Yn achlysurol, aiff rhywbeth o'i le wrth gynhyrchu neu ddosbarthu bwyd. Mae Rhybuddion Bwyd yn rhoi manylion am achosion o'r math hwn a gellir darllen amdanynt ar y dudalen hon.

Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd system i roi gwybod i'r cyhoedd a'r awdurdodau bwyd am broblemau posibl yn genedlaethol neu'n rhanbarthol ynghylch bwyd nad ydyw'n cwrdd â gofynion diogelwch bwyd. Gelwir y rhain yn rhybuddion bwyd.

Cyngor

Caiff y system rhybuddion bwyd ei gweithredu'n bennaf drwy gydweithrediad gwirfoddol y diwydiant bwyd a'i barodrwydd i alw bwyd yn ôl o'r silffoedd neu o'r cyflenwad. Gall y system ddod ag ymateb effeithlon a chyflym i sefyllfaoedd lle gall bwyd sydd wedi'i heintio beryglu iechyd y cyhoedd ac felly mae'n sicrhau y caiff bwyd ei alw'n ôl o'r gadwyn fwyd.

Mathau gwahanol o rybuddion

Mae dau fath gwahanol o rybuddion, sef:

→ FAFA (rhybudd bwyd i'w weithredu ar unwaith)

→ FAFI (rhybudd bwyd er gwybodaeth yn unig)

Pan gyhoeddir rhybudd bwyd, bydd swyddogion yr Adran hon yn ymchwilio i weld pa mor eang y dosbarthwyd y cynnyrch o fewn y Sir a byddant yn cychwyn ar ddull gweithredu i alw'r cynnyrch yn ôl.

Cael gwybodaeth

Gellir cofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion bwyd newydd drwy ymweld â gwe dudalen Rhybuddion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd drwy glicio yma.