Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 19/01/2024.

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu rhannu gydag aelodau’r Bartneriaeth Natur Leol.

 

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein Partneriaeth Natur Leol.

E-bost: bioamrywiaeth@ceredigion.llyw.cymru

Ffôn: 01545 570881

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae glaswelltir llawn rhywogaethau, neu led-naturiol, yn gynefin gwerthfawr o safbwynt ecolegol, sydd wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae Ceredigion yn ardal bwysig oherwydd ei chynefinoedd glaswelltir, a hoffai ein Partneriaeth Natur Leol gael gwybod sut y gallwn gynorthwyo pobl i wneud yn fawr o’r cynefin rhyfeddol hwn.

Helpwch ni i benderfynu pa gymorth ychwanegol a allai fod yn ofynnol i adfer a gwella ein cynefinoedd glaswelltir arbennig, drwy gwblhau ein harolwg Partneriaeth Natur Ceredigion ynghylch Cymorth i Reoli Dolydd ar-lein.

Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Catrin Evans Consultancy, ar ran y Bartneriaeth Natur Leol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu â Catrin ar catrin@catrinevans.cymru.