsbynciol trwy gydol y ddarpariaeth.
  • Cryfhau dulliau atal ac ymyrraeth gynnar.
  • Parhau i ddatblygu llwybrau atgyfeirio i gymorth arbenigol lle bo angen.
  • Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, gwydnwch a llesiant emosiynol trwy weithgareddau gwaith ieuenctid.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal

Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?

 

Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed

  • Cadarnhaol

Pobl 18-50

  • Cadarnhaol

Pobl hŷn 50+

  • Dim/Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Nod y strategaeth yw lleihau rhwystrau i gyfranogiad a gwella mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid i bob person ifanc ar draws Ceredigion. Rhoddir sylw arbennig i fynd i'r afael â’r anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â thlodi, natur wledig, trafnidiaeth, allgáu digidol a mynediad at wasanaethau. Mae'r strategaeth hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant, llais ieuenctid a chyfranogiad pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?

Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi nodi bod trafnidiaeth, pellter, cost, mynediad digidol ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd fel rhwystrau i gyfranogiad. Mae'r strategaeth hefyd yn defnyddio tystiolaeth leol sy'n ymwneud â thlodi gwledig, tlodi plant, fforddiadwyedd tai a mynediad at wasanaethau, a gall pob un o’r rhain effeithio ar gyfleoedd a llesiant pobl ifanc.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Monitro lefelau cyfranogiad ar draws grwpiau gwahanol o bobl ifanc.
  • Parhau ag ymgysylltu ac allgymorth wedi'i dargedu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Sicrhau bod cyfleoedd yn parhau i fod yn hygyrch, fforddiadwy a chynhwysol.
  • Adolygu cynnydd yn flynyddol trwy ymgysylltu, data perfformiad ac adborth gan bobl ifanc.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?

 

Amhariad ar y clyw

  • Cadarnhaol

Amhariad corfforol

  • Cadarnhaol

Amhariad ar y golwg

  • Cadarnhaol

Anabledd Dysgu

  • Cadarnhaol

Salwch hirdymor

  • Cadarnhaol

Iechyd Meddwl

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Disgwylir i'r strategaeth gael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc anabl, anghenion dysgu ychwanegol, cyflyrau iechyd hirdymor ac anawsterau iechyd meddwl trwy wella mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid, gwasanaethau cymorth, perthnasoedd dibynadwy a chyfleoedd cyfranogi. Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau i leihau rhwystrau i gyfranogi, gwella hygyrchedd, cryfhau cynhwysiant a sicrhau y gall pobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd waeth beth fo'u hanghenion neu eu hamgylchiadau.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu mannau diogel, oedolion dibynadwy, cymorth llesiant, cysylltiadau cymdeithasol a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, a gall y rhain i gyd gyfrannu'n gadarnhaol at brofiadau a chanlyniadau pobl ifanc anabl.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi'i llywio gan ymgysylltu â dros 400 o bobl ifanc, sefydliadau partner, ysgolion a grwpiau cymunedol. Roedd yr adborth wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleoedd hygyrch, perthnasoedd dibynadwy, mannau diogel a darpariaeth gymunedol gynhwysol.

Roedd Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025 hefyd wedi nodi pwysigrwydd gwella hygyrchedd a chynhwysiant o fewn cyfleoedd cymunedol ac wedi tynnu sylw at yr angen i gryfhau cyfranogiad ar gyfer plant a phobl ifanc anabl ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau i wella mynediad, lleihau rhwystrau a sicrhau bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion amrywiol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

  • Monitro cyfranogiad gan bobl ifanc anabl ac anghenion dysgu ychwanegol.
  • Sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn hygyrch, cynhwysol ac ymatebol i anghenion unigol.
  • Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion, teuluoedd a gwasanaethau arbenigol i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogi.
  • Ystyried hygyrchedd wrth ddatblygu cyfleusterau, gweithgareddau, ymgysylltiad digidol a deunyddiau cyfathrebu.
  • Parhau i ymgysylltu â phobl ifanc i nodi ac ymateb i anghenion newydd.

Mae'r strategaeth yn cynnig cyfleoedd i:

  • Hyrwyddo cyfle cyfartal trwy leihau rhwystrau i gyfranogi a gwella mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid.
  • Hyrwyddo gweithgareddau cynhwysol a hygyrch sy'n galluogi pobl ifanc anabl a phobl ifanc nad ydynt yn anabl i gymryd rhan gyda'i gilydd.
  • Cynyddu cynrychiolaeth a chyfranogiad pobl ifanc anabl mewn cyfleoedd llais ac arweinyddiaeth ieuenctid.
  • Cryfhau ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chynhwysiant trwy weithgareddau gwaith ieuenctid ac ymgysylltu â'r gymuned.
  • Sicrhau bod lleisiau pobl ifanc anabl yn helpu i lunio darpariaeth a datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsrywiol?

 

Menywod Traws

  • Cadarnhaol

Dynion Traws

  • Cadarnhaol

Pobl Anneuaidd

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo amgylcheddau gwaith ieuenctid cynhwysol, croesawgar a diogel i bob person ifanc, gan gynnwys pobl ifanc drawsryweddol ac anneuaidd. Trwy ei ffocws ar lesiant, perthyn, perthnasoedd dibynadwy, cyfranogiad a chyfle cyfartal, mae'r strategaeth yn ceisio sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cael mynediad at gymorth a chyfleoedd heb wahaniaethu.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu trwy ddefnyddio dull cynhwysol sy'n seiliedig ar hawliau. Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi tynnu sylw at bwysigrwydd mannau diogel, oedolion dibynadwy, perthyn a theimlo eu bod yn cael eu derbyn. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfateb ag ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad, gan gynnwys Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ac egwyddorion ymarfer gwaith ieuenctid cynhwysol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Sicrhau bod amgylcheddau gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn ddiogel, croesawgar a chynhwysol.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy ddatblygu'r gweithlu a hyfforddi staff.
  • Monitro adborth gan bobl ifanc i nodi unrhyw rwystrau i gyfranogiad.
  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl ifanc a allai brofi gwahaniaethu neu allgáu.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?

 

Pobl Ddeurywiol

  • Cadarnhaol

Dynion Hoyw

  • Cadarnhaol

Menywod hoyw / lesbiaid

  • Cadarnhaol

Pobl Heterorywiol

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo amgylcheddau gwaith ieuenctid cynhwysol, croesawgar a diogel i bob person ifanc, gan gynnwys pobl ifanc drawsryweddol ac anneuaidd. Trwy ei ffocws ar lesiant, perthyn, perthnasoedd dibynadwy, cyfranogiad a chyfle cyfartal, mae'r strategaeth yn ceisio sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cael mynediad at gymorth a chyfleoedd heb wahaniaethu.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu trwy ddefnyddio dull cynhwysol sy'n seiliedig ar hawliau. Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi tynnu sylw at bwysigrwydd mannau diogel, oedolion dibynadwy, perthyn a theimlo eu bod yn cael eu derbyn. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfateb ag ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad, gan gynnwys Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ac egwyddorion ymarfer gwaith ieuenctid cynhwysol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

  • Sicrhau bod amgylcheddau gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn ddiogel, croesawgar a chynhwysol.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy ddatblygu'r gweithlu a hyfforddi staff.
  • Monitro adborth gan bobl ifanc i nodi unrhyw rwystrau i gyfranogiad.
  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl ifanc a allai brofi gwahaniaethu neu allgáu.
  • Creu amgylcheddau sy'n annog parch, dealltwriaeth a pherthnasoedd cadarnhaol rhwng grwpiau gwahanol o bobl ifanc.
  • Ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?

 

Pobl sy'n briod

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl mewn partneriaeth sifil

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar wella cyfleoedd gwaith ieuenctid a chymorth i bobl ifanc 11-25 oed. Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol penodol mewn perthynas â phobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu i ymateb i anghenion, profiadau a dyheadau pobl ifanc. Nid yw priodas a phartneriaeth sifil yn ffactorau y disgwylir iddynt ddylanwadu ar fynediad at, neu ganlyniadau, y cyfleoedd a'r cymorth gwaith ieuenctid a nodir yn y strategaeth.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

Nid yw unrhyw gamau penodol yn ofynnol ar hyn o bryd. Bydd y strategaeth yn parhau i hyrwyddo mynediad cyfartal at gyfleoedd a gwasanaethau i bob person ifanc.

A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?

 

Beichiogrwydd

  • Cadarnhaol

Mamolaeth

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo mynediad cynhwysol at gyfleoedd gwaith ieuenctid, cymorth llesiant, perthnasoedd dibynadwy a chyfleoedd cyfranogiad i bob person ifanc. Gall hyn fod o fudd cadarnhaol i bobl ifanc sy'n feichiog neu rieni ifanc trwy eu helpu i gael mynediad at gymorth, cynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan mewn cyfleoedd sy'n cefnogi eu llesiant, hyder a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth yn seiliedig ar egwyddorion cynhwysiant, cyfranogiad a mynediad cyfartal at gyfleoedd. Mae'n cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar, cymorth llesiant, perthnasoedd dibynadwy a lleihau rhwystrau i gyfranogiad. Gall yr egwyddorion hyn fod o fudd i bobl ifanc sy'n feichiog neu sydd â chyfrifoldebau rhianta, yn enwedig lle gallent brofi unigedd neu heriau ychwanegol o ran cael mynediad at gyfleoedd.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

  • Sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn hygyrch a chynhwysol i rieni ifanc a phobl ifanc sy'n feichiog.
  • Ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol wrth gynllunio gweithgareddau a chymorth.
  • Cryfhau cysylltiadau â gwasanaethau cymorth perthnasol lle gallai fod angen cyngor, arweiniad neu gymorth arbenigol ychwanegol.
  • Monitro cyfranogi ac ymgysylltu er mwyn nodi a rhoi sylw i unrhyw rwystrau i fynediad.
  • Parhau i hyrwyddo ymarfer cynhwysol a lleihau rhwystrau i gyfranogiad ar draws yr holl ddarpariaeth gwaith ieuenctid.

A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?

 

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

  • Cadarnhaol

Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig

  • Cadarnhaol

Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig

  • Cadarnhaol

Gwyn

  • Cadarnhaol

Grwpiau ethnig eraill

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad i bob person ifanc waeth beth fo'u cefndir ethnig. Mae'n ceisio sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn hygyrch, croesawgar ac ymatebol i anghenion cymunedau amrywiol ar draws Ceredigion. Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi cydlyniant cymunedol, cyfranogiad, ymarfer gwrth-wahaniaethol a chyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae’r cynllun strategol yn cael ei lywio gan nifer o egwyddorion trawsbynciol, gan gynnwys ymarfer sy’n seiliedig ar hawliau, cydraddoldeb a chynhwysiant. Byddwn yn gweithio i nodi a lleihau rhwystrau i gyfranogiad ac i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn gynhwysol, croesawgar ac ymatebol i anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Ceredigion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Cefnogi cyflawni Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru trwy weithgareddau gwaith ieuenctid a chyfleoedd cyfranogi.
  • Cynyddu cynrychiolaeth ac ymgysylltiad pobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth, parch a pherthnasoedd cadarnhaol rhwng cymunedau gwahanol.
  • Herio gwahaniaethu, rhagfarn ac allgáu trwy ymarfer ac addysg gwaith ieuenctid.
  • Sicrhau bod gan bobl ifanc o bob cefndir fynediad cyfartal at gyfleoedd, cymorth a llwybrau arweinyddiaeth.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?

 

Bwdhaidd

  • Cadarnhaol

Cristion

  • Cadarnhaol

Hindŵaidd

  • Cadarnhaol

Dyneiddiwr

  • Cadarnhaol

Iddewig

  • Cadarnhaol

Mwslim

  • Cadarnhaol

Sikh

  • Cadarnhaol

Pobl heb gred

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid i bob person ifanc waeth beth fo'u crefydd, cred neu ddim cred. Ei nod yw creu amgylcheddau diogel, croesawgar a pharchus lle gall pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol gymryd rhan, meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chael ymdeimlad o berthyn o fewn eu cymunedau.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu trwy ddull cynhwysol sy'n seiliedig ar hawliau ac mae'n cynnwys ymrwymiadau sy'n ymwneud â llesiant, cyfranogiad, perthyn, cyfle cyfartal a chydlyniant cymunedol. Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc a phartneriaid wedi tynnu sylw at bwysigrwydd creu mannau diogel lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfateb â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chyfranogiad ieuenctid.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn hygyrch a chynhwysol i bob person ifanc.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy hyfforddi a datblygu'r gweithlu.
  • Monitro cyfranogiad ac adborth er mwyn nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysyllti.
  • Gweithio gyda sefydliadau cymunedol a phartneriaid i sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu hadlewyrchu wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Parhau i ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd gwahanol i lywio datblygiad yn y dyfodol.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?

