Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
---|---|---|---|---|
28ain Mawrth 2024 | Derwen Gam, Llwyncelyn, Llanarth, Mydroilyn, Dihewyd, Temple Bar, Cribyn llwybr 129 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf |
27ain Mawrth 2024 | Tremain, Plasdy Ganolmarch, Cwmcou, Llechryd, Lôn Coedmore, Teifi Terrace, Llandyfriog, Mynediad cul Trewindsor llwybr 160 |
Gwydr | Problemau gyda staffio | Ewch â nhw i'ch banc ailgylchu agosaf neu ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf - Dydd Mercher 17eg Ebrill 2024 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf