
Terfynau Cyflymder 20mya
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r terfynau cyflymder 20mya ledled y sir. Daw hyn yn dilyn galwad Llywodraeth Cymru arnom i gasglu adborth y trigolion ar y terfynau cyflymder newydd a gyflwynwyd ym Medi 2023. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau newydd ar ‘eithriadau 30mya’ yn 2024 i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda’r ymarferiad hwn.
Yn ystod y ‘cyfnod gwrando’ hwn rhwng mis Mai a mis Medi 2024 derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion 62 o sylwadau unigol. O blith y rhain roedd 23 yn mynegi cefnogaeth i’r terfynau newydd o 20mya, 20 yn dymuno newid y polisi cenedlaethol, 16 yn gwrthwynebu’r terfynau presennol o 20mya ar ffyrdd sirol, 8 yn cyfeirio’n benodol at leoliadau ar Gefnffordd a reolir gan Lywodraeth Cymru lle nad oes gan y Cyngor awdurdod, a bernid bod 3 y tu allan i gwmpas yr ymarferiad.
Cafwyd gohebiaeth hefyd yn anuniongyrchol oddi wrth 20 o Gynghorau Tref a Chymuned ac roedd rhai ohonynt yn mynegi cefnogaeth i’r terfynau 20mya. Serch hynny, roedd llawer o’r ceisiadau yn yr ohebiaeth y tu allan i gwmpas yr adolygiad hwn.
Cafwyd sylwadau ar derfynau cyflymder penodol ar Ffyrdd Sirol ynghylch y 34 lleoliad a restrir isod, a chafodd pob un o’r lleoliadau hyn eu hystyried yn ystod yr adolygiad ffurfiol:
- Aberaeron A482
- Aberystwyth A4120 Gogledd
- Aberystwyth A4120 De
- Aberystwyth B4572 Ffordd Clarach
- Aberystwyth Coedlan y Parc
- Aberystwyth Rhiw Briallu
- Aberystwyth Waunfawr
- Bethania B4577
- Betws Ifan
- Beulah C1162
- Borth B4353 a B4572
- Bronant A485
- Aberteifi C1001 Heol Ferwig
- Cenarth A484
- Coedybryn B4334
- Cribyn B4337
- Cwmystwyth C1118
- Felinfach A482 wrth yr ysgol newydd
- Llandre B4353
- Llandyfriog A475
- Llanfarian A485
- Llangorwen B4572 a C1049
- Llangwyryfon B4576 a’r ffyrdd ymyl
- Llanilar A485 a B4575
- Llechryd A484
- Llechryd Stryd Adam
- Lledrod A485 a C1089
- Penrhyncoch - pob ffordd
- Penuwch B4577 a C1104
- Pontgarreg C1012
- Pontrhydfendigaid - pob ffordd
- Rhydlewis B4334
- Rhydowen B4459
- Ynyslas B4353 a C1172
Mae pob lleoliad yn yr adolygiad wedi cael eu hailasesu ar sail canllawiau eithriadau 30mya Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys y meini prawf allweddol canlynol ar gyfer terfynau o 20mya:
- Lleoliadau addysgol (o fewn 100m): Ysgolion; grwpiau cyn ysgol; Addysg bellach; Addysg uwch;
- Cyfleuster cymunedol (o fewn 100m): neuaddau cymuned; caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon a lleoedd chwarae i blant;
- Cyfleuster meddygol (o fewn 100m): Ysbytai, meddygfeydd, canolfannau gofal dydd;
- Os oes mwy nag 20 o dai preswyl a/neu fangreoedd manwerthu yn ffryntio’n uniongyrchol ar y ffordd, ar y ddwy ochr, dros bellter o gilomedr (gan ystyried y pellter o’r heol, gwelededd, geometreg y ffordd, mynedfeydd eraill).
Os bydd unrhyw un o’r meini prawf uchod yn cael eu cyrraedd, mae terfyn o 20mya yn briodol.
Mae’r meini prawf atodol yn nodi:
- Os bydd lled y droedffordd neu’r cyfleusterau i feicwyr yn annigonol gan olygu bod cerddwyr a beicwyr yn ymlwybro i’r ffordd gerbydau, ni fydd terfyn o 30mya yn briodol.