 

Dynion

  • Cadarnhaol

Menywod

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo mynediad cyfartal at gyfleoedd gwaith ieuenctid, cymorth a chyfranogiad i bob person ifanc. Mae'n cynnwys ymrwymiadau i leihau rhwystrau i gyfranogiad, gwella llesiant, cynyddu cyfleoedd arweinyddiaeth a sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch ac yn gynhwysol waeth beth fo'r rhyw. Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael â materion a allai effeithio'n anghymesur ar fechgyn neu ferched, megis llesiant, hyder, cyfranogiad, urddas mislif a mynediad at gyfleoedd.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Datblygwyd y strategaeth trwy ymgysylltu â phobl ifanc, partneriaid a rhanddeiliaid oedd wedi nodi pwysigrwydd creu mannau diogel, perthnasoedd dibynadwy a chyfleoedd hygyrch i bob person ifanc. Roedd Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2025 hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau cyfleoedd cynhwysol a nododd themâu penodol yn ymwneud â chyfranogiad merched, gofalwyr ifanc a mynediad at weithgareddau. Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau i gydraddoldeb, cynhwysiant, llesiant a chyfranogiad trwy’r chwe blaenoriaeth.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Monitro cyfranogiad yn ôl rhyw er mwyn nodi unrhyw anghydraddoldeb o ran mynediad neu ymgysylltiad.
  • Parhau i gefnogi cyfleoedd cynhwysol ac wedi’i dargedu lle nodir rhwystrau penodol.
  • Sicrhau bod gweithgareddau gwaith ieuenctid, cyfleusterau a chyfleoedd ymgysylltu yn hygyrch a chroesawgar i bob person ifanc.
  • Defnyddio adborth gan bobl ifanc i lywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol ac adnabod anghenion sy'n dod i'r amlwg.
  • Sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn parhau i ddylanwadu ar ddylunio a darparu gwasanaethau a chyfleoedd.

A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?

 

Aelodau o'r Lluoedd Arfog

  • Dim / Fawr Ddim

Cyn-filwyr

  • Dim / Fawr Ddim

Gwŷr/gwragedd

  • Dim / Fawr Ddim

Plant

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid, perthnasoedd dibynadwy, cymorth llesiant a chyfranogiad cymunedol i bob person ifanc, gan gynnwys plant a phobl ifanc o deuluoedd y Lluoedd Arfog. Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i feithrin cysylltiadau cymdeithasol, datblygu gwydnwch, cael mynediad at gymorth a chynnal ymdeimlad o berthyn yn eu cymuned, yn enwedig lle gall amgylchiadau teuluol gynnwys cyfnodau o newid neu drawsnewid.

Mae Dim Effaith / Effaith dibwys wedi cael ei nodi ar gyfer aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u priod, gan fod y strategaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc 11-25 oed.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth wedi cael ei datblygu i wella canlyniadau i bobl ifanc trwy gynyddu mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid, mannau diogel, oedolion dibynadwy, cymorth llesiant a gweithgareddau cyfranogiad. Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi tynnu sylw at bwysigrwydd perthyn, cysylltiadau cymunedol, perthnasoedd cadarnhaol a chyfleoedd i gymryd rhan, a gall pob un o'r rhain fod o fudd i blant a phobl ifanc o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

Mae'r strategaeth hefyd yn cyfateb ag egwyddorion ehangach Cyfamod y Lluoedd Arfog sy'n ceisio sicrhau nad yw teuluoedd y Lluoedd Arfog dan anfantais wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

  • Sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn hygyrch a chynhwysol i bob person ifanc.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o wasanaethau a chyfleoedd lleol i bobl ifanc a theuluoedd sy'n symud i'r ardal.
  • Gweithio gydag ysgolion a sefydliadau partner i nodi ac ymateb i unrhyw anghenion sy'n dod i'r amlwg.
  • Monitro cyfranogiad ac adborth er mwyn nodi unrhyw rwystrau i ymgysylltiad.

 

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.

Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. 

Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Disgwylir i'r strategaeth gael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a chymunedau sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'n cydnabod effaith tlodi plant, tlodi gwledig, rhwystrau trafnidiaeth, fforddiadwyedd tai, pwysau costau byw ac allgáu digidol ar allu pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd a chymorth.

Nod y strategaeth yw gwella mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid, lleihau rhwystrau i gyfranogiad a sicrhau y gall pobl ifanc elwa ar waith ieuenctid o safon uchel waeth beth fo'u hamgylchiadau neu ble maen nhw'n byw.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?

Cafodd y strategaeth ei llywio gan ymgysylltu â phobl ifanc, sefydliadau partner, data gwasanaeth, yr Archwiliad Gwaith Ieuenctid, gwerthusiadau’r Grant Cymorth Ieuenctid a'r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Roedd pobl ifanc wedi nodi trafnidiaeth, cost, pellter ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn rhwystrau allweddol i gyfranogiad. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n ymwneud â thlodi plant, tlodi gwledig, fforddiadwyedd tai a mynediad at wasanaethau ar draws Ceredigion.

Mae nifer o'r blaenoriaethau strategol wedi cael eu cynllunio'n benodol i leihau anghydraddoldeb a gwella mynediad at gyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau gwledig neu sydd dan anfantais.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Cynnal cyfleoedd gwaith ieuenctid fforddiadwy a hygyrch.
  • Targedu adnoddau at gymunedau sy'n profi lefelau uwch o anfantais.
  • Parhau â modelau cyflenwi cymunedol, allgymorth a gwledig.
  • Hyrwyddo cynhwysiant digidol a gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd.
  • Monitro cyfranogiad ar draws cymunedau a grwpiau gwahanol.
  • Gweithio gyda phartneriaid i nodi ac ymateb i’r rhwystrau sy'n dod i'r amlwg ac yn effeithio ar bobl ifanc.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus

Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Effaith gadarnhaol. Mae'r strategaeth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymunedau cydlynol trwy gryfhau gwaith ieuenctid yn y gymuned, gwirfoddoli, cyfranogiad a gweithio mewn partneriaeth leol. Mae'n helpu pobl ifanc i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cyfrannu at fywyd cymunedol, datblygu ymdeimlad o berthyn a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymunedau lleol.

Mae'r strategaeth hefyd yn hyrwyddo cysylltiadau cryfach rhwng pobl ifanc, sefydliadau cymunedol, ysgolion, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus, gan helpu i greu cymunedau mwy cysylltiedig a gwydn.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn  hon?

Roedd yr ymgysylltu â phobl ifanc wedi tynnu sylw at bwysigrwydd mannau diogel, cyfeillgarwch, perthnasoedd dibynadwy a theimlo bod ganddynt gysylltiad â'u cymunedau. Mae'r strategaeth hefyd yn defnyddio tystiolaeth o’r ymgysylltu â phartneriaid a'r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a nododd bwysigrwydd cyfleoedd lleol, cyfleusterau cymunedol, gwirfoddoli a chysylltiadau cymunedol cryfach, yn enwedig o fewn cymunedau gwledig.

Mae sawl blaenoriaeth o fewn y strategaeth yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar gynyddu cyfranogiad, cryfhau darpariaeth gymunedol a helpu pobl ifanc i chwarae rôl weithredol yn eu cymunedau.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

  • Parhau i gefnogi cyfleoedd gwaith ieuenctid yn y gymuned.
  • Cryfhau’r ymgysylltiad â chynghorau tref a chymuned.
  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli, gweithredu cymdeithasol ac arweinyddiaeth.
  • Cefnogi digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau cymunedol lleol.
  • Annog pobl ifanc i gyfrannu at wneud penderfyniadau yn eu cymunedau.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Effaith gadarnhaol gryf. Mae'r strategaeth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol cryf at yr iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae'n hyrwyddo cyfleoedd gwaith ieuenctid dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith, hunaniaeth a diwylliant Cymru fel cryfderau yng Ngheredigion.

Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon, y celfyddydau, hamdden, gwirfoddoli a gweithgareddau cymunedol, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu cysylltiad cryfach â'u cymunedau, diwylliant a threftadaeth.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiad penodol i waith ieuenctid Cymraeg a dwyieithog ac yn cyfateb â Chymraeg 2050, Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion.

Dangosodd tystiolaeth a gasglwyd trwy weithgareddau ymgysylltu fod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol. Mae'r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at gyfraniad sefydliadau fel yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Cered a phartneriaid eraill sy'n hyrwyddo cyfranogiad a chyfleoedd diwylliannol yn y Gymraeg.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

  • Cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol.
  • Cefnogi darpariaeth gwaith ieuenctid dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.
  • Hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol, creadigol, chwaraeon a hamdden.
  • Cryfhau partneriaethau â sefydliadau Cymraeg.
  • Cefnogi datblygiad y gweithlu i gynyddu hyder wrth ddarparu gwaith ieuenctid dwyieithog.

Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?

Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg

  • Cadarnhaol

Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg

  • Cadarnhaol

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?

Mae'r strategaeth yn ymgorffori'r Gymraeg fel egwyddor drawsbynciol ac yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwaith ieuenctid dwyieithog lle bynnag y bo modd. Mae'n cydnabod bod tua 72% o blant a phobl ifanc yng Ngheredigion yn gallu siarad Cymraeg ac yn cydnabod y rôl bwysig y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae wrth gefnogi’r defnydd cymdeithasol o'r iaith y tu allan i leoliadau addysg ffurfiol.

Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i ddatblygu'r gweithlu, partneriaethau a chyfleoedd cyfranogi sy'n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau, gweithgareddau a lleoliadau gwaith ieuenctid.

Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?

  • Parhau i ddatblygu cyfleoedd dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.
  • Cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol.
  • Cefnogi dysgu'r Gymraeg a hyder o fewn y gweithlu.
  • Gweithio gyda phartneriaid megis yr Urdd, Cered a sefydliadau cymunedol lleol.
  • Monitro cyfranogiad mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fel rhan o drefniadau adolygu blynyddol.
  • Sicrhau bod deunyddiau ymgynghori, cyfathrebu ac ymgysylltu ar gael yn ddwyieithog.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Effaith gadarnhaol. Mae'r strategaeth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang trwy helpu pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gwybodus, gweithredol a chyfrifol. Trwy waith ieuenctid, mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ystyried materion fel cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, cynaliadwyedd, newid hinsawdd, cydlyniant cymunedol, hawliau dynol a gweithredu cymdeithasol.

Mae'r strategaeth yn hyrwyddo llais ieuenctid, arweinyddiaeth, gwirfoddoli a chyfranogiad, gan helpu pobl ifanc i ddeall yr effaith y gallant ei chael o fewn eu cymunedau a'r byd ehangach.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

Mae'r strategaeth yn cynnwys ymrwymiadau yn ymwneud â chyfranogiad ieuenctid, arweinyddiaeth, gweithredu cymdeithasol, gwirfoddoli, cydraddoldeb, cynhwysiant ac ymgysylltu cymunedol. Roedd pobl ifanc wedi tynnu sylw at bwysigrwydd materion megis iechyd meddwl, cydraddoldeb, cyfleoedd cyflogaeth a llesiant cymunedol trwy weithgareddau ymgysylltu a’r ymgyrch flynyddol Rhoi Dy Farn.

Mae'r strategaeth hefyd yn cyfateb â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth gyfrifol, cydraddoldeb a datblygu cynaliadwy.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

  • Cefnogi gweithredu cymdeithasol a phrosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy weithgareddau gwaith ieuenctid.
  • Annog cyfranogiad mewn mentrau cymunedol, amgylcheddol a chynaliadwyedd.
  • Darparu cyfleoedd i bobl ifanc drafod a dylanwadu ar faterion sy'n effeithio arnynt yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
  • Cryfhau cyfleoedd arweinyddiaeth a dinasyddiaeth trwy'r Cyngor Ieuenctid, gwirfoddoli a rhaglenni cyfranogiad.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo hawliau dynol, cydlyniant cymunedol a dinasyddiaeth weithredol.

 

Cryfhau’r Cynnig

Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.

Beth fyddwch chi'n ei wneud? Pryd? Pwy sy'n gyfrifol? Cynnydd
Parhau i ymgysylltu â phobl ifanc, partneriaid a chymunedau drwy gydol oes y strategaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i ymateb i anghenion lleol a materion sy'n dod i'r amlwg. Yn flynyddol (2027-2032) Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaeth Ieuenctid  
Monitro cyfranogiad ac ymgysylltiad i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n effeithio ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai sy'n profi tlodi, anabledd, ynysu gwledig neu fathau eraill o anfantais. Yn flynyddol Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaeth Ieuenctid a Rheolwyr Tîm  
Sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid, cyfleusterau, dulliau cyfathrebu a gweithgareddau cyfranogiad yn parhau i fod yn hygyrch, yn gynhwysol ac ar gael trwy'r Gymraeg a'r Saesneg. Parhaus Tîm Rheoli Gwasanaeth Ieuenctid  
Cryfhau gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltiad cymunedol, gan gynnwys cydweithio ag ysgolion, sefydliadau gwirfoddol, cynghorau tref a chymuned a gwasanaethau cymorth arbenigol. 2027-2032 Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaeth Ieuenctid  
Gweithredu'r Fframwaith Perfformiad ac Effaith i fonitro canlyniadau, effeithiau cydraddoldeb, cyfranogiad, lles, datblygu'r gweithlu ac effeithiolrwydd partneriaethau. Cylchred Adolygu Blynyddol Tîm Rheoli Gwasanaeth Ieuenctid  
Adolygu a diweddaru'r strategaeth, y cynllun gweithredu a'r AEI mewn ymateb i ddata perfformiad blynyddol, adborth gan bobl ifanc a newidiadau sylweddol mewn angen neu ddarpariaeth. Yn flynyddol Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaeth Ieuenctid  

Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)

Amherthnasol.

Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?

Trwy'r Fframwaith Perfformiad ac Effaith.


 

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio

Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Hirdymor - sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

  • Mae'r strategaeth yn darparu gweledigaeth glir pum mlynedd ar gyfer gwaith ieuenctid ar draws Ceredigion ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl ifanc yn y tymor hir. Mae'n cydbwyso’r blaenoriaethau a fydd yn cael sylw ar unwaith, megis gwella mynediad, llesiant a chyfranogiad, ag uchelgeisiau tymor hwy gan gynnwys datblygu'r gweithlu, cyfleusterau cynaliadwy, gwydnwch cymunedol, arweinyddiaeth ieuenctid a gweithio mewn partneriaeth cryfach. Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys trefniadau adolygu blynyddol i sicrhau ei bod yn parhau i ymateb i anghenion sy'n newid a heriau'r dyfodol.

Cydweithio - cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.

  • Mae'r strategaeth wedi ei datblygu a chaiff ei chyflwyno ar y cyd â phobl ifanc, ysgolion, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, gwasanaethau iechyd, Cyfiawnder Ieuenctid, Gyrfa Cymru a phartneriaid lleol a rhanbarthol eraill. Mae cyflwyno'r strategaeth yn dibynnu ar ddull system gyfan, gan gydnabod na all unrhyw sefydliad unigol o ateb holl anghenion pobl ifanc ar ei ben ei hun.

Cynnwys - cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.

  • Mae pobl ifanc wedi bod wrth wraidd datblygu'r strategaeth hon. Mae ymgysylltu wedi cynnwys arolygon, grwpiau ffocws, clybiau ieuenctid, ysgolion, gweithgareddau Cyngor Ieuenctid, grwpiau cyfranogiad a digwyddiadau ymgynghori ehangach. Mae mwy na 400 o bobl ifanc, ochr yn ochr â staff, gwirfoddolwyr, aelodau etholedig, partneriaid a rhanddeiliaid, wedi cyfrannu at lunio'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau sydd wedi eu cynnwys yn y strategaeth. Bydd pobl ifanc yn parhau i gael eu cynnwys trwy weithgarwch ymgysylltu blynyddol, trefniadau Cyngor Ieuenctid a’r ymgyrch Rhoi Dy Farn / Have Your Say.

