
Cronfa Ffyniant Gyffredin Strategol y DU 2025-2026
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Llywodraeth y DU ac yn un o elfennau pwysig ei chymorth i leoedd ar draws y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid, sy’n canolbwyntio ar bum Cenhadaeth genedlaethol: amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, hirdymor sy’n darparu ymdeimlad ysgogol o ddiben ar gyfer y wlad.
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn hybu’n rhagweithiol y gwaith o gyflawni’r Cenadaethau: yn gyrru grym i gymunedau ym mhob man, gan ganolbwyntio’n benodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob cwr o’r DU.
Cyhoeddodd Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU gyllid pellach ar gyfer buddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2026.
Ar gyfer 2025-26, mae ymyriadau presennol wedi’u mapio yn themâu a arweinir gan y Cenadaethau ar draws y tri maes â blaenoriaeth: sef Cymunedau a Lle; Cefnogi Busnesau Lleol; a Phobl a Sgiliau.
Blaenoriaethau buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chenadaethau’r Llywodraeth ar gyfer 2025 -2026
Nod ymestyn y Gronfa Ffyniant Gyffredin am flwyddyn yw darparu cyfnod pontio hwylus o raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin bresennol y DU i fframwaith cyllido newydd ar gyfer y dyfodol.
Prosiectau llwyddiannus Cronfa Ffyniant Gyffredin Strategol y DU 2025-2026