Mae dogfen dechnegol gyda mapiau a thablau ychwanegol hefyd ar gael o dan Lawrlwythiadau.


Cynnwys


Datganiad Polisi

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisi a safonau’r Cyngor Sir ar gyfer cynllun Gwasanaeth y Gaeaf. Ond ychydig o newidiadau a wnaed i’r ddogfen ers 2014-15 ar wahân i’r canlynol: (1) Diweddaru gwybodaeth sefydliadol o ganlyniad i ailstrwythuro’r gwasanaeth, (2) Diwygio’r fethodoleg asesu ffyrdd ar gyfer gwaith trin ymlaen llaw.

Atodir cynlluniau gweithredol a gweithdrefnau i’r polisi hwn, yn cynnwys y trefniadau sydd yn eu lle i ddarparu’r polisi, ynghyd â chynlluniau manwl o’r llwybrau’n dangos sut y bwriedir trin y ffyrdd a gynhwysir yn y rhwydwaith halennu rhagofalus.

Nid gwasanaeth brys mo Gwasanaeth y Gaeaf a ddarperir yn yr ystyr draddodiadol gan fod tymheredd isel, rhew ac eira yn ddigwyddiadau cyson ac aml. O dan yr amgylchiadau hyn, mae Gwasanaeth y Gaeaf yn amodol ar yr un drefn o gynllunio, adolygu a diweddaru ag agweddau eraill o wasanaethau cynnal a chadw’r briffordd.

Er yn faes arbenigol, mae Gwasanaeth y Gaeaf yn agwedd arwyddocaol o reoli’r rhwydwaith yn ariannol ac yn nhermau ei bwysigrwydd cydnabyddedig i ddefnyddwyr. Gallai yn ogystal gael sgil effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac mae trefnu’r gwasanaeth yn arwain at oblygiadau sylweddol i gaffaeliad a rheolaeth weithredol y gwasanaethau cynnal a chadw eraill ar y briffordd. Dylid felly ddarllen y ddogfen hon ynghyd â pholisïau eraill sy’n ymwneud â chynnal a chadw’r briffordd.

Mae’r Cyngor Sir yn anelu at gynnig Gwasanaeth dros y gaeaf a fydd, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol bosib, yn caniatáu i gerbydau deithio’n ddiogel ar y rhannau pwysicaf o’r rhwydwaith priffyrdd, y rhwydwaith ffyrdd strategol, gan geisio lleihau’r oedi a’r damweiniau y gellir eu priodoli i dywydd gwael.

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio proses asesu ar gyfer dynodi pa lwybrau sydd i’w cynnwys yn yr atodlen ragofal ar gyfer halennu.

Cyflwynwyd y broses hon er mwyn darparu’r Cyngor ag ymateb cyfreithiol cadarn i ddeddfwriaeth ychwanegol.  Mae’r sail statudol ar gyfer Gwasanaeth y Gaeaf yn amrywio o fewn gwahanol rannau o’r DU. Yng Nghymru a Lloegr, mewnosodwyd adran 41 (1A) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ar 31 Hydref 2003, trwy adran 111 o Ddeddf Diogelwch y Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003.  Mae rhan gyntaf adran 41 yn awr yn darllen:

  • a) Mae’r awdurdod, sydd am y tro yn awdurdod priffyrdd ar gyfer priffordd a gynhelir ar gost y cyhoedd, o dan ddyletswydd, yn amodol ar isadrannau (2) a (3) isod, i gynnal y briffordd.
  • b) (1) Yn benodol, mae awdurdod priffyrdd o dan ddyletswydd i sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, nad yw taith ddiogel ar hyd y briffordd dan fygythiad gan eira neu iâ.

Nid yw hyn yn ddyletswydd ddiamod, o ystyried yr amod 'rhesymol ymarferol', ond y mae'n gwrthdroi’n effeithiol y flaenoriaeth gyfreithiol flaenorol, er nid ag effaith ôl-weithredol. Mae adran 150 o’r Ddeddf yn dal i roi dyletswydd ar awdurdodau i ddileu unrhyw rwystrau ar y briffordd sy'n deillio o 'bentwr o eira neu o lethrau’n syrthio i lawr ar ochr y briffordd, neu o unrhyw achos arall'.

Mae’r diweddariad yn angenrheidiol i ddiwygio unrhyw newidiadau a ddigwyddodd ers yr adolygiad diwethaf ac mae’n rhan o’r broses o welliant parhaus sy’n mynd rhagddi.

Bwriedir i'r adolygiad nesaf o Gynllun Gwasanaeth y Gaeaf ddigwydd cyn y cyfnod gwasanaeth gaeaf 2024-2025.  Mae'r ddogfen hon yn adnewyddiad o'r cynllun blaenorol sy'n dal yn ddilys.

Roedd y Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli Cynnal a Chadw’r Priffyrdd 2005 yn gwneud nifer o argymhellion i’r perwyl y dylai awdurdodau gadw golwg ar eu Cynlluniau Gwasanaeth dros y Gaeaf.

Diweddarwyd y Cod Ymarfer hwn ymhellach ym mis Hydref 2016 ac mae Awdurdodau yn diwygio ac adolygu eu polisïau i adlewyrchu'r cyngor cyfredol hwn.

Mae Ceredigion, ynghyd â'r 21 o Awdurdodau Cymreig eraill, wedi ymgysylltu â Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru (y CSSW) er mwyn sicrhau dull cyson o weithredu casgliadau ac argymhellion y ddogfen hon.

Ardal a Chyfrifoldeb

Mae Ceredigion yn ardal sy’n cynnwys 692 milltir sgwâr ac mae’n cynnwys rhwydwaith o Gefnffyrdd, Priffyrdd Sirol a rhai nad ydynt yn briffyrdd sirol ynghyd â ffyrdd diddosbarth.  Mae’r rhwydwaith hon yn un wledig yn bennaf, ond gydag elfen Drefol arwyddocaol yn y prif drefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am Gynnal a Chadw Traffyrdd a Chefnffyrdd yng Nghymru.  Mae’r Cefnffyrdd A44 a’r A487 yn cael eu gweinyddu fel rhan o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA).

Mae NMWTRA yn bartneriaeth gydweithiol. Mae NMWTRA yn ymdrin ag 8 o’r Awdurdodau Lleol Cymreig (Ynys Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam) a fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r Cefnffyrdd gan gynnwys gweithredu’r gwasanaeth dros y gaeaf yn eu rhanbarthau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion fel darparwr gwasanaeth NMWTRA yn gweithredu fel y prif ddarparwr wrth wneud penderfyniadau i’r trywyddion canlynol:

  • A487 Ffin y sir i Gylchdro Ridgeway, Aberteifi
    • Darparwr Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau – Cyngor Sir Ceredigion
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Sylfaen – Cyngor Sir Pembrokeshire
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Eilaidd – Cyngor Sir Ceredigion
  • A487 Ffin y sir i Gylchdro Celtica (Machynlleth)
    • Darparwr Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau – Cyngor Sir Ceredigion
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Sylfaen – Cyngor Sir Ceredigion
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Eilaidd – Cyngor Sir Powys
  • A44 Aberystwyth i Gylchdro Felin Fawr (Llangurig)
    • Darparwr Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau – Cyngor Sir Ceredigion
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Sylfaen – Cyngor Sir Ceredigion
    • Darparwr Gwasanaeth Gweithredol Eilaidd – Cyngor Sir Powys

Mae’r Darparwr Gwasanaeth Lleol yn gyfrifol am:

  • Ddatblygu ac adolygu’r Cynllun Gwasanaeth Dros Y Gaeaf
  • Gweithredu’r Cynllun Gwasanaeth Dros y Gaeaf a chyflwyno gwasanaethau fel y’u diffinnir yn y Cynllun
  • Penderfynu ar drywyddion trin rhagofalus y Gwasanaeth Dros y Gaeaf
  • Casglu rhagolygon y tywydd a gwybodaeth am gyflwr ffyrdd, penderfyniadau a rheolaeth o ddydd i ddydd
  • Cydgysylltu â darparwyr gwasanaeth cyfagos er mwyn sicrhau gwasanaeth parhaus a chyson
  • Cyfathrebu â phob parti perthnasol ynghylch Camau’r Gwasanaeth Dros y Gaeaf
  • Gweithredu Camau’r Gwasanaeth Dros y Gaeaf fel y’u cyfathrebir
  • Darparu offer, llafur a defnyddiau
  • Cynnal a gweithredu cerbydau gwasanaeth y gaeaf, llefydd cadw a chyfarpar a
  • Monitro ac adolygu perfformiad y gwasanaeth a ddarperir

Ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf, caiff y Sir ei rhannu’n ddwy ardal - Gogledd a De, ar sail y ddau ddepo, y naill wedi ei leoli yn Glanyrafon (Aberystwyth) a’r llall ym Mhenrhos (Llandysul).

Y tu allan i oriau swyddfa'r Cyngor, ar y penwythnosau, ac ar unrhyw adeg arall pan fydd y swyddfeydd ar gau bydd system ‘Swyddog ar Ddyletswydd’ yn gweithredu. Bydd swyddogion profiadol yn gweithio ar system rota. Mae swyddogion ar ddyletswydd yn ymdrin â phob sefyllfa argyfwng sy’n effeithio ar rwydwaith y priffyrdd, nid yn unig y rhai sy’n gysylltiedig ag anghenion gwasanaeth y gaeaf.

Adeg argyfwng dros ardal helaeth, defnyddir Ystafell Reoli Ganolog yn swyddfa’r Cyngor yn Aberaeron neu unrhyw un o’r ddau depo a gweithredir Cynllun Damweiniau o Bwys y Sir.

Rhagweld y Tywydd

Darperir rhagolygon y tywydd ar gyfer Ceredigion, fel y gwneir yn gyffredinol ar draws Cymru gan MetDesk.

Rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill, darperir gwasanaeth rhagweld y tywydd i’r Cyngor. Mae’r gwasanaeth ar ffurf rhagolygon 24 awr a ddarlledir yn ddyddiol am oddeutu 13.00 o’r gloch gyda rhybuddion ychwanegol am beryglon ar y ffyrdd a chyfleusterau ymgynghori y tu allan i’r oriau swyddfa arferol. Defnyddir y rhagolygon fel cymorth i gynllunio pa gamau sydd eu hangen.

Fe'u hadolygir trwy'r system MetDesk gan y swyddog priodol. Ar benwythnosau, mae'r Swyddog ar Ddyletswydd yn adolygu'r rhagolygon trwy liniadur. Os bydd y rhagolygon yn newid, bydd MetDesk yn cysylltu â’r Swyddog ar Ddyletswydd yn uniongyrchol (neu bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â MetDesk yn uniongyrchol).

Mae gan Geredigion bum rhagorsaf darogan rhew o fewn y Sir. Mae dwy ohonynt yn rhagorsafoedd Llywodraeth Cymru ac mae tair yn rhagorsafoedd Cyngor Sir Ceredigion. Fe’u lleolir yn y mannau canlynol: Bwlch Nant-yr-Arian ger Ponterwyd ar yr A44T; Synod Inn ar yr A487T; Bronnant ar yr A485; Llanbedr Pont Steffan A485; ac Adpar B4333.

Mae’r rhagorsafoedd hyn yn rhan o system fonitro ‘ICELERT’ ar gyfer Cymru gyfan ac mae deg o’r rhagorsafoedd hyn i’w cael yng ngorllewin Cymru. Mae gan MetDesk fynediad uniongyrchol i synwyryddion ffyrdd a gorsaf dywydd gysylltiedig y rhagorsafoedd. Mae rhagorsafoedd eraill yn cael eu monitro ac yn cynnwys: A477 Rhos-goch; A40 Y Felin Wen; A487 Llantwyd; A487 Y Gam; A482 Pumsaint ; A476 Carmel; A40 Nant-y-Ci; A483 Erwbeili; A487 Derwenlas; A486 Llandysul.

VAISALA sydd bellach yn gweithredu’r system o ddydd i ddydd a byddant yn darparu gwasanaeth 24 awr 7 niwrnod yr wythnos i’r Awdurdod.  Bydd synwyryddion a osodwyd yn y rhagorsafoedd yn storio ac yn trosglwyddo gwybodaeth am dymheredd yr aer ac wynebau’r ffyrdd, y gwlithbwynt, cyflymder y gwynt a’i gyfeiriad.

Caiff halltedd wynebau’r ffyrdd ei gofnodi hefyd. Caiff yr wybodaeth ei throsglwyddo i’r brif orsaf trwy gysylltiadau modem ar y ffôn. Yn ystod cyfnodau o Berygl Canolig ac Uchel, caiff y rhagolygon eu trosglwyddo gan MetDesk i’r brif orsaf VAISALA yn Birmingham. Yna cânt eu trosglwyddo’n syth i’r Ail Orsafoedd yn Nepos Glanyrafon a Phenrhos ynghyd â’r swyddfa ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Bydd VAISALA ar ran MetDesk, yn monitro’r System Darogan Rhew 24 awr y dydd. Hysbysir y Swyddog ar Ddyletswydd perthnasol pan ganfyddir amgylchiadau difrifol.

Mae Ceredigion wedi gosod dwy orsaf newydd yn 2016-17 - yn Adpar a Llanbedr Pont Steffan. Bellach, mae gan bob rhagorsaf yng Ngheredigion swyddogaeth ychwanegol ar ffurf camerâu fideo sy'n rhoi cymorth pellach i'r broses o wneud penderfyniadau.

Caiff cyfnod y ‘gaeaf’ ei rannu i dri chyfnod gwahanol o ran darparu gwasanaethau dros y gaeaf:

  • ISEL – Hydref ac Ebrill – Ni ddisgwylir tywydd gwael iawn
  • FFINIOL – Tachwedd a Mawrth – Gallai fod tywydd gwael iawn
  • UCHEL – Rhagfyr i Chwefror – Disgwylir tywydd gweddol wael

Cyfathrebu Gweithredol

Bydd pob cerbyd cynnal a chadw yn ystod y gaeaf yn medru cysylltu â’u goruchwylwyr yn y depo drwy gyfrwng ffôn symudol er mwyn iddynt fedru trosglwyddo cyfarwyddiadau ac anfon yr wybodaeth gyfredol yn ôl o’u cerbydau. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae’r cerbydau i gyd yn cael eu tracio trwy loeren gan Exactrak, sef system tracio a monitro cerbydau ar y we, sy’n darparu gwybodaeth fanwl am weithrediadau’r fflyd gyfan.

Mewn amgylchiadau argyfyngus, atodir Cynllun Argyfwng yr Adran (DEP) i gynllun gwasanaeth y gaeaf. Cynhelir cyfarfodydd cydlynu adrannol i ddelio â thywydd difrifol yn unol ag Atodiad 1 Cynllun DEP.  Bydd grŵp craidd o swyddogion, gan gynnwys uwch swyddogion a staff gweithredol, yn ffurfio canolbwynt gwaith brys i drafod a chynllunio camau i’w gweithredu.

Caiff cynlluniau, camau gweithredu a materion eraill eu cyflwyno i gyfarfodydd corfforaethol y Cyngor sy’n cynnwys Rheolwyr Gwasanaeth eraill a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys y gwasanaethau brys.

Cyfathrebu â’r Wasg a Chyhoeddusrwydd

Bydd y Cyngor yn darparu gwybodaeth / cyngor i’r gyrwyr. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.

Cynghorir y cyhoedd o gynllun gwasanaeth y gaeaf a ddarperir gan y Cyngor ar y wefan ar www.ceredigion.gov.uk/wsp.  Cynigir cyngor ynglŷn â gyrru adeg y gaeaf cyn i’r gaeaf ddechrau ac o dan amodau gwael er mwyn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a chynorthwyo modurwyr i gynllunio’u teithiau.

Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, gall tywydd y gaeaf wneud ein ffyrdd yn beryglus.

Mae canolfan gyswllt gorfforaethol yn ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau o’r cyhoedd yn ystod oriau gwaith swyddfa. Y tu allan i’r oriau hyn ac ar benwythnosau, gweithredir system argyfwng 24 awr gyda swyddogion ar ddyletswydd gan y Cyngor.

Mae cysylltu â’r cyfryngau, yn enwedig y gorsafoedd radio lleol a BBC Cymru/Wales o’r pwysigrwydd mwyaf a byddir yn cynnal y cyswllt yn ystod cyfnodau hir o dywydd gwael a chwymp trwm o eira. Bydd staff gweithredol yn ymgymryd â rôl ragweithiol wrth ddarparu gwybodaeth i gyrff y cyfryngau wrth i’r gwaith fynd rhagddo trwy gyfrwng Swyddfa Wasg y Cyngor.

Bydd gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn adrodd ar y sefyllfa bresennol ar lawr gwlad gan gynnwys gwybodaeth am gau ffyrdd. Gall y cyhoedd sydd am deithio gael cyngor ynghylch tywydd gwael o wefan yr Awdurdod. Yn ogystal, ceir cyngor pellach gan Swyddfa Wasg y Cyngor fel bo angen trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill megis Facebook a Twitter.

Trefniant Staffio

Ar gyfer Cynnal a Chadw yn y Gaeaf, mae’r Sir wedi ei rhannu’n ddwy ardal yn seiliedig ar ddepos Glanyrafon, Aberystwyth a Phenrhos, Llandysul. Yr A482, Aberaeron i Lanbedr Pont Steffan yw’r ffin rhwng y Gogledd a’r De.

