Mae gallu manteisio ar wasanaethau symudol dibynadwy wedi dod yn rhywbeth hanfodol i'r ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ar draws Ceredigion. Wrth i bobl ddefnyddio apiau a gwefannau yn gynyddol i wylio fideos, gwrando ar gerddoriaeth a chyfathrebu wrth iddynt fynd o le i le, mae swm y data symudol yr ydym yn ei ddefnyddio wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod bod ardaloedd yn y Sir nad ydynt yn gallu manteisio ar signal ffôn 4G dibynadwy, ac ar hyn o bryd, ni all bron i 1 o bob 10 eiddo fanteisio ar wasanaeth o'r fath o ystyried y ffaith bod topograffeg y rhanbarth a'r dwysedd poblogaeth is yn rhwystrau er mwyn gwella'r gwasanaeth symudol.

Deallir yr effaith y gall hyn ei gael ar fywyd dyddiol ac ar fusnesau ar draws y rhanbarth, felly dyma pam bod Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda gweithredwyr y rhwydwaith symudol er mwyn sicrhau gwelliannau o ran hygyrchedd a dibynadwyedd y signal ffôn ar draws y Sir.

Mae'n bosibl archwilio'r gwasanaeth y gallwch ddisgwyl ei gael gan yr holl brif ddarparwyr y tu mewn a thu allan trwy droi at gyfleuster archwilio gwasanaeth Ofcom

Mae'r Rhwydwaith Gwledig ar y Cyd (SRN) yn drefniant lle y mae EE, O2, Three a Vodafone yn buddsoddi mewn rhwydwaith o fastiau ffôn newydd ac sy'n bodoli eisoes, a gaiff ei oruchwylio gan gwmni mewn perchnogaeth ar y cyd o'r enw Digital Mobile Spectrum Limited, y byddent oll yn ei rannu.

Bydd yn addo cynnig gwasanaeth i 280,000 o eiddo a gwerth 16,000 cilomedr o ffyrdd ar draws y DU.  Yn ogystal, disgwylir iddo sicrhau gwelliannau anuniongyrchol pellach gydag amser, gan gynnwys rhoi hwb i'r gwasanaeth 'mewn car' ar tua 45,000 cilomedr o ffyrdd a chynnig gwasanaeth gwell y tu mewn ar gyfer oddeutu 1.2m o gartrefi a safleoedd busnes.

Bydd y trefniant yn arwain at gynyddu'r gwasanaeth mewn rhai ardaloedd gymaint â dros un rhan o dair, a gwelir y gwelliannau mwyaf i'r gwasanaeth mewn rhannau gwledig o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'n golygu y bydd y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol yn sicrhau gwasanaeth cyfunol o 95% ar draws y DU gyfan erbyn diwedd 2025, a gall defnyddwyr ddibynnu ar rwydwaith eu darparwr eu hunain lle bynnag y maent.  Yng Nghymru, disgwylir y bydd 80% o'r Sir yn gallu manteisio ar wasanaeth gan y 4 Prif Weithredwr Rhwydwaith (MNO's) a 95% gan o leiaf 1 MNO, o'i gymharu â 58% ac 89% yn 2020.  Gwelir y manteision mwyaf mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion.

Gellir gweld manylion pellach am y prosiect ar wefan Llywodraeth y DU. (Seasneg yn unig)

Mae'r Swyddfa Gartref yn arwain rhaglen traws-lywodraethol i ddarparu system gyfathrebu hanfodol newydd y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN).  Bydd hon yn disodli'r gwasanaeth Airwave a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ym Mhrydain (Cymru, Lloegr a'r Alban) ar hyn o bryd, gan drawsnewid y ffordd y maent yn gweithredu.

Gellir gweld manylion pellach am y prosiect i wella system gyfathrebu y Gwasanaethau Brys ar wefan Llywodraeth y DU. (Saesneg yn unig)

Mae Mobile UK wedi paratoi gwybodaeth i esbonio rhai o'r camau y mae'r diwydiant yn eu cymryd, gwybodaeth am sut i gysylltu gyda phob gweithredwr symudol, ac ychydig gyngor defnyddiol ychwanegol y gallai fod o gymorth ar eu gwefan. (Saesneg yn unig)

5G

5G yw cenhedlaeth nesaf y cysylltiad rhyngrwyd symudol ac mae'n cynnig cyflymder lawrlwytho a lanlwytho data llawer gwell.

Mae 5G yn gweithredu ar yr un amleddau radio sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer eich ffôn clyfar, ar rwydweithiau Wi-Fi ac mewn technoleg cyfathrebu lloeren, ond mae'n galluogi technoleg i weithredu mewn ffordd llawer cyflymach a bod mwy o ddyfeisiau yn gallu manteisio ar y rhyngrwyd symudol ar yr un pryd.

Y tu hwnt i'r gallu i lawrlwytho ffilm HD lawn i'ch ffôn mewn ychydig eiliadau, mae 5G yn ymwneud gyda chysylltu pethau mewn ffordd fwy dibynadwy a heb oedi – fel y gall pobl fesur, deall a rheoli pethau mewn amser real, sy'n gallu cynnig manteision i fusnesau a defnyddwyr y cartref.

Gellir gweld gwybodaeth bellach am 5G ar wefannau Ofcom a Mobile UK (Saesneg yn unig)

Dolennu Defnyddiol

  • Cyfleuster Archwilio Gwasanaeth Symudol (Ofcom)
  • Gwella'ch derbyniad ffôn symudol (Ofcom)
  • Diweddariadau a gwybodaeth gan weithredwyr rhwydwaith symudol y DU (Mobile UK) (Saesneg yn unig)
  • Mastiau Symudol yn fy ardal i (Cell Mapper) (Saesneg yn unig)