Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gostyngiadau Ynni a Grantiau Eraill

Gyda chost ynni’n codi, mae nifer o gynlluniau a grantiau llywodraeth ar gael i helpu gyda biliau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer megis y Gostyngiad Cartref Cynnes, y Taliad Tanwydd Gaeaf a’r Taliad Tywydd Oer.

Gostyngiad Cartref Cynnes

Mae Gostyngiad Cartref Cynnes y Llywodraeth yn helpu cwsmeriaid gyda'u biliau ynni yn ystod misoedd y gaeaf.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae Taliad Tanwydd Gaeaf yn grant gan y llywodraeth i helpu i dalu eich biliau gwresogi yn ystod cyfnod y Gaeaf

Taliad Tywydd Oer

Mae Taliad Tywydd Oer y Llywodraeth ar gael os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, a bod eich ardal wedi dioddef tymheredd o dan 0 gradd am 7 diwrnod yn olynol.

Cynllun Uwchraddio Boeleri

Trwy'r Cynllun Uwchraddio Boeleri, efallai y byddwch yn gallu derbyn cyfraniad grant tuag at y gost o newid system wresogi tanwydd ffosil (er enghraifft, system olew neu nwy) gyda phwmp gwres neu foeler biomas. Ewch i tudalen Apply for the Boiler Upgrade Scheme ar wefan Llywodraeth y DU i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn.