Cyngor Sir Ceredigion yw’r ‘Awdurdod Tai Lleol’ ar gyfer Ceredigion. Mae hyn yn golygu bod gennym rai dyletswyddau, rhwymedigaethau a phwerau statudol sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod safon, rheolaeth a diogelwch anheddau yng Ngheredigion yn cael eu cynnal, yn enwedig ar gyfer eiddo ar rent.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd gyffredinol i bennu cyflwr anheddau preswyl yn ei ardal, a lle mae amodau a allai fod yn niweidiol i'r meddianwyr, ymchwilio iddynt a chymryd camau a fydd yn gwella'r annedd i safon dderbyniol. Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd hefyd i sicrhau bod pob Tŷ Amlfeddiannaeth yn ei ardal wedi'i drwyddedu ac i fonitro a ydynt yn cael eu rheoli'n dda.

Gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i ble y bu achos o dorri cyfraith tai o bosibl, ac erlyn lle mae hyn er budd y cyhoedd. Mae Troi Allan yn Anghyfreithlon neu fethiant i drwyddedu neu reoli tai amlfeddiannaeth yn gywir yn enghreifftiau o hyn.

Rhoddir pwerau i'r Awdurdod Lleol sicrhau bod landlordiaid/ perchnogion yn cyflawni gwaith neu gamau sy'n angenrheidiol i gael gwared ar unrhyw beryglon. Mae materion o'r fath yn destun proses apelio.

Os gwelwn, ar ôl asesiad System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, fod gan eiddo berygl 'Categori 1' neu 'Categori 2', gallwn benderfynu rhoi Hysbysiad Gorfodi i sicrhau bod iechyd a diogelwch yn cael ei wella i lefel dderbyniol.

Y camau y gallwn eu cymryd, o dan Ddeddf Tai 2004, yw;

  • Rhoi Hysbysiad Gwella
  • Gwneud Gorchymyn Gwahardd
  • Rhoi Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Berygl
  • Cymryd Camau Adfer Brys
  • Gwneud Gorchymyn Gwahardd Brys
  • Gwneud Gorchymyn Dymchwel​
  • Datgan Ardal Glirio

Efallai y byddwn hefyd yn ystyried a allai deddfwriaeth arall fod yn fwy priodol i'w defnyddio o dan yr amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y byddwn yn penderfynu rhoi Hysbysiad Atal Niwsans Statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 neu ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei wneud gan ddefnyddio pwerau Deddf Adeiladu 1984.

Mae’r Awdurdod Lleol wedi mabwysiadu Polisi Gorfodi sy'n ceisio sicrhau:

  • Bod penderfyniadau ynghylch camau gorfodi yn deg, yn gymesur ac yn gyson
  • Bod swyddogion yr Awdurdod Lleol yn defnyddio canllawiau a chodau ymarfer cyfredol y Llywodraeth pan fyddant yn cyflawni unrhyw asesiadau neu’n llunio unrhyw farn