Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cronfa Effaith Balchder Bro - Cynllun Gwella Treflun Aberystwyth

Mae'r gronfa hon ar agor.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno Cynllun Gwella Treflun Aberystwyth fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i adfywio. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro gan Llywodraeth y DU a'i nod yw gwella'r dreflun a chadw cymeriad hanesyddol Ardal Gadwraeth Aberystwyth.

Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn raglen ledled Prydain Fawr sy'n anelu at ddarparu buddsoddiad i adfer balchder yn ei le, cefnogi cydlyniant cymunedol, ac ysgogi gweithgarwch economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, a arweinir gan y gymuned.

Mae Cynllun Gwella Treflun Aberystwyth yn canolbwyntio ar wella cyflwr ac ymddangosiad adeilad masnachol yng nghanol tref Aberystwyth. Mae ffryntiau masnachol cymwys yn cynnwys siopau, unedau manwerthu, caffis, bwytai, tafarndai, swyddfeydd, a darparwyr gwasanaeth fel trinwyr gwallt ac asiantau tai. Trwy fuddsoddi mewn gwelliannau cyfalaf a chynnal a chadw wedi'u targedu, nod y cynllun yw diogelu asedau treftadaeth, adnewyddu'r strydlun a chryfhau hunaniaeth unigryw Aberystwyth fel canolbwynt strategol Ceredigion.

Cronfa Effaith Balchder Bro - Cynllun Gwella Treflun Aberystwyth yn darparu cyfraniad grant o 70%.

Isafswm Cymorth y Gronfa o £5,000 yr adeilad

Uchafswm Cymorth y Gronfa o £20,000 yr adeilad

  • Gwelliannau ffasâd allanol i eiddo masnachol cymwys yn Aberystwyth
  • Rhaid i ffasâd yr adeilad fod yn weladwy o'r stryd
  • Mae'r cyllid yn gyfyngedig a bydd yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin
  • Gall ymgeiswyr wneud cais unwaith fesul adeilad

Mae hon yn alwad agored am geisiadau yng nghanol tref Aberystwyth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 30 Mehefin 2026. Rhaid i'r holl waith a ariennir gael ei gwblhau erbyn 31 Ionawr 2027.

Os hoffech wneud cais am y cynllun, cwblhewch y ffurflen Cofrestr Diddordeb isod. Os ydych yn gymwys, byddwch wedyn yn derbyn ffurflen gais i'w llenwi.

Ffurflen Cynllun Gwella Tirlun Tref Aberystwyth

Mae Cynllun Gwella Treflun Aberystwyth yn grant yn ôl disgresiwn, yn amodol ar asesiad am werth am arian a chymeradwyaeth gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae ceisiadau yn cael eu hadolygu'n fisol gan banel asesu a rhaid eu cwblhau'n llawn cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am benderfyniad y panel trwy e-bost o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod asesu.