Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i lefydd ar draws y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileru canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid newydd ar gyfer buddsoddiad lleol hyd at fis Mawrth 2025.
Mae dogfen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU 2022-25 a gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys yn dilyn ôl troed Tyfu Canolbarth Cymru yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dyraniad UKSPF o £42.4m yng Nghanolbarth Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025.
Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gronfa.
Fel y nodir yng nghanllawiau'r SPF, bydd Ceredigion a Phowys yn defnyddio eu dyraniadau SPF drwy fuddsoddi ar draws y meysydd buddsoddi sy’n flaenoriaeth iddynt ac a restrir isod;
- Cymunedau a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau
- Lluosi
Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25
Cyhoeddwyd y cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau ar 9 Mawrth, 2023.
Agorodd ceisiadau ar gyfer yr UKSPF yng Ngheredigion ar 20 Mawrth 2023.
Sut i Wneud Cais:
Dylai pob ymgeisydd lawr lwytho ffurflen gais a'r ddogfen ganllaw. Sgroliwch i lawr am ddolenni i'r rhain a dogfennau atodol.
Prosiect Craidd
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu rhai prosiectau craidd a bydd y gwaith cyflawni yn dechrau cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig nad yw ceisiadau a gyflwynir o dan unrhyw alwadau yn dyblygu'r prosiectau craidd yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol. Rhagwelir bydd y prosiectau craidd yn rhedeg hyd at 31 Rhagfyr 2024 (yn amodol ar gyllid). Mae'r prosiectau craidd yn cyfuno gweithgaredd i'w gweithredu gan y Cyngor Sir ei hun trwy gomisiynu neu drwy weithredu fel cynlluniau grant fydd yn cynnig cyllid i drydydd parti. Rhoddir manylion y prosiectau craidd isod. Lle gall cais gael cyllid drwy gynllun grant prosiect craidd, ni ddylid ei gyflwyno drwy unrhyw alwadau.
Bydd ceisiadau rhanbarthol yn cael eu hystyried; cysylltwch â'r tîm drwy UKSPF@ceredigion.gov.uk i drafod ymhellach.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11:59pm dydd Sul 16 Ebrill 2023 a 11:59pm dydd Sul 14 Mai 2023.
Mae yna ddau ddyddiad cau wedi ei gosod i alluogi'r ymgeiswyr hynny sydd yn methu cwrdd â’r dyddiad cau cyntaf oherwydd bod y dystiolaeth a chaniatâd ddim yn lle.
I’r ymgeiswyr hynny sydd yn barod i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau cyntaf byddem yn argymell bod y cais yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hynny gan mae cyntaf i’r felin gaiff falu.
Anfonwch eich ceisiadau wedi'u cwblhau i UKSPF@ceredigion.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Ceredigion ar UKSPF@ceredigion.gov.uk.
Pecyn Gais a Dogfennau Atodol
- Ffurflen Gais
- Canllawiau
- Meini Prawf Sgorio
- Sleidiau Gwybodaeth Weminar
- Prosiectau Craidd
- Hybu Economi Ceredigion: Strategaeth i Weithredu 2020-35
I gael rhagor o wybodaeth am y manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch:
- Ceredigion - ukspf@ceredigion.gov.uk
- Powys - ukspf@powys.gov.uk