Mae'r Tîm Diogelwch Bwyd hefyd yn ymchwilio i nifer o achosion o glefydau heintus gan gynnwys Salmonela ac Ecoli. Mae'r dudalen hon yn cynnwys peth gwybodaeth gefndir a gwybodaeth yngl?n â beth ddylid ei wneud pe byddech yn credu eich bod wedi bwyta rhywbeth nad ydyw'n cytuno â chi.

Mae Gwenwyn Bwyd yn derm sy'n cael ei ddefnyddio i gynnwys ystod eang o afiechydon annymunol a achosir gan facteria, firysau, cemegion, metelau a phlanhigion gwenwynig.

Bacteria llunClefydau hysbysadwy

Mae clefydau hysbysadwy yn rhestr fer o afiechydon sy'n cael eu monitro a'u hymchwilio'n ofalus. Cyfrifoldeb yr Awdurdodau Lleol yw ymchwilio i rai ohonynt. Yn bennaf, mae hyn yn cynnwys gwenwyn bwyd ac afiechydon eraill sydd â goblygiadau i iechyd y cyhoedd megis y diciâu a chlefyd y lleng filwyr.

Beth yw gwaith y Tîm Bwyd?

Mae cyfran sylweddol o waith y Tîm Bwyd yn ymwneud ag ymchwilio i wenwyn bwyd, yn achosion penodol (ar wasgar) neu'n gychwyn ar lawer o achosion. Hefyd, mae'r Tîm Bwyd yn ymchwilio i achosion mewn sefydliadau megis ysgolion, cartrefi nyrsio a meithrinfeydd.

Pwy sy'n gweithio gyda'r Tîm Bwyd?

Nid yw afiechydon yn parchu ffiniau Cynghorau Sir. Mae'r Tîm yn gweithio gyda chydweithwyr mewn Awdurdodau cyfagos ynghyd â'r Asiantaeth Diogelu Iechyd a'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Ecoli llunYmchwilio i achosion

Eich meddyg teulu sy'n rhoi gwybod i'r Adran am y mwyafrif o achosion. Bydd aelod o'r tîm bwyd yna yn ceisio cysylltu â chi i drafod lle a beth y bwytaoch yn ystod y tridiau cyn i chi deimlo'n sâl, ynghyd â chael manylion yngl?n â'ch symptomau. Os yw'n bosibl cysylltu eich salwch ag achos arall yn yr ardal yna bydd swyddog yn ymweld â'r safle sydd o dan amheuaeth. Fodd bynnag, gydag un achos yn unig mae'n anodd profi bod bai ar un safle penodol. Credir bod nifer sylweddol o achosion o wenwyn bwyd yn digwydd yn y cartref.

Wrth edrych ar nifer yr achosion sy'n gysylltiedig â'i gilydd, mae'r dystiolaeth a gesglir yn cynnig gwell siawns o adnabod tarddiad yr haint. Yn yr achosion hyn, caiff camau eu cymryd i geisio atal yr haint rhag ymledu, ac yna ystyrir pa gamau allai fod yn briodol.

O ran achosion mewn sefydliadau megis ysgolion neu gartrefi nyrsio, mae'r Tîm yn gweithio gyda'i gilydd i atal yr haint rhag ymledu. Mae hyn yn golygu sicrhau nad yw plentyn sy'n dal i ddioddef o'r symptomau yn mynychu'r ysgol neu'r feithrinfa, a sicrhau bod gan gartrefi gofal a chartrefi nyrsio bolisïau ar waith i leihau'r posibilrwydd y bydd yr haint yn ymledu. Dylai sefydliadau fod â'u cynlluniau rheoli afiechydon eu hunain rhag ofn y bydd angen delio â haint. Yn y mathau hyn o safleoedd, cyfrir dau neu fwy o achosion o salwch fel haint , er byddai'r tîm yn barod iawn i drafod unrhyw gwestiwn sydd gennych.

Pili llunGorfodaeth i aros adref o'r gwaith

Dylai pawb sydd â dolur rhydd ac sy'n chwydu gadw draw o'r gwaith hyd nes 48 awr ar ôl i'r symptomau ddiflannu.

Mae hyn yn bwysig iawn os ydych yn unigolyn sy'n trin bwyd neu'n unigolyn sy'n gweithio gyda phlant ifanc neu bobl h?n. Dylech roi gwybod i'ch cyflogwr am eich salwch.

Mae wastad yn ddoeth ymweld â'ch meddyg teulu a chynnig sampl o'ch carthion i geisio darganfod pa fath o wenwyn bwyd oedd arnoch.


Mae'r tîm wedi cynhyrchu nifer o daflenni gwybodaeth sydd ar gael i'w lawr lwytho. Maent yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y clefydau heintus mwyaf cyffredin.