- Dylid osgoi amrywio’r terfynau cyflymder yn fynych er mwyn peidio â drysu’r gyrwyr. Ni ddylai hyd y terfyn cyflymder fod yn llai na 600 metr ar y cyfan, er mwyn osgoi gormod o newidiadau ar hyd y ffordd. Gellir lleihau’r hyd hwn i 400 metr ar gyfer terfynau cyflymder is neu hyd yn oed i 300 metr ar ffyrdd sydd ar gyfer mynediad lleol yn unig. Nid argymhellir unrhyw beth byrrach. Nid yw'r isafsymiau hyn o ran hyd yn gymwys i derfynau clustogi.
Canlyniad y gwaith adolygu yw na chynigir newid unrhyw derfyn cyflymder presennol.
Dyma grynodeb isod o’r ceisiadau a ddaeth i law mewn gohebiaeth, ynghyd â’r rhesymau pam na ellir eu caniatáu:
- Byddai ceisiadau am derfynau cyflymder rhan-amser gan ysgolion, ysbytai ac ati ddim yn cynnig gostwng amseroedd teithio yn ddigonol yn y lleoliadau hynny (ychydig eiliadau yn unig fel arfer) i gyfiawnhau'r gost o osod a chynnal a chadw arwyddion electronig, sy’n gallu bod oddeutu £80,000 ar y dechrau.
- Hefyd ni fyddai ceisiadau am ddychwelyd rhannau byrrach o'r ffordd i 30mya ddim chwaith yn arwain at ostwng amseroedd teithio yn sylweddol, ac ni ellid eu caniatáu oherwydd bod angen osgoi newid terfynau cyflymder sawl gwaith dros bellter byr, fel y nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.
- Yn achos ceisiadau am newid terfynau cyflymder sy'n sôn am ddiffyg parch at y terfynau o 20mya a gyrru gwael, dylai’r rhain gael eu cyfeirio at yr heddlu. Nid oes gan y Cyngor bwerau cyfreithiol ynghylch materion o’r fath.
- Ceisiadau a oedd y tu allan i gwmpas y cynllun, er enghraifft yn ymwneud â ffyrdd nad oedd â therfynau o 30mya cyn y newid cenedlaethol, neu derfynau cyflymder newydd ar gyfer ffyrdd heb ddigon o dai preswyl neu ddatblygiad arall, fel y nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru (h.y. o leiaf 20 o dai preswyl a/neu fangreoedd manwerthu sy’n ffryntio’n uniongyrchol ar y ffordd dros bellter o gilomedr).
- Ceisiadau i ddychwelyd y terfyn cyflymder i 30mya ar rannau o’r ffordd sy'n cynnwys o leiaf 20 o dai preswyl a/neu fangreoedd manwerthu sy’n ffryntio’n uniongyrchol ar y ffordd dros bellter o gilomedr, a/neu heb droedffyrdd, ac sydd felly yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau o 20mya.
- Ceisiadau am i rannau o’r ffordd sydd â therfynau o 20mya ddychwelyd i 30mya ar y sail bod y gohebwyr yn dweud nad oes fawr o deithio arnynt gan gerddwyr/beicwyr. Bwriad Llywodraeth Cymru yw annog teithio llesol, gan gynnwys yn y lleoliadau hynny lle mae’n ymddangos nad oes llawer o deithio llesol ar hyn o bryd.
Dylai gohebwyr sy’n gwrthwynebu terfynau cyflymder o 30mya nodi bod data ar wrthdrawiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr heddlu a Llywodraeth Cymru (e.e. fan hyn https://www.llyw.cymru/yr-haf-mwyaf-diogel-ar-ffyrdd-cymru-yn-ol-ystadegau-newydd ac yma https://www.llyw.cymru/gwrthdrawiadau-ffyrdd-wediu-cofnodi-gan-yr-heddlu-gorffennaf-i-fedi-2024-dros-dro-html) yn awgrymu bod newid y terfyn cyflymder yn genedlaethol wedi lleihau nifer yr anafiadau ar y ffyrdd ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol ei bod yn bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd pellach ar gyfer gosod terfynau cyflymder lleol. Mae disgwyl y bydd awdurdodau priffyrdd lleol yn adolygu’r terfynau cyflymder ar ffyrdd a oedd y tu allan i gwmpas y newid cenedlaethol yn 2023. Bydd unrhyw newidiadau i’r terfynau cyflymder ar ffyrdd sydd o dan awdurdod Cyngor Sir Ceredigion yn dibynnu ar gael adnoddau i gynnal adolygiad ac yna i weithredu unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r adolygiad hwnnw.