Mae technoleg ddigidol yn newid ein bywydau, ac mae pandemig COVID-19 wedi cyflymu'r newid hwn yn sylweddol. Bellach, mae technoleg ddigidol yn rhan o'n bywydau bob dydd ac mae gallu manteisio ar wasanaethau ar-lein wedi dod yn sgìl pwysig.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dymuno cynorthwyo pobl i feithrin yr hyder digidol i droi at y rhyngrwyd a mwynhau'r manteision niferus a gynigir mewn byd digidol. Rydym yn dymuno i bawb feithrin sgiliau digidol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt deimlo'n hyderus wrth fanteisio ar yr offerynnau a'r technolegau o'u hamgylch.

Sgiliau Digidol yn y Cartref

Mae Addysg Gymunedol Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Bro Dysgu nod yw darparu cyfleoedd dysgu i drigolion Ceredigion yn eu cymunedau fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.

Mae dosbarthiadau dechreuwyr am ddim ar gael yn ogystal â benthyca offer i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau.

Dysgu Bro

Nod Cymunedau Digidol Cymru yw lleihau allgáu digidol yng Nghymru, lle y mae gan bawb y sgiliau, y cyfle a'r cymhelliant i fod yn ddefnyddwyr technoleg ddigidol hyderus.

Cymunedau Digidol Cymru

Cyrsiau am ddim er mwyn eich peri i deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol.  O ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur i weithgareddau a gemau er mwyn helpu plant i ddysgu sgiliau newydd.

Cyrsiau am ddim er mwyn peri i chi deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol.  O gael swydd i lansio busnes newydd.  Ceir amrediad o gyrsiau ac adnoddau er mwyn eich helpu i roi cychwyn arni.

Sgiliau Digidol ar gyfer Yfory (Saesneg yn unig)

Cyrsiau digidol a rhifedd am ddim er mwyn meithrin eich sgiliau i gynorthwyo bywyd bob dydd a chyflogaeth.

Y Pecyn Cymorth Sgiliau (Saesneg yn unig)

Mae Barclays wedi creu cynnwys er mwyn helpu cwsmeriaid i feistroli bancio a chymdeithasu ar-lein, a dysgu sut i fanteisio ar wasanaethau teledu a chyfryngau cymdeithasol ar-lein mewn ffordd effeithiol.  Yn ogystal, maent yn cynnig cyngor am gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, cyfrineiriau a chwarae gemau ar-lein.

Sgiliau Digidol Barclays (Saesneg yn unig)

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes

Mae technoleg ddigidol wedi gweddnewid y ffordd yr ydym yn gweithio – ond mae nifer o fusnesau llai nad ydynt yn meddu ar sgiliau digidol yn cael eu gadael ar ôl. Yn y gweithle modern, gwerthfawrogir sgiliau digidol yn fawr; yn y dyfodol, bydd sgiliau digidol yn hanfodol.

Dyma rai o'r rhesymau dros goleddu sgiliau digidol yn y gweithle:

Gyda'r hyfforddiant cywir, gall cyflogeion ddefnyddio technoleg ddigidol er mwyn bod yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith.  Er enghraifft, gellir creu, storio a throi at ddogfennau digidol mewn ffordd fwy effeithlon na rhai argraffedig, ond dim ond os bydd cyflogeion yn gwybod sut i ddod o hyd iddynt, eu defnyddio a'u rhannu mewn ffordd hyderus.  Os byddant yn cael anhawster gyda hyn, bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y defnyddir amser cyflogeion yn y gweithle – a bydd hyn yn arwain at ganlyniadau ar gyfer cynhyrchiant y busnes.

Yn ôl Microsoft, dros y ddau ddegawd nesaf, bydd gofyn cael rhyw fath o sgiliau digidol er mwyn gallu cyflawni 90% o swyddi, a bydd mwy o alw am sgiliau technegol er mwyn cynnig mantais gystadleuol i fusnesau yn eu marchnad.  Trwy fuddsoddi yn yr hyfforddiant cywir ar gyfer eich cyflogeion, maent yn fwy tebygol o sicrhau perfformiad gwell na'u cymheiriaid mewn sefydliadau cystadleuol – gan helpu eich busnes i gadw un cam ar y blaen i'r gystadleuaeth.

Bydd datblygiadau technolegol yn parhau i gynnig ffyrdd newydd o weithio.  Bydd busnesau sy'n coleddu'r newidiadau hynny yn manteisio ar weithlu bodlon iawn, sy'n awyddus i gydweithio, cyfathrebu neu ddefnyddio offerynnau newydd sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu swyddi mewn ffordd fwy effeithlon.  Gallai hyn gynnwys mynediad gwell i drefniadau gweithio o bell, meddalwedd berthnasol a chymwysiadau cwmwl neu ehangu argaeledd hyfforddiant ar-lein.

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bellach yn cydnabod yr angen am bresenoldeb ar-lein cryf er mwyn helpu i gynyddu refeniw.  Mae ffurfiau gwerthu a marchnata traddodiadol yn dyddio wrth i ddefnyddwyr droi at sianelau digidol er mwyn prynu'r eitem honno yn y diwedd.  Bellach, mae'r rhan fwyaf o brynwyr yn ystyried cynnwys ar-lein megis erthyglau blog neu fideos byr wrth wneud eu penderfyniadau prynu terfynol.  Os yw busnesau yn gobeithio cynyddu refeniw, bydd angen iddynt fod ble y mae eu cwsmeriaid, gan ddefnyddio amrediad o sgiliau digidol er mwyn ymgysylltu, perswadio ac ysgogi'r galw trwy'r sianelau ar-lein y maent yn eu ffafrio.

Bellach, mae defnyddwyr yn treulio mwy o amser ar sianelau digidol a cheir cryn alw am brofiad ar-lein gwell.  Mae angen i fusnesau ymateb i ddisgwyliadau sy'n newid, gan ymgysylltu gyda'u cwsmeriaid a meithrin perthnasoedd trwy gyfrwng ystod amrywiol o sianelau – gallai'r rhain gynnwys e-bost, cyfryngau cymdeithasol, apiau symudol a mwy.  Mae'n hanfodol bod cyflogeion yn meddu ar y sgiliau cywir a'r foeseg gywir ar y we er mwyn sicrhau bod y profiad ar-lein i gwsmeriaid yn un cadarnhaol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau digidol wrth gynorthwyo busnesau'r Sir a pharhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang er mwyn sicrhau twf economaidd, cydnerthedd a lles. Rydym yn dymuno cynorthwyo busnesau i gyflymu'r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol er mwyn gweithio mewn ffordd sy'n fwy clyfar ac ysgogi arloesedd, gan sicrhau bod busnesau lleol yn y sefyllfa orau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd yn y dyfodol.

Ceir nifer o adnoddau a chymhorthion er mwyn cynorthwyo eich busnes a'ch cyflogeion i goleddu technoleg ddigidol er mwyn sicrhau'r manteision a restrir uchod.

Os ydych yn dymuno symud ar-lein, sicrhau bod y 'busnes fel arfer' newydd yn llwyddiannus neu gynnal presenoldeb brand yn lleol ar gyfer yr adeg pan fydd pethau yn dychwelyd i'r arfer, gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gynorthwyo i roi technoleg ddigidol wrth wraidd eich busnes a'ch helpu i gynyddu gwerthiant gymaint ag y bo modd trwy ei raglenni a'i gyrsiau am ddim.

Cyflymu Cymru i Fusnesau

Mae BT wedi datblygu Cyfleuster Archwilio Iechyd Digidol er mwyn cynorthwyo busnesau i werthuso pa mor dda y maent yn defnyddio TG a thechnoleg er mwyn cyflawni eu hamcanion.  Yn ogystal, mae'n darparu cymorth ynghylch sut y dylai busnesau addasu ac esblygu er mwyn gwireddu eu holl botensial.

Cyfleuster Archwilio Iechyd Digidol BT (Saesneg yn unig)

Mae Go Connect yn sefydliad Ieuenctid a Chymunedol sy'n arbenigo mewn hyfforddiant Menter a Chyflogadwyedd.  Maent yn credu mewn sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb er mwyn i bawb allu manteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i nodi eu huchelgais a gwireddu eu holl botensial.

Go Connect Wales (Saesneg yn unig)

Cyrsiau am ddim er mwyn eich galluogi i deimlo'n fwy hyderus ar-lein a meithrin eich sgiliau digidol er mwyn gwella'ch busnes.  Ceir amrediad o gyrsiau ac adnoddau er mwyn helpu i sicrhau bod eich busnes yn llwyddiant.

Sgiliau Digidol ar gyfer Yfory (Saesneg yn unig)

Mae Digital Boost yn helpu elusennau a busnesau bychain i sicrhau'r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnynt.  Mae Digital Boost yn darparu gwaith mentora, gweithdai, cyrsiau, a chynnwys am ddim er mwyn eich helpu i ddeall digidol yn well.

Digital Boost (Saesneg yn unig)

Gwasanaeth Busnes Cymru sy'n cynnig porth i chi archwilio pa raglenni hyfforddiant a sgiliau sydd ar gael yn ein hardal.

Y Porth Sgiliau

Cyrsiau digidol a rhifedd am ddim er mwyn meithrin eich sgiliau i gynorthwyo bywyd bob dydd a chyflogaeth.

Y Pecyn Cymorth Sgiliau (Saesneg yn unig)

Cyrsiau hyfforddiant a gynlluniwyd i feithrin eich hyder a helpu eich busnes i ffynnu.  Maent yn darparu offerynnau er mwyn sicrhau bod eich busnes yn llwyddo, gwella eich sgiliau cyfweld a chynorthwyo datblygiad gyrfa trwy ddefnyddio sgiliau digidol.

Garej Digidol Google (Saesneg yn Unig)