Mae dyletswydd barhaus ar yr Awdurdod Lleol i bennu unrhyw eiddo yn y sir sy’n cael ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth, a hynny er mwyn ei drwyddedu. Er bod yr awdurdod yn mynd ati i gael gafael ar wybodaeth am Dai Amlfeddiannaeth a allai fod yn gweithredu heb drwydded, rydym yn sylweddoli nad oes modd i ni gael darlun llawn o’r Tai Amlfeddiannaeth sydd ar gael yng Ngheredigion heb eich cymorth chi.

Felly, mae o gymorth mawr i ni pan fydd, er enghraifft, tenantiaid, cymdogion neu landlordiaid sy’n ufuddhau i’r gyfraith, yn rhoi gwybod i Gyngor Sir Ceredigion os ydynt yn amau bod eiddo’n cael ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded. I weld a yw eiddo eisoes wedi’i drwyddedu, cewch gipolwg ar ein cofrestr ar-lein yma. Byddwn yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i’r Awdurdod Lleol yn gyfrinachol.

Efallai eich bod yn pryderu am y modd y mae Tŷ Amlfeddiannaeth trwyddedig yn cael ei reoli. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ymchwilio i’r pryderon a gall fod modd iddo fynd i’r afael â’r problemau, os yw’n briodol. Defnyddiwch y ddolen i gysylltu â ni.