Osgoi'r Ysgol ar Sail Emosiynol (EBSA)
Gall plant a phobl ifanc ei chael hi’n anodd cael mynediad at addysg neu ymgysylltu â hi am nifer o resymau. Mae Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiynol (EBSA) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio plant neu bobl ifanc sy’n cael anhawster i fynychu’r ysgol neu wersi oherwydd pryderon. Mae’r ffactorau sy’n arwain at EBSA yn gymhleth. Gallant orgyffwrdd a chodi o fewn yr unigolyn neu ar draws y cartref a’r ysgol. Mae profiad pob disgybl yn wahanol.
Mae’r adnodd isod wedi’i greu gan Wasanaeth Seicoleg Addysg Ceredigion i gefnogi unigolion a’u teuluoedd i ddarparu gwybodaeth i’w hysgol fel y gall y cartref a’r ysgol gydweithio i ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc. Mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfredol ynghylch y ffactorau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cadarnhaol.