Ceredigion Actif

Mae 6 Canolfan Hamdden yng Ngheredigion sydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau i bobl o bob oedran.

Mae creu Canolfannau Lles yn elfen allweddol o Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion 2022-2027 a'i Strategaeth Gydol Oes a Llesiant.

Mae gan yr awdurdod lleol uchelgais i greu Canolfannau Lles yng Ngogledd, Canolbarth a De'r sir.

Canolfan Llesiant, Llanbedr Pont Steffan yw'r gyntaf, sy'n gwasanaethu Canolbarth y sir ac fe'i hagorwyd ym mis Mehefin 2023.

Bydd yr ail Ganolfan Lles yn Aberteifi i wasanaethu de'r sir ac mae gwaith wedi dechrau ar astudiaeth ddichonoldeb a fydd yn llywio'r achos busnes.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ail-gydbwyso Cyfalaf ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru.

Mae Canolfan Lles yn darparu ystod eang o wasanaethau sy'n ystyried ac yn gwella agweddau llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol unigolyn.

Bydd y Ganolfan Lles hefyd yn darparu mwy o fynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth i breswylwyr ar holl wasanaethau'r cyngor.

Gan adeiladu ar gynnig gweithgarwch corfforol craidd, mae gwasanaethau gydol-oes a ddarperir yn cynnwys cyngor ar sgiliau a chyflogaeth, caledi a chymorth tai, gwasanaethau i bobl ifanc, cymorth i ofalwyr, Cysylltwyr Cymunedol a chymorth cynnar ar gyfer Iechyd Meddwl.

Ein nod, drwy ddarparu'r gwasanaethau hyn i breswylwyr yn eu cymunedau, yw sicrhau eu bod yn cael cymorth cyn gynted â phosibl, a fydd yn atal achosion rhag gwaethygu i wasanaethau statudol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Lles a holl gyfleusterau hamdden eraill y cyngor, ewch i:

wefan Ceredigion Actif