Cymorth o £5000 ynghyd â TAW a ffioedd i gael gwared a pheryglon (diffyg atgyweirio) mewn eiddo. Nid cymorth grant yw hwn, ond cymorth ariannol a ddarperir tra bydd y derbynnydd yn meddiannu’r eiddo.

Pa waith y mae’r cymorth hwn yn berthnasol iddo?

Bwriedir i’r Cymorth Trwsio Cartrefi Brys helpu pobl sy’n agored i niwed a/neu’r henoed i gyflawni gwaith atgyweirio brys er mwyn cael gwared a pheryglon uchel eu risg. Mae’r cymorth hwn yn talu am waith ar raddfa fach. Ni chaniateir ei ddefnyddio fel cyfraniad at waith mwy helaeth lle y byddai’n fwy priodol i adnewyddu’r eiddo.

Y math o waith a all fod yn gymwys yw gwaith i fynd i’r afael â sefyllfaoedd difrifol, annisgwyl a all fod yn beryglus ac sydd angen sylw ar unwaith. Gall gynnwys gwaith fel a ganlyn:

  • trwsio ffabrig yr adeilad i’w gadw’n ddiddos rhag y gwynt a’r glaw
  • diogelu’r preswylwyr rhag iddynt fod yn agored i berygl uniongyrchol
  • atgyweirio ffenestri a drysau
  • atgyweirio system ddraenio ddiffygiol
  • atgyweirio gwifrau peryglus

Dim ond rhai enghreifftiau o’r hyn y gellir defnyddio’r cymorth ar ei gyfer a geir yn y rhestr uchod. Bydd swyddog yn penderfynu pa waith sy’n gymwys. Bydd yn ymweld â’r eiddo ac yn cyflawni Asesiad Risg o dan y System Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i benderfynu pa waith sy’n ddigon peryglus i fod yn gymwys i gael y cymorth.

Pwy sy’n gymwys?

Bydd y bobl a ganlyn yn gymwys i wneud cais heb fod angen cyflawni prawf o’u hadnoddau ariannol:

  • Perchen-feddianwyr dros 65 a chanddynt lai na £15,000 o gynilion
  • Tenantiaid dros 65 â buddiant oes mewn eiddo neu brydles hir (rhwymedigaethau atgyweirio) a chanddynt lai na £15,000 o gynilion
  • Cleientiaid y mae angen gofal lliniarol arnynt a/neu gleientiaid y bydd modd eu rhyddhau’n gynnar o’r ysbyty

Bydd pobl dros 18 oed ac o dan 65 oed yn gymwys i wneud cais os byddant yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:

  • Perchen-feddiannydd, neu
  • Denant â phrydles hir (rhwymedigaethau atgyweirio)

sydd hefyd

  • yn derbyn budd-dal sy’n destun prawf moddion, gan gynnwys: Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisydd Swydd sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Gwarant Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol, Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor, Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith lle y cyfrifwyd bod ei incwm yn llai na’r swm a bennir yn flynyddol gan DWP at ddibenion prawf modd (£15,860 ar hyn o bryd) neu Gredyd Cynhwysol

neu

  • Bydd ymgeiswyr y mae’r eiddo’n brif breswylfa iddynt, ond nad ydynt yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau uchod sy’n gysylltiedig ag incwm, yn destun ‘prawf moddion’ y Rheoliad Lleihau Grant. Os cyfrifir bod cyfraniad yr ymgeiswyr yn llai na £1,000 (mil o bunnoedd), byddant yn gymwys a byddant yn cyfrannu’r swm a gyfrifwyd tuag at gost y gwaith

Rhaid bod yr ymgeisydd yn byw yn yr eiddo fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa a rhaid bod ganddo fuddiant perchennog yn yr eiddo, neu rhaid ei fod yn denant yn yr eiddo ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill a chanddo ‘ddyletswydd neu bŵer’ i gyflawni’r gwaith o dan sylw (e.e. yn achos tenantiaid, y landlord sydd fel arfer yn ysgwyddo dyletswydd neu ‘rwymedigaeth atgyweirio’ ac nid y tenant’) neu rhaid ei fod yn byw yn yr eiddo o dan hawl i feddiannaeth neilltuedig a roddwyd am oes.

O ran cartref symudol, rhaid i’r preswylydd hefyd fodloni cyfnod cymhwyso o dair blynedd fel preswylydd. Byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw grantiau perthnasol wedi’u talu’n flaenorol i sicrhau nad oes mwy na £5,000 ynghyd â ffioedd a TAW yn cael ei roi mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd. Ni all yr Awdurdod Lleol dalu am yr un addasiadau/gwaith ddwywaith.

Faint o arian y byddaf yn ei gael?

Mae cymorth hyd at £5,000 ar gael ynghyd ag unrhyw TAW ac unrhyw ffioedd perthnasol (fel ffioedd gweinyddu, ffioedd trefnu neu ffioedd asiantau). O dan amgylchiadau eithriadol, gellir ei gynyddu i £5,000 os bydd Rheolwr y Gwasanaeth a/neu Bennaeth y Gwasanaeth yn cytuno.

Yr adran fydd yn penderfynu ar swm y cymorth a bydd yn dibynnu ar y dyfynbrisiau sy’n dod i law ac unrhyw ffioedd y gall fod angen i chi eu talu. Bydd angen i chi aros i gael gwybod bod y cymorth wedi i ddyfarnu cyn dechrau ar unrhyw waith. Telir am y gwaith pan fydd anfoneb wedi dod i law. Fel arfer, fe’i telir yn uniongyrchol i’r contractiwr, ar ôl archwilio’r gwaith.

Sut y byddaf yn trefnu’r gwaith?

Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio i helpu ymgeiswyr i wneud cais am y cymorth. Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn mesur yr eiddo i lunio cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau lle bo angen, yn cael gafael ar ddyfynbrisiau, gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfarpar arbenigol, ac yn datrys unrhyw broblemau pan fyddant yn codi. Yna, bydd yn eich helpu i lenwi’r ffurflen gais ac i roi trefn ar y gwybodaeth ariannol y gall fod angen i chi ei darparu. Ar gais yr ymgeisydd, rhoddir ystyriaeth i hepgor y gwasanaeth goruchwylio hwn.

Amodau’r cymorth, gan gynnwys y trefniadau ad-dalu

  • Bydd amodau’r cymorth yn parhau i fod mewn grym hyd nes i’r grant gael ei ad-dalu
  • Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa drwy gydol cyfnod amodau’r grant
  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, oni cheir caniatâd fel arall
  • Caiff y taliadau’u gwneud yn ôl derbyn yr anfoneb a phan fydd y gwaith wedi’i archwilio
  • Bydd pridiant tir lleol yn cael ei osod ar yr eiddo a fydd yn rhwymo'r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr mewn teitl am y cyfnod amod. Bydd y pridiant hwn yn cael ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir lleol ac wedi hynny yn cael ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir
  • Os caiff yr eiddo ei drosglwyddo neu’i werthu, bydd angen ad-dalu’r holl arian a ddarperir o dan y cynllun hwn

Achosion lle mae amheuaeth o dwyll neu ddichell – Mae’n bolisi gan yr awdurdod i fynd i’r afael ag achosion lle mae amheuaeth o dwyll neu ddichell, cael hyd iddynt ac ymchwilio iddynt.