O dan Ddeddf Tai 2004, mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod tai ar hyd a lled y Sir yn bodloni safonau derbyniol.

Gall yr Awdurdod Lleol wneud hyn drwy ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i gyflawni asesiad risg er mwyn pennu a oes unrhyw beryglon yno.

Bydd y ddogfen amgaeedig ‘Yr Eiddo Delfrydol’ yn dangos yr hyn y bydd swyddog yr Awdurdod Lleol yn chwilio amdano pan fydd yn cyflawni’r asesiad.

Gallwch hefyd weld y safonau sy’n berthnasol i drwyddedu tai amlfeddiannaeth (HMOs) a’r gwahaniaethau rhwng safon dderbyniol a safon ddelfrydol o ran tai amlfeddiannaeth. Mae angen rheoli tai amlfeddiannaeth yn briodol, yn ogystal â chynnal a chadw’r eiddo. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar y tudalennau Tai Amlfeddiannaeth.

Os bydd yr Awdurdod Lleol yn canfod unrhyw beryglon difrifol (categori 1), bydd fel arfer yn cymryd camau gorfodi pellach i sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni i leihau neu i ddileu’r perygl.