Coronafeirws: Grantiau Cymunedol
Ar hyn o bryd rydym ond yn derbyn ceisiadau trwy e-bost.
Plis cysylltwch â ni trwy e-bost os ydych yn cael problemau - grantiaucyllid@ceredigion.gov.uk
NODWCH OS GWELWCH YN DDA - mae'n ofynnol bellach fel rhan o'r ddogfennaeth ategol, bod pob cais i'r cynllun Grant Cymunedol yn darparu Asesiad Risg y prosiect, sy'n cyfeirio'n benodol at COVID-19. Os yw contractwyr yn cyflawni gwaith y prosiect, gofynnwch iddynt am eu hasesiad risg.
Cynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion - gwybodaeth am y grantiau a ffurflenni cais.
Pwrpas y Cynllun hwn fydd cynyddu'r ystod o gyfleodd, cyfleusterau a gweithgareddau yng Ngheredigion.
Bydd y grantiau ar gael i Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned neu Gymdeithasau Hamdden a Chwaraeon gwirfoddol bonafide sydd am wella a chynyddu'r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleon yng Ngheredigion.
Bydd cymdeithasau gwirfoddol nad ydynt yn gwneud elw, sydd â chyfansoddiad priodol yn gymwys i wneud cais am gymorth. Dylent fod wedi'u lleoli yng Ngheredigion. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau gan gymdeithasau o'r tu allan i ffiniau'r Sir pe gellid dangos y byddent yn fanteisiol i drigolion Ceredigion.
Ystyrir ceisiadau am brosiectau refeniw neu gyfalaf.
Ni fydd y Cyngor dan unrhyw amgylchiadau yn fodlon ystyried ceisiadau ar gyfer prosiectau sydd eisoes wedi eu dechrau/eu cwblhau nac ar gyfer digwyddiadau sydd eisoes wedi eu cynnal.
Prosiectau Cyfalaf
Mae'r grantiau ar gael ar gyfer pethau megis:
- prynu a datblygu tir
- prynu adeiladau
- gwella'r cyfleusterau presennol
- prynu cyfarpar
Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod, fodd bynnag ni roddir grant sy'n fwy na 50% o gost y prosiect neu'r swm sy'n ofynnol i ariannu'r diffyg yn y prosiect, hyd at uchafswm o £25,000, pa un bynnag sydd isaf.
Prosiectau Refeniw
Mae'r grantiau ar gael ar gyfer pethau megis:
- costau cynnal cymdeithas
- costau sefydlu cymdeithas
- costau cynnal digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau ac eisteddfodau
Caiff pob cais ei ystyried yn ôl teilyngdod, fodd bynnag ni roddir grant sy'n fwy na 25% o'r gost refeniw gros neu'r swm sy'n ofynnol i ariannu'r diffyg a amcangyfrifir, hyd at uchafswm o £10,000, pa un bynnag sydd isaf.
Grantiau Polisi
Mae'r grantiau canlynol yn daladwy o dan y cynllun yma:
- £200 Eisteddfodau lleol
- £200 Sioeau Amaethyddol neu/a Garddwriaethol
- £200 Unigolion - grant a roddir am y tro cyntaf y bydd unigolyn yn cynrychioli Cymru neu Brydain Fawr mewn gweithgaredd penodol (bydd unigolion sy’n cynrychioli Cymru’n cael gwneud cais hyd at 3 mis ar ôl eu gweithgaredd)
- £500 Sioeau Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Gŵyl Merlod a Chobiau Cymreig Aberaeron
- £500 Gŵyl Pysgod Bae Ceredigion, Gŵyl Fwyd Llanbedr Pont Steffan a Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi
- £500 Papurau Bro
- £3,000 Gŵyl Fawr Aberteifi, Gŵyl y Banc Awst Llambed, Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen
Telir grantiau polisi cyn gynted â phosib ar ôl eu cymeradwyo.
Ffurflenni Cais
Cyn i chi gyflwyno eich cais, a fyddech cystal â chyfeirio at y Nodiadau Cyfarwyddyd.
Er mwyn cyflwyno cais am grant, defnyddiwch y cysylltiadau (tab Lawrlwythiadau ar y dde) i lawrlwytho’r ffurflen briodol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Ar hyn o bryd rydym ond yn derbyn ceisiadau trwy e-bost.
Dylid dychwelyd y ffurflen wedi ei llanw ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol drwy ebost - grantiaucyllid@ceredigion.gov.uk
Gwybodaeth Gyswllt
Os bydd angen cymorth arnoch a wnewch gysylltu â Fflur Lawlor ar 01970 633331 neu e-bostio grantiaucyllid@ceredigion.gov.uk