Rydym yn cadw cofnodion ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil sydd wedi digwydd yng Ngheredigion oddi ar 1837.

Ni allwn ni gyhoeddi copïau o dystysgrifau os nad yw’r gofrestr sy’n cynnwys y cofnod gwreiddiol yn ein meddiant. Os digwyddodd yr enedigaeth, y farwolaeth, y briodas neu’r bartneriaeth sifil y tu allan i Geredigion, dylech wneud cais i'r swyddfa gofrestru sy'n cadw’r cofnod gwreiddiol.

Tystysgrifau a gyhoeddir ar adeg y cofrestru

Tystysgrifau Ffi
(am bob tystysgrif)
Tystysgrif safonol
(Genedigaeth, Marwolaeth, Priodas a Phartneriaeth Sifil)
£11
Tystysgrif geni fer £11

Tystysgrifau a gyhoeddir ar ôl adeg y cofrestru

Bydd ffi’r dystysgrif a’r amser a gymerir i brosesu’ch cais yn dibynnu ar eich dewis o lefel gwasanaeth.

Gwasanaeth Safonol
(o fewn 15 diwrnod gwaith)
  • Byddwn yn cyhoeddi’r dystysgrif o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl i gais llawn a thaliad ddod i law
  • Ar ôl i’r dystysgrif gael ei chyhoeddi, gallwch ei chasglu o’r Swyddfa Gofrestru yn Aberystwyth
  • Fel arall, gallwn bostio’r dystysgrif i’r cyfeiriad a ddarparwyd ar y ffurflen gais drwy’r post ail ddosbarth
  • £11 am bob tystysgrif
Gwasanaeth Blaenoriaeth (Brys)
(ar neu cyn y diwrnod gwaith nesaf)
  • Os oes angen y dystysgrif arnoch ar frys, bydd ein gwasanaeth blaenoriaeth yn gwarantu bod y dystysgrif yn cael ei chyhoeddi ar neu cyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i’r cais llawn a thaliad ddod i law. (Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael ar benwythnosau a gwyliau banc)
  • Os gwnewch gais cyn 3 y.p. o ddydd Llun i ddydd Gwener, fe wnewn ni anelu i gyhoeddi’r dystysgrif ar yr un diwrnod
  • Caiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl 3 y.p. ei chyhoeddi ar y diwrnod gwaith nesaf
  • Ar ôl i’r dystysgrif gael ei chyhoeddi, gallwch ei chasglu o’r Swyddfa Gofrestru yn Aberystwyth
  • Fel arall, gallwn bostio’r dystysgrif i’r cyfeiriad a ddarparwyd ar y ffurflen gais drwy’r post dosbarth cyntaf
  • £35 am bob tystysgrif

Mae’n rhaid talu am bob tystysgrif cyn ein bod yn eu cyhoeddi.

Codir ffi weinyddol ychwanegol o £3 os byddwch yn gofyn inni bostio’r dystysgrif drwy bost cofrestredig / post y llofnodir amdano.

Pan fyddwch yn gwneud cais, dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl am y cofnod yr ydych yn chwilio amdano fel y gallwn ddod o hyd i’r un cywir.

Er mwyn cael tystysgrif, bydd angen i chi gyflwyno’r wybodaeth ganlynol inni:

Math o gopi Yr wybodaeth angenrheidiol
Tystysgrif Geni
  • Enw genedigol llawn y plentyn
  • Dyddiad geni
  • Lleoliad yr enedigaeth
  • Enwau llawn y rhieni
  • Cyfenw’r fam cyn priodi
Tystysgrif Marwolaeth
  • Enw llawn yr ymadawedig
  • Dyddiad marw
  • Lleoliad y farwolaeth
  • Dyddiad geni neu oedran yr ymadawedig
  • Cyfeiriad cartref ar adeg y farwolaeth
  • Swydd yr ymadawedig
Tystysgrif Priodas
  • Enwau llawn y ddau barti ar adeg y briodas
  • Dyddiad y briodas
  • Lleoliad y briodas
Tystysgrif Partneriaeth Sifil
  • Enwau llawn y ddau barti ar adeg y bartneriaeth sifil
  • Dyddiad y bartneriaeth sifil
  • Lleoliad y bartneriaeth sifil
  • Cyfeiriadau’r ddau barti ar adeg y bartneriaeth sifil

Wrth wneud cais am dystysgrif geni, nodwch a ydych am gopi “llawn” neu “byr” o’r dystysgrif.

