Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Rydym yn gofyn am eich barn ar ba lefel o bremiymau’r dreth gyngor y dylid eu codi ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Ngheredigion.

Ar hyn o bryd, codir tâl ychwanegol o 25% ar ben y lefel arferol o dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn y sir.

Mae deddfwriaeth newydd yn dweud mai’r Premiwm ychwanegol uchaf y gellir ei godi erbyn hyn ar dai gwag hirdymor ac ail gartrefi yw 300%, i fyny o 100% fel yr oedd ynghynt.

Yng Ngheredigion, mae 33,856 o eiddo yn gyfrifol am dalu’r dreth gyngor. O’r rhain, mae 2,289 (6.8%) naill ai’n ail gartrefi neu’n eiddo gwag hirdymor. Mae’r rhan fwyaf o’r ail gartrefi wedi’u lleoli mewn ardaloedd arfordirol, gyda eiddo gwag hirdymor fel arfer yn cael eu gweld mewn ardaloedd mwy trefol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion am glywed gennych chi am ddyfodol lefel premiymau’r dreth gyngor, gan gynnwys pa effaith y gallai unrhyw newid ei gael ar gymunedau lleol, yr iaith Gymraeg, twristiaeth a’r economi.

Sut i gymryd rhan

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Gallwch hefyd gofyn am gopi papur o’ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu trwy alw 01545 570881 neu drwy e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch copïau bapur i’ch lyfrgell lleol neu i Ymgynghoriad Premiwm Treth y Cyngor, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.

Os ydych angen cysylltu â ni ffoniwch 01545 570881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk