Mae’r broses yn dechrau pan wnewch gais i’r Swyddfa Gartref am ddinasyddiaeth Brydeinig. Er mwyn cael gwybodaeth am y dull o gyflwyno cais, ewch i’r safle ganlynol: www.gov.uk/british-citizenship/how-to-apply

Os yw eich cais i ddod yn ddinesydd Prydeinig wedi ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref ac os ydych yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, mae’n rhaid i chi fynychu seremoni er mwyn ennill statws dinasyddiaeth.

Eich presenoldeb yn un o’r seremonïau arbennig hyn yw’r cam olaf yn y broses a’r bwriad yw dathlu arwyddocâd dod yn ddinesydd Prydeinig a’ch croesawu i’r gymuned.

Trefnu lle mewn seremoni ddinasyddiaeth

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych am gysylltu â Gwasanaeth Cofrestru Ceredigion er mwyn trefnu i chi fynychu seremoni ddinasyddiaeth. Ar yr un adeg, bydd y Swyddfa Gartref yn anfon  tystysgrif eich dinasyddiaeth Brydeinig atom ni.

Mae’n rhaid i chi fynychu seremoni ddinasyddiaeth o fewn tri mis i dderbyn y llythyr yn eich gwahodd i seremoni.

Yng Ngheredigion, cynhelir seremonïau dinasyddiaeth mewn grwpiau yn Ystafell Seremoni Rheidol, Aberystwyth ar ddyddiad a drefnir o flaen llaw ac fe’u cynhelir bob rhyw 6-8 wythnos, yn ôl y galw.

Ar wahoddiad yn unig y ceir mynediad i’r seremonïau dinasyddiaeth a gallwch wahodd gwesteion i ddod gyda chi i’r seremoni.

Beth fydd ei angen arnoch yn y seremoni

Pan fyddwch yn dod i’r seremoni ddinasyddiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’r canlynol gyda chi:

  • y llythyr gwahoddiad gwreiddiol oddi wrth y Swyddfa Gartref
  • dull adnabod sy’n cynnwys llun (er enghraifft eich pasbort presennol neu drwydded yrru ddilys sy’n cynnwys llun)

Yn ystod y seremoni

Y Cofrestrydd Arolygol (neu ei ddirprwy) fydd yn arwain y seremoni a phan fo hynny’n bosibl, bydd urddasolyn lleol yn bresennol i’ch croesawu’n swyddogol fel dinesydd newydd.

Yn ystod y seremoni, bydd pob ymgeisydd yn tyngu neu yn cadarnhau llw o deyrngarwch i’r Brenin ac yn addunedu teyrngarwch i’r Deyrnas Unedig ac yn dilyn hynny cyflwynir tystysgrif dinasyddiaeth Brydeinig i’r ymgeisydd yn ogystal â phecyn croeso.

Daw’r seremoni i ben drwy chwarae anthem genedlaethol Cymru ac anthem genedlaethol Prydain.

Mae’r seremoni yn para oddeutu 20 munud, yn ddibynnol ar nifer yr ymgeiswyr sy’n bresennol.