Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Os na chaiff eich gwastraff ei gasglu fel y trefnwyd, cyflwynwch ef eto ar eich diwrnod casglu nesaf. Lle nad ydym wedi gallu casglu gwastraff gweddilliol, byddwn yn rhannu gwybodaeth isod gyda chyngor penodol am unrhyw newidiadau dros dro i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol.
| Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
|---|---|---|---|---|
| 5ed Awst 2026 | Llanilar llwybr 192 |
Bagiau Ailgylchu Clir, Gwastraff Bwyd, Gwydr a Bagiau Du | Arall | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 7ed Awst 2026 |
| 5ed Awst 2026 | Llanilar llwybr 192 |
Gwastraff Gardd | Arall | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 7ed Awst 2026 |
| 5ed Awst 2026 | Llangeitho, Penuwch llwybr 153 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda'r fflyd | Rhedeg yn hwyr - Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 5ed Awst 2026 |
| 5ed Awst 2026 | Llandysul, Prengwyn, Maesymeillion, Pontsian, Talgarreg, Bwlchyfadfa llwybr 113 |
Gwydr a Bagiau Du | Problemau gyda staffio | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 7ed Awst 2026 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf