Mae Gorchmynion Cadwraeth Coed yn diogelu llawer o goed a choetiroedd yng Ngheredigion.

Saethiad agos o dail

Rhoddir Gorchmynion Cadwraeth Coed ar goed, grwpiau o goed a choetiroedd ar sail eu tirwedd a gwerth mwyniant. Mae tua 200 o Orchmynion Cadwraeth Coed yn eu lle yng Ngheredigion.

Wrth wneud Gorchmynion Cadwraeth Coed, mae'r Cyngor yn cymryd y ffactorau canlynol i ystyriaeth:

  • Byddai cael gwared ar goed yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a'r mwynhad a roddant i'r cyhoedd
  • Mae'r coed yn weladwy o fan cyhoeddus
  • Mae prydferthwch ynddo'i hun gan y coed yn eu cyfraniad i'r tirwedd
  • Mae gwerth cadwraeth natur i'r coed neu mae iddynt gysylltiad diwylliannol
  • Mae'r coed yn diogelu rhag datblygiadau'r dyfodol

Yn fyr, mae Gorchmynion Cadwraeth Coed yn atal dymchwel a thocio coed (neu wneud gwaith penodol arall) oni bai y ceir caniatâd yr awdurdod lleol yn gyntaf.

Ar ben hyn, diogelir hefyd goed mewn Ardaloedd Cadwraeth: rhaid rhoi rhybudd o 42 diwrnod i'r awdurdod lleol cyn gwneud y gwaith. Rhydd y cyfnod hwn gyfle i'r Cyngor roi Gorchymyn Cadwraeth Coed ar y coed neu'r goeden o dan sylw.

Caiff coed eu diogelu hefyd drwy'r drefn o drwyddedu torri coed, a weinyddir gan y Cyfoeth Naturiol Cymru.

Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Gorchymyn Cadwedigaeth Coed

Gwarchod Coed - Nodiadau Cais

Ffurflen Cais Gwaith Coed

Trwyddedau Cwympo Coed

Cofrestr Gorchymyn Cadwedigaeth Coed
Efallai na fydd y gofrestr yn rhestr gynhwysfawr cyn 2017

 

Nodyn: mae'r gwybodaeth yma yn arweiniad yn unig ac dim yn darparu canllaw terfynol i'r cyfraith.

Mae'r gwrychoedd a'r cloddiau - nifer ohonynt yn hynafol - yn nodwedd amlwg o gefn gwlad Ceredigion ac yn gynefin i fywyd gwyllt.

Golygfa panoramig o cefn gwlad

Maent hefyd o fudd i amaethyddiaeth am eu bod yn cynnig lloches i dda byw.

Oherwydd y pryderon am nifer y gwrychoedd a gollwyd, cyflwynwyd rheoliadau ym 1997 i reoli'r broses o waredu'r gwrychoedd. Caiff y system yma ei gweinyddu gan awdurdodau lleol.

Gwneud cais am Hysbysiad Cael Gwared â Gwrych

Gwarchod Gwrychoedd

Cyfarwyddyd Gwrych - Nodiadau Cais

Noder: rhoddir y wybodaeth hon fel arweiniad yn unig nid yw'n ganllaw terfynol o'r sefyllfa gyfreithiol.