Mae cyfle i gael cyllid wedi cael ei lansio ar gyfer unigolion, busnesau neu sefydliadau sydd â syniadau am y canlynol:

  • A ydych chi am wneud y gorau o asedau naturiol a diwylliannol yr ardal?
  • A oes gennych chi syniadau arloesol y mae angen eu treialu, ymchwilio iddynt neu roi cynnig arnynt?
  • A ydych chi am ddatblygu gwasanaethau sydd ar gael i drigolion y sir?
  • A ydych chi am wneud y mwyaf o dechnoleg adnewyddadwy?
  • A ydych chi’n teimlo bod y byd digidol yn eich gadael ar ôl?

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi lansio Cronfa Grant newydd, fel rhan o'r cynllun LEADER, a fydd yn cefnogi gweithgaredd LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.

Gall y gronfa eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, gyda'r nod o ddarparu cymorth refeniw ar raddfa fach i:

  • Sefydliadau wrth iddynt adfer yn dilyn covid.
  • Cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyn-fasnachol.
  • Peilota gweithgareddau arloesol sy’n cynnig cyfleoedd i brofi cysyniad syniad.
  • Cynorthwyo gweithgarwch sy’n cryfhau cydlynu cymunedol.

Gallwn gynnig rhwng £1,000 a £10,000, a bydd gofyn cwblhau’r holl weithgarwch a hawlio’r cyllid erbyn 30 Tachwedd 2022.

Pwy all Ymgeisio?
Gellir derbyn ceisiadau gan:

  •  Sefydliadau di-elw / mentrau cymdeithasol a phartneriaethau;
  • Elusennau Cofrestredig;
  • Grwpiau a rhwydweithiau cymunedol ffurfiol (h.y.rhaid bod ganddynt gyfrif banc gyda 2 lofnodwr, rhwydwaith/grŵp cymunedol a gyfansoddwyd);
  • Mentrau o’r sector preifat gan gynnwys unig fasnachwyr, pobl hunangyflogedig, mentrau micro/bach, cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau;
  • Y sector cyhoeddus.

Beth ellir ei gefnogi?
Gellir darparu cefnogaeth ar gyfer y canlynol:

  • Animeiddio
  • Hyfforddiant
  • Mentora
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Prosiectau Peilot
  • Hwyluso

Am wybodaeth bellach, dyddiadau cau ac i weld yr ddogfen canllaw ewch I: Cynnal y Cardi Cronfa Grant LEADER


Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn i ddatblygu mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion. Mae Cynnal y Cardi yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â syniadau am brosiectau addas.

Gellir darparu cymorth refeniw ar gyfer y canlynol:

  • Datblygu Prosiectau
  • Prosiectau Peilot
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Hwyluso
  • Hyfforddiant
  • Mentora
  • Ymgynghori

Beth yw LEADER?

Cynllun lleol yw LEADER ar gyfer datblygu cefn gwlad. Ei fwriad yw darparu gweithgareddau sy'n cefnogi ardaloedd a chymunedau gwledig, gan annog pobl i reoli’r tir a’r amgylchedd mewn ffordd gynaliadwy.

Daw LEADER o’r byrfodd Ffrangeg ‘Liaison Entre Actions pour le Development de L’Economie Rural’ sy'n cyfieithu’n fras fel 'cysylltiadau rhwng camau gweithredu ar gyfer datblygu'r economi wledig.'

Mae LEADER yn ceisio cefnogi ymatebion arloesol i’r cyfleoedd neu’r heriau a wynebir mewn ardaloedd gwledig.

Mae gan LEADER nifer o nodweddion penodol iawn:

  1. Dull gweithredu 'o’r gwaelod i fyny' wrth ystyried datblygu gwledig h.y. bod pobl leol yn cyfranogi yn y blaenoriaethau perthnasol yn eu hardal leol
  2. Arloesi – darparu cyfleoedd i brofi syniadau newydd a gweithio mewn ffyrdd gwahanol
  3. Cydweithredu - gweithredu prosiect ar y cyd gyda grŵp LEADER arall, neu gyda grŵp sydd yn gweithredu mewn modd tebyg, mewn rhanbarth neu Aelod-wladwriaeth arall. Gall cydweithredu o'r fath helpu grwpiau LEADER i roi hwb i'w gweithgareddau lleol a gall ddarparu cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ei gilydd
  4. Rhwydweithio – Cyfnewid cyflawniadau, profiadau a gwybodaeth rhwng grwpiau LEADER, ardaloedd gwledig, gweinyddiaethau a sefydliadau sy'n ymwneud â datblygu gwledig. Mae hyn yn ffordd o drosglwyddo arfer da, lledaenu dulliau arloesi ac adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o ddatblygu gwledig lleol

Mae'r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Manylion Cyswllt

Os oes gyda chi, neu eich cymuned syniad, neu os oes angen fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi ar cynnalycardi@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572063.