Mae gan Gyngor Sir Ceredigion 5 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu:

Cyn Etholiadau Lleol ym mis Mai 2012 bu i Aelodau'r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu adolygu strwythur y broses trosolwg a chraffu yn y Cyngor yng nghyd-destun nifer o ffactorau sy'n cael effaith ar y modd y mae'r Cyngor yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau gan gynnwys ystyried yr argymhellion a nodwyd yn Llythyr Asesu Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru Awst 2011. Roedd yr hen strwythur yn cynnwys un Pwyllgor Cydlynu a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu ar oedd yn seiliedig ar bynciau penodol ac yn adlewyrchu'r chwe phortffolio Cabinet. Mae'r strwythur newydd yn cynnwys 5 Pwyllgor Trosolwg a chraffu thematig, sef:

Ceir cydbwysedd gwleidyddol i'r Pwyllgorau Craffu sy'n adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor llawn, fel y bo'n bosibl.

Yr her fwyaf wrth Graffu yw gallu dangos gwelliannau go iawn i wasanaethau a pherfformiad y Cyngor.

Mae cyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn agored i'r cyhoedd, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu cynnal ym Mhenmorfa, Aberaeron am 9.30am, ond fe'u cynhelir mewn llefydd eraill o bryd i'w gilydd, yn dibynnu ar y pwnc sydd dan sylw yn y cyfarfod. Os bydd gofyn i'r Pwyllgor drafod gwybodaeth gyfrinachol yng nghyswllt unrhyw eitem ar yr agenda, byddant yn gofyn i'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd i adael yr ystafell am weddill y drafodaeth honno.

Er mwyn annog pobl sydd yn byw ac yn gweithio yn y Sir i ymwneud mwy â'r broses Craffu yng Ngheredigion, rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i awgrymu materion ar gyfer Craffu. Pe ddymunech gynnig pwnc i'w ystyried, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ac fe gewch ymateb wrth y Swyddog Trosolwg a Chraffu priodol. Yn ogystal, Pe hoffech chi roi eich barn am un o’r eitemau a fydd yn ymddangos ar agendâu’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, rhaid i chi gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Tîm Craffu yn gofyn am yr hawl i siarad cyn gynted ag y bo modd, ddim hwyrach na hanner dydd, dau ddiwrnod gwaith cyn cyfarfod y Pwyllgor. Gallwch anfon y cais ysgrifenedig drwy’r post neu ar e-bost i’r cyfeiriad isod. Cyfeiriwch at y Protocol Ymgysylltu â’r Cyhoedd Trosolwg a Chraffu am ragor o wybodaeth.

Cysyllwtch â ni yn:

Trosolwg a Chraffu
Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA

scrutiny@ceredigion.gov.uk

Ffurflen ar bynciau i'w awgrymu a'u hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu

Protocol Ymgysylltu â’r Cyhoedd Trosolwg a Chraffu

Protocol ar gyfer Rhoi Hawl i Aelodau’r Cabinet Fynychu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu