A. Diffiniad penodol o Dŷ Amlfeddiannaeth (a’r eithriadau). Mae’n ymwneud â’r:
- math o lety
- yr hyn a olygir gan amlfeddiannaeth
- a yw’r eiddo’n breswylfa bona fide
i. Cewch hyd i ddeddfwriaeth sy’n pennu a ellir diffinio eiddo fel Tŷ Amlfeddiannaeth ai peidio drwy ddefnyddio’r dolenni hyn:
- diffiniad cyfreithiol o’r math o eiddo sy’n cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth (1)
- diffiniad o’r math o eiddo a addaswyd yn fflatiau sy’n cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth (1)
ii. Cewch hyd i ddeddfwriaeth sy’n pennu a yw eiddo wedi’i eithrio o’r diffiniad o Dŷ Amlfeddiannaeth drwy ddefnyddio’r dolenni hyn:
- rhestr o’r mathau penodol o eiddo sydd wedi’u heithrio o’r diffiniad o Dŷ Amlfeddiannaeth – e.e. tai perchentywyr (2)
- y system gyfreithiol sy’n eithrio mathau eraill o eiddo – gan gynnwys y penderfyniad ynghylch nifer y lletywyr (neu lojers) a ganiateir (3) a
- rhestr o’r mathau o eiddo sydd wedi’u heithrio (3)
- diwygiad i Ddeddf Tai 2004 sy’n caniatáu i gydweithfeydd gael eu heithrio o’r diffiniad o Dŷ Amlfeddiannaeth (4)
iii. Cewch hyd i’r diffiniad cyfreithiol o ‘aelwyd’ [‘household’] drwy ddefnyddio’r dolenni hyn:
- diffiniad cyfreithiol o’r hyn sy’n gyfystyr ag aelwyd (at ddibenion penderfynu a oes mwy nag un aelwyd yn byw mewn eiddo ai peidio) (5)
- disgrifiad o’r amgylchiadau lle y gellir ystyried bod cyflogeion domestig yn rhan o aelwyd y cyflogwr (3)
- rhestr o’r unigolion eraill y gellir eu hystyried yn rhan o aelwyd y teulu (3)
iv. Cewch hyd i’r diffiniad cyfreithiol o ‘brif breswylfa’ [‘main residence’] drwy ddefnyddio’r dolenni hyn:
- cynnwys grwpiau penodol fel preswylwyr. e.e. myfyrwyr (6)
- cynnwys ‘gweithwyr mudol’ fel preswylwyr (3)
v. Cewch hyd i’r diffiniad cyfreithiol o’r ‘amod unig ddefnydd’ [‘sole use condition’] drwy ddefnyddio’r ddolen hon:
B. Deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r gofyniad i drwyddedu eiddo.
i. Cewch hyd i ddeddfwriaeth sy’n pennu a oes angen trwyddedu eiddo ai peidio drwy ddefnyddio’r ddolen hon:
C. Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth.
i. Manylion rhwymedigaethau rheoli’r unigolion hynny sy’n rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth:
- rhestr o’r dyletswyddau rheoli fel y maent yn berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth yn gyffredinol (9)
- amrywiadau i’r rheoliadau rheoli fel y maent yn berthnasol i fflatiau (10)
(1) Deddf Tai 2004 adrannau 254/257
(2) Deddf Tai 2004 Atodlen 14
(3) Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
(4) Deddf Lleoliaeth 2011 adran 185
(5) Deddf Tai 2004 adran 258
(6) Deddf Tai 2004 adran 259
(7) Deddf Tai 2004 adran 260
(8) Deddf Tai 2004 adran 61
(9) Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006
(10) Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007