Sefydliwyd yr Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) fel canlyniad i brojectau peilot llwyddiannus yn Glasgow a Birmingham ac fe'i ariennir gan y Llywodraeth Ganolog. Ym mis Chwefror 2008 lansiwyd yr Uned gan Safonau Masnach Caerdydd mewn partneriaeth â Phenaethiaid Safonau Masnach Cymru i ddelio â'r broblem o fenthyca arian yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae nifer o fenthycwyr anghyfreithlon (benthycwyr didrwydded) yn cynnal eu busnesau trwy ddefnyddio tactegau i ddychryn a brawychu pobl. Yn gyffredionol, maent yn targedu aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed, fel teuluoedd ar incwm isel neu ddi-waith a theuluoedd un rhiant, ac yn codi cyfraddau llog gormodol sy'n creu sefyllfa lle na all yr unigolyn sy'n benthyca dalu'r benthyciad yn ôl.

Os ydych wedi dioddef oherwydd benthycwyr didrwydded, neu'n tybio bod benthycwyr didrwydded yn gweithredu yn eich ardal, ffoniwch Linell Gymorth 24 awr Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru: 0300 123 3311. Mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol.

Bydd Swyddogion Arbenigol wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr, gan gynnig cyngor ynghylch dyledion a phroblemau eraill.

Mae'n bwysig gwybod nad yw benthyca gan fenthyciwr didrwydded yn anghyfreithlon. Y benthyciwr sy'n torri'r gyfraith. Ni fydd WIMLU yn cymryd camau yn erbyn unrhyw unigolyn sydd wedi benthyca arian, ond yn ceisio rhoi cyngor i chi ar gyfer y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith y Timau Benthycwyr Didrwydded, ewch i: www.gov.uk/report-loan-shark