Atal - darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.

  • Mae atal yn egwyddor graidd gwaith ieuenctid ac mae wedi'i hymgorffori trwy gydol y strategaeth. Trwy ddarparu perthnasoedd dibynadwy, mannau diogel, gweithgareddau cadarnhaol, cefnogaeth gynnar a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, mae gwaith ieuenctid yn helpu i atal problemau rhag gwaethygu ac yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc. Mae'r strategaeth hefyd yn cefnogi agendâu atal ehangach, gan gynnwys atal Cyfiawnder Ieuenctid, atal digartrefedd ymysg pobl ifanc, llesiant, diogelwch cymunedol a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.

Integreiddio - ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.

  • Mae'r strategaeth yn cyfrannu at ganlyniadau llesiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae'n cyfateb â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, y Cynllun Llesiant, y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid, yr Asesiad Digonolrwydd  Cyfleoedd Chwarae, Cymraeg 2050, y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliol a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol eraill. Mae'r strategaeth hefyd yn cryfhau gweithio ar draws meysydd gwasanaeth gan gynnwys addysg, llesiant, Cyfiawnder Ieuenctid, datblygu cymunedol, cyfranogiad ac atal, gan sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cyfrannu at ganlyniadau ehangach i bobl ifanc, cymunedau a Cheredigion gyfan.

Pedwar colofn llesiant:

  1. Cymdeithasol: Llesiant, cynhwysiant, cyfranogiad, perthyn a chysylltiad cymunedol.
  2. Economaidd: Cyflogadwyedd, datblygu sgiliau, gwirfoddoli a chyfleoedd cynnydd.
  3. Diwylliannol: y Gymraeg, hunaniaeth, treftadaeth, chwaraeon, celfyddydau a hamdden.
  4. Amgylcheddol: Ymgysylltu â'r gymuned, dysgu yn yr awyr agored, asedau lleol a chymunedau cynaliadwy.

 

Risg

Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.

  1 2 3 4 5

Meini prawf asesu effaith

Isel iawn Isel Canolig Uchel Uchel iawn

Meini prawf asesu tebygolrwydd

Annhebygol o ddigwydd Llai tebygol o ddigwydd Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd Mwy tebygol o ddigwydd Tebygol o ddigwydd

 

Disgrifiad o'r Risg Effaith Tebygolrwydd Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd)
Gall pobl ifanc anabl brofi rhwystrau i gyfranogiad os nad yw gweithgareddau gwaith ieuenctid, cyfathrebu, trefniadau trafnidiaeth neu gyfleusterau yn ddigon hygyrch a chynhwysol. 3 2 6
Gall pobl ifanc drawsrywiol ac anneuaidd deimlo'n llai abl i gymryd rhan os na chynhelir amgylcheddau gwaith ieuenctid diogel, cynhwysol a chroesawgar. 2 2 4
Gall pobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fod heb gynrychiolaeth ddigonol neu brofi rhwystrau i gyfranogiad os nad yw'r ddarpariaeth yn ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau amrywiol ac yn herio gwahaniaethu. 3 2 6
Efallai na fydd pobl ifanc sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn gallu cael mynediad at gyfleoedd oherwydd tlodi, rhwystrau trafnidiaeth, ynysu gwledig, allgáu digidol neu gost cymryd rhan mewn gweithgareddau. 4 3 12
Gall plant a phobl ifanc o deuluoedd y Lluoedd Arfog brofi anawsterau wrth gael mynediad at gyfleoedd neu gymorth yn ystod cyfnodau o drawsnewid, adleoli neu newid teuluol. 2 1 2
Gall pobl ifanc o grefyddau a chredoau gwahanol neu ddim cred deimlo eu bod wedi eu heithrio os nad yw gweithgareddau, cyfathrebu neu ddulliau ymgysylltu yn cydnabod ac yn parchu amrywiaeth yn briodol. 2 1 2