Pwrpas y Strategaeth Ariannol hon yw amlinellu'r materion sy'n cael eu hystyried pan fydd y gyllideb flynyddol a'r rhagolygon tair blynedd lefel uchel yn cael eu drafftio a'u diweddaru.

Drwy ddwyn ynghyd ragdybiaethau ariannol, safonau cyflenwi gwasanaeth, anghenion demograffig, a materion cynllunio'r gweithlu yn y ddogfen hon, disgwylir y bydd y Cyngor mewn sefyllfa well i ystyried rheolaeth gyffredinol ei adnoddau er mwyn cyflawni ei amcanion.

Amcanion y Strategaeth

Amcan ariannol y Cyngor yw defnyddio’i adnoddau mewn modd gofalus a chyfrifol, ac amcan cyffredinol y strategaeth hon yw:

“darparu fframwaith a chyfeiriad a pharamedrau cyffredinol er mwyn i'r Cyngor strwythuro a rheoli ei gyllid i sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu defnyddio mewn ffordd gyfrifol a gofalus.”

Mae'r strategaeth yn cyflawni hyn drwy:

  • Amlinellu'r egwyddorion ar gyfer datblygu a gosod y gyllideb flynyddol.
  • Integreiddio a chydnabod grymoedd allanol yn y broses gyllidebu.
  • Integreiddio cynllunio ariannol a busnes, gan adlewyrchu blaenoriaethau'r Strategaeth Gorfforaethol, rhagweld y pwysau sy’n wynebu’r Awdurdod a sicrhau bod gwasanaethau’n gwella.
  • Adnabod y prif gysylltiadau â phrosesau eraill, ystyriaethau craidd a'r themâu ariannol i'w hystyried.
  • Dangos y lefelau incwm, gwariant a buddsoddiad cyfalaf rhagamcanol dros gyfnod treigl o dair blynedd.
  • Darparu un ddogfen i gyfleu'r cyd-destun, y nodau a’r amcanion ariannol i randdeiliaid.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023/24 ac Ymlaen