  • Mae’r dystysgrif geni “lawn” (safonol) yn cynnwys gwybodaeth am y plentyn a’r rhiant/ rhieni. Mae angen y dystysgrif hon at ddibenion swyddogol megis ceisiadau am basbort neu drwydded yrru
  • Mae'r dystysgrif geni “fer” ddim ond yn cynnwys gwybodaeth am y plentyn
  • Caiff y ddau fath o dystysgrif eu cyhoeddi am yr un ffi

Wrth wneud cais am dystysgrif partneriaeth sifil, nodwch a ydych am gael tystysgrif “safonol” neu “ddetholiadol”.

  • Nid yw’r dystysgrif partneriaeth sifil “ddetholiadol” yn dangos cyfeiriadau’r naill barti na’r llall
  • Mae’r dystysgrif partneriaeth sifil “safonol” yn rhoi’r manylion llawn

Er mwyn gwneud cais am dystysgrif safonol, bydd angen ichi ddarparu cyfeiriadau’r ddau barti ar adeg ffurfio’r bartneriaeth sifil.

Trwy alwad ffôn

Gallwch archebu tystysgrif dros y ffôn drwy gysylltu â ni ar 01970 633580. Byddwn yn cwblhau eich ffurflen gais dros y ffôn. Unwaith inni ddod o hyd i’r cofnod, byddwn yn trefnu i chi dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd.

Yn bersonol

Gallwch wneud cais yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru, Aberystwyth.

Nid oes angen ichi drefnu apwyntiad i wneud cais am gopi o dystysgrif.

Sylwch nad ydym yn gallu cynhyrchu tystysgrifau ar sail “wrth ichi aros”.

Trwy e-bost

E-bostiwch ni gan ddarparu'r manylion a amlinellir uchod. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad presennol a rhif ffôn cyswllt. Unwaith inni ddod o hyd i’r cofnod, byddwn yn eich ffonio i drefnu taliad trwy gerdyn credyd neu ddebyd.

Trwy’r post

Er mwyn gwneud cais drwy'r post, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais berthnasol (gweler isod). Fel arall, gallwch anfon llythyr yn nodi'r wybodaeth angenrheidiol ynghyd â’ch cyfeiriad presennol a rhif ffôn cyswllt.

Dylai pob cais drwy'r post, ynghyd â'r taliad perthnasol, gael eu hanfon at:
Swyddfa Gofrestru Ceredigion,
Canolfan Rheidol,
Rhodfa Padarn,
Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3UE

Dylid gwneud sieciau neu archebion post yn daladwy i “Cyngor Sir Ceredigion”.

Cais am Dystysgrif Geni

Cais am Dystysgrif Marwolaeth

Cais am Dystysgrif Priodas

Cais am Dystysgrif Partneriaeth Sifil

Unwaith y caiff y dystysgrif y gofynnwyd amdani ei chyhoeddi, gellir ei chasglu o'r Swyddfa Gofrestru yn Aberystwyth. Fel arall, gallwn bostio’ch tystysgrif i’r cyfeiriad a nodwyd ar eich cais.

Os byddwch yn dewis i gael y dystysgrif wedi’i phostio, ni allwn warantu pryd y bydd y Post Brenhinol yn trosglwyddo’r dystysgrif i chi.

Nid yw Gwasanaeth Cofrestru Ceredigion yn atebol am unrhyw dystysgrifau sy'n cael eu gohirio neu eu colli yn y post.

Os ydych eisiau copi o dystysgrif mabwysiadu, bydd angen i chi wneud cais i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae tystysgrifau yn Hawlfraint y Goron ac ni ddylid eu llun-gopïo at ddibenion swyddogol.