Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu ystod eang o wasanaethau ac yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy’n addas i anghenion y Cwsmeriaid ac mewn ffordd gyfleus a chwrtais.

Ymateb i alwadau Ffôn

  • Ein disgwyliad yw y bydd defnyddwyr gwasanaethau yn cysylltu â’r cyngor drwy’r ganolfan gyswllt gorfforaethol a gallwch ddisgwyl i’ch galwad gael ei ateb yn brydlon.
  • Bydd ymholiadau syml a cheisiadau syml am wasanaeth yn cael eu trin ar unwaith. Efallai y bydd angen i ni eich trosglwyddo i arbenigwr, neu gymryd neges ar eich rhan, os yw eich ymholiad yn gymhleth neu os oes angen rhagor o wybodaeth.
  • Atebir pob galwad yn ddwyieithog ac mae Swyddogion sy’n siarad Cymraeg a Saesneg ar gael bob amser. Bydd pob sgwrs yn parhau yn newis iaith y galwr.

Sylwer y bydd pob galwad i’r Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol yn cael ei recordio at ddibenion monitro a hyfforddiant yn unig.

Ymateb i lythyron, negeseuon e-bost a cheisiadau am wasanaeth drwy'r We a Chyfryngau Cymdeithasol

  • Pan fyddwch yn ysgrifennu at y Cyngor byddwn yn cydnabod o fewn dau ddiwrnod gwaith ein bod wedi derbyn y llythyr (anfonir cydnabyddiaeth yn awtomatig i ohebiaeth ddigidol). Byddwn yn ateb yn iaith a chyfrwng yr ohebiaeth wreiddiol a hynny cyn gynted â phosib a chyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn eich cais.
  • Os oes angen ateb llawnach a mwy cymhleth, byddwn yn anfon llythyr/e-bost gan roi syniad o ba bryd y byddwn yn rhoi ymateb llawn. Rydym yn annog pob ymholiad i gael ei gyflwyno drwy'r we-ffurflen sydd ar gael ar wefan y cyngor tudalennau Cysylltwch â ni. Bydd defnyddwyr gwasanaethau yn derbyn ateb awtomatig dwyieithog drwy e-bost yn cadarnhau bod yr ymholiad wedi cyrraedd. Mae ein llyfrgelloedd yn darparu mynediad Wi-Fi i’r we ac mae yno gyfrifiaduron ar gyfer y cyhoedd os oes angen rhagor o gymorth ar ddefnyddwyr gyda’r gwasanaethau digidol.
  • Er mwyn gwella effeithlonrwydd, mae’r Cyngor yn annog pobl i gyfathrebu drwy ein gwasanaethau digidol, lle bo hynny’n bosib. Bydd hyn yn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol.
  • Lle bo’n bosib, bydd unrhyw geisiadau a ddaw i law drwy dudalennau Cyfryngau Cymdeithasol Corfforaethol y Cyngor yn cael eu cyfeirio i'r Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol a fydd yn cymryd y camau sydd eu hangen i ymdrin â'r ymholiad. Defnyddir tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol y Cyngor at ddibenion gwybodaeth yn unig ac NID ar gyfer ymateb i geisiadau am wasanaeth.

Ymateb i Ymweliadau Personol (wyneb yn wyneb)

  • Bydd ymweliadau wyneb yn wyneb ond ar gael mewn adeiladau penodol a gwneir pob ymdrech i helpu defnyddwyr gwasanaethau gyda’u hymholiadau.
  • Yn achos ymholiadau cymhleth/arbenigol, efallai y gofynnir i chi wneud apwyntiad. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosib os oes angen newid neu ganslo apwyntiad.
  • Byddwn yn ymdrin â’ch ymholiad yn Gymraeg neu’n Saesneg yn ôl eich dewis iaith.
  • Mae’r Oriau Agor, gwybodaeth am y ddarpariaeth frys y tu allan i oriau a rhifau ffôn perthnasol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor tudalennau Cysylltwch â ni.
  • Pan fyddwn ni yn ymweld â chi, bydd carden adnabod swyddogol yn cael ei dangos cyn mynd i mewn i’ch safle a bydd yr apwyntiad yn cael ei drefnu o flaen llaw.
  • Pan fyddwch yn ymweld ag adeiladau’r Cyngor gallwch ddisgwyl amgylchedd croesawgar. Byddwn yn gwrtais ac yn sicrhau ein bod yn trin pawb yn gyfartal.

Ymateb i Ymholiadau

  • Fel Cyngor byddwn yn darparu gwasanaethau drwy’r sianel fwyaf effeithlon ar gyfer y cwsmer.
  • Rydym yn cydnabod bod trafodion cyflym a syml yn gallu cael eu cwblhau yn hawdd ar-lein neu drwy’r Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol ac felly rydym yn ymroi i wneud hyn yn bosib ar gyfer y gwasanaethau i gyd.
  • Yn achos materion manwl a chymhleth, rydym yn cydnabod y bydd angen, o bosib, i chi drefnu apwyntiad gyda’r swyddog mwyaf priodol. Gwneir pob ymdrech i fodloni’r cais hwn mewn modd amserol.

Safonau Cyfathrebu

  • Ysgrifennir pob gohebiaeth ynghylch ymholiad mewn iaith eglur ac yn iaith yr ymholiad gwreiddiol.
  • Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r egwyddor o ddefnyddio ffont safonol Arial, maint 12 o leiaf, ym mhob gohebiaeth.
  • Fodd bynnag, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ddarparu dogfennau, taflenni, adnoddau electronig ac ati mewn fformat arall, os bydd defnyddiwr gwasanaeth yn gofyn am hynny. Ymhlith y fformatau eraill y mae fersiynau print bras, braille, sain, hawdd ei darllen neu fersiwn ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
  • Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac y dylai pobl yng Nghymru fod yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna’u dewis. Yn unol â'r ddeddfwriaeth, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod ystod o Safonau Iaith y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu bodloni er mwyn darparu gwasanaethau o safon yn y Gymraeg, gan sicrhau fod gan siaradwyr Cymraeg fynediad at eu gwasanaethau yn eu dewis iaith.
  • Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Cyngor, rydym yn addo gwrando. Os yw hi’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl i ddatrys y mater, byddwn yn rhoi gwybod i chi gan esbonio’r rhesymau pam.

Gwybodaeth a bod yn Agored

  • Rydym yn gwneud ein gorau i roi gwybod i chi am wasanaethau, digwyddiadau a newidiadau pwysig a allai gael effaith arnoch. Mae hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy wefan y Cyngor a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd pob dogfen a gyhoeddir yn rhai dwyieithog, yn unol â Safonau Iaith Gymraeg yr Awdurdod.

Cyfle Cyfartal

  • Mae polisi Cydraddoldeb y Cyngor Sir yn cydnabod bod gan bobl wahanol anghenion, gofynion ac amcanion. Mae’r polisi yn nodi sut fydd y Cyngor yn mynd ati i ddileu gwahaniaethu, i hybu cyfle cyfartal ac i feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol bobl wrth gyflawni ei weithgarwch. Mae ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu cynnwys wrth ddylunio polisïau a darparu gwasanaethau ac maen nhw’n cael eu hadolygu’n gyson.
  • Yn unol â Safonau'r Gymraeg ac Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'r Cyngor Sir wedi mabwysiadu'r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Y Gymraeg a'r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cyngor ac maent yn gydradd ac yr un mor ddilys â’i gilydd yng ngweinyddiaeth a gwaith y Cyngor.

Mae’r Awdurdod yn croesawu sylwadau cadarnhaol neu negyddol am ei wasanaethau

  • Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth yr ydych chi wedi ei dderbyn gan y Cyngor neu eisiau dweud wrthym am rywbeth rydym wedi ei wneud yn dda, hoffem wybod. Mae gan y Cyngor bolisi cwynion a chanmoliaeth clir iawn a chyson ac mae ar gael ar wefan y Cyngor: Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion.
  • Ymdrinnir â phob Cŵyn yn unol â'r polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol ac mae cyngor pellach i’w gael oddi wrth y gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth.

Cysylltu â ni

Mae’r Canolfannau Gwasanaeth i Gwsmeriaid (a leolir yn Aberystwyth, Aberaeron, Llanbed ac Aberteifi) ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhifau ffôn y Ganolfan Gyswllt

Ymholiadau Cyffredinol: 01545 570881

Ymholiadau drwy e-bost: clic@ceredigion.gov.uk 

Ewch i Wefan Cyngor Sir Ceredigion lle gwelwch fod ystod eang o’n gwasanaethau ar gael ar-lein.