Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwasanaeth Goruchwylio

Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch ac i alluogi pob cartref, gan gynnwys aelwydydd agored i niwed a/neu bobl hŷn, i dderbyn grantiau yn effeithiol, mae’r Cyngor yn cynnig Gwasanaeth Goruchwylio mewnol llawn.

Aelwydydd oedrannus neu agored i niwed sy’n cyflwyno’r mwyafrif o geisiadau grant i'r Cyngor ac mae dewis Gwasanaeth Goruchwylio’r Cyngor yn dileu’r pryder a’r straen y gallai unigolion eu profi wrth wneud cais am grant ac wrth oruchwylio gwaith adeiladwr wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer uchel o ymgeiswyr grant wedi defnyddio’r Gwasanaeth Goruchwylio i weithredu ar eu rhan. Bydd staff yn trefnu prawf o berchnogaeth, llunio cynlluniau, gwneud ceisiadau Cynllunio a Rheoleiddio Adeiladu statudol a chyflawni'r holl ffurfioldebau o benodi (ar ran y trigolion) contractwr adeiladu addas. Caiff y gwaith adeiladu ei gyflawni o fewn amserlen y cytunwyd arni ac fe’i goruchwylir gan ein harolygwyr cymwysedig hyd nes y caiff ei gwblhau i safon foddhaol.

Gall y rhai hynny sy’n ymgeisio am fenthyciadau Gwella Cartrefi a benthyciadau Eiddo Gwag ddewis y gwasanaeth hwn os ydynt yn dymuno, am dâl o 10%.