
Ein Cartref, Ein Cynefin Lleoedd Lleol i Natur Cynllun Grantiau 25/26
Mae gan Bartneriaeth Natur Ceredigion £100,000 o gyllid ar gyfer prosiectau er mwyn creu, adfer neu wella asedau naturiol, a hefyd i gyflwyno natur i bobl ar garreg eu drws, lle maent yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Ariennir y cynllun gan gronfa Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Gwahoddir ceisiadau gan Grwpiau a gyfansoddwyd, Elusennau Cofrestredig, Cwmnïau, Busnesau Preifat a sefydliadau'r Sector Cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau er lles byd natur a chymunedau Ceredigion.
Dywedodd Rachel Auckland, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: “Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn croesawu ceisiadau am brosiectau i greu, adfer neu wella natur, er budd bywyd gwyllt a chymunedau difreintiedig. Rydym eisiau cefnogi prosiectau a fydd yn dod â natur yn ôl i garreg drws pobl, lle maen nhw'n byw, yn gweithio ac yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae'r pwyslais ar grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli a chymunedau difreintiedig, yn enwedig mewn ardaloedd heb fawr o fynediad at fyd natur.
Y grant mwyaf sydd ar gael yw £25,000 ond nid oes isafswm grant ac anogir grwpiau a phrosiectau llai i wneud cais. Bydd y cyllid hwn yn galluogi sefydliadau bywyd gwyllt a grwpiau cymunedol i wella lleoedd ar gyfer byd natur a phobol. Rydym yn gobeithio y bydd yn annog pobol i gyfranogi, i brofi a gwerthfawrogi natur heb wneud niwed i'r bywyd gwyllt sydd yno eisoes.”
Syniadau posib ar gyfer prosiectau:
- pyllau dŵr ar gyfer bywyd gwyllt.
- creu mannau gwyrdd ar strwythurau ac arwynebau artiffisial mewn ardaloedd trefol.
- plannu coed, perllannau, coetiroedd neu berthi ger strydoedd.
- torri porfa’n wahanol er budd bioamrywiaeth, neu greu dolydd blodeuog.
- creu mannau tyfu bwyd/ rhandiroedd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt.
Rhaid i’r ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn cynnal y prosiect am o leiaf pum mlynedd ar ôl diwedd y cyllid hwn. Gall y prosiectau gynnwys gwella mynediad i safleoedd sy’n bodoli eisoes neu rai newydd, fel y gall pawb eu mwynhau. Rhaid iddynt hefyd gynnwys gwelliannau bioamrywiaeth megis gosod blychau nythu ar gyfer adar neu ystlumod.
Dyfernir pwyntiau i brosiectau gan banel grantiau. Bydd prosiectau sy’n dod â mwy o fudd i fioamrywiaeth yn cael mwy o bwyntiau.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Ceredigion: “Ar ôl profi’n uniongyrchol ddylanwad y math hwn o gyllid, rwy'n gwybod pa mor bwerus y gall fod. Mae'n rhoi cyfle i egin syniad dyfu i fod yn rhywbeth sydd wir yn ystyrlon. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall mannau lleol ddod yn ganolfannau ffyniannus ar gyfer natur gan gefnogi bioamrywiaeth a chynnig manteision o ran iechyd meddwl a lles i bawb sy'n byw yn yr ardal neu'n ymweld â'r ardal. Dyma'r math o gyllid sy’n gallu helpu grwpiau lleol i gymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, ac rydw i wedi gweld pa mor drawsnewidiol y gall hynny fod.”
Ariennir y cynllun gan gronfa Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Gallwch ofyn am becyn ymgeisio drwy e-bostio bioamrywiaeth@ceredigion.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 19 Medi am 12 - hanner dydd.