Gweithredir system Swyddogion ar Ddyletswydd y tu allan i oriau gwaith rhwng 1 Hydref tan 31 Ebrill yn y ddwy ardal.  Mae’r rota Swyddogion ar Ddyletswydd yn cynnwys swyddogion wedi eu hyfforddi a phrofiadol. Gellir galw’r Swyddogion ar Ddyletswydd ar linell ffôn argyfwng arbennig drwy gyfrwng system awtomatig ar gyfer trosglwyddo galwadau. Y tu allan i oriau swyddfa arferol bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn gyfrifol am benderfynu pa weithred a fo’n briodol i’r amodau dan sylw. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd mewn cyswllt â goruchwylwyr yn y depo pan fydd angen gweithredu. Ar gyfer materion Cynnal a Chadw yn y Gaeaf, bydd y Swyddogion ar Ddyletswydd yng Ngheredigion yn cysylltu’n rheolaidd â Swyddogion ar Ddyletswydd yn Sir Benfro, Powys a Sir Gaerfyrddin ynglŷn â’r camau arfaethedig y bwriedir eu cymryd ar ffyrdd rhyngsirol cynradd a ddynodwyd ar gyfer triniaeth ragofalus.

Hyfforddiant

I sicrhau lefel addas o gymhwysedd, dylid sefydlu ac adolygu’n flynyddol hyfforddiant ynghyd â’r anghenion i ddatblygu’r gweithwyr i gyd gan gynnwys iechyd a diogelwch a chymwysterau galwedigaethol priodol.

Mae Grŵp Ymchwil Cenedlaethol Gwasanaeth y Gaeaf (NWSRG), Grŵp Cyswllt Ffyrdd y DU (UKRLG), Asiantaeth y Priffyrdd (HA) a Sefydliad Peirianwyr Priffyrdd (IHE) yn cefnogi creu “Datblygiad o Safon Gwasanaeth y Gaeaf Cenedlaethol ar gyfer y Penderfynwyr” ffurfiol er mwyn:

  • Creu meincnod ar gyfer canlyniad dysgu ar gyfer hyfforddiant Penderfynwyr Gwasanaeth y Gaeaf yn y DU;
  • Creu fframwaith dysgu a chymwysterau i fyny at lefel Peiriannydd Corfforedig; a
  • Chreu safonau meincnod ar gyfer asesiad cymhwyster y Penderfynwyr.

Mae Swyddogion Dyletswydd yn mynychu hyfforddiant arbenigol ar ddehongli rhagolygon tywydd a’r defnydd o feddalwedd cyfrifiadurol pwrpasol, sy’n gysylltiedig â thair gorsaf rew a leolwyd yn y Sir, a chyda saith gorsaf rew arall a leolwyd mewn siroedd cyfagos. Mae’r system hon yn darparu gwybodaeth hanesyddol a diweddar am gyflwr y ffyrdd, ynghyd â chyswllt i MetDesk, ac mae ar gael i’r Swyddog ar Ddyletswydd 24 awr y dydd yn ystod y gaeaf.

Bydd y swyddogion sy’n gweithredu’r gwasanaeth yn derbyn hyfforddiant blynyddol i’w hatgoffa o ddefnydd cyffredinol y cyfarpar gan sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag unrhyw beiriannau neu offer newydd. Hefyd, caiff swyddogion eu hyfforddi a derbyn cymhwyster City & Guilds 6159: cymhwyster i weithredwyr gwasanaeth yn y gaeaf.

Mae’r canllawiau newydd yn argymell cynnal ymarferiadau i brofi’r cynllun cynnal a chadw’r priffyrdd dros y gaeaf.

Ystyrir bod yr argymhelliad hwn yn fwy perthnasol i’r awdurdodau hynny nad ydynt yn aml yn wynebu tywydd gwael dros y gaeaf, de-ddwyrain Lloegr er enghraifft. Mae Ceredigion yn goddef tywydd gwael dros y gaeaf yn fwy aml ac yn ystyried bod ei hymateb gweithredol i’r tywydd gwael hwn yn flynyddol yn ddigonol i gefnogi’r ymarfer.

Lefelau Ymateb

Mae’r camau a gymerir wrth ymateb fel a ganlyn:

  • Gweithwyr wrth gefn – Gweithwyr adref tra’n disgwyl galwad. (Lefel 1)
  • Gweithwyr yn aros yn y depo – Gweithwyr yn y depo yn disgwyl cyfarwyddiadau. (Lefel 2)
  • Patrol – Ymgymerir gan yrwyr yn unig mewn cerbydau graeanu ar drywyddion penodol i daenu halen yn ddetholus, e.e. ar y mannau hynny lle bo rhew ar y ffordd a gwlybaniaeth. (Lefel 3)
  • Haen ragofalus o halen – Ymgymerir gan yrwyr yn unig mewn cerbydau graeanu i gyflenwi halen ar y ffyrdd gan roi haen ar gyfran benodedig ar hyd y trywyddion rhestredig. (Lefel 4)
  • Clirio eira – Ymgymerir gan yrwyr a chydweithwyr pan fydd erydr wedi’u gosod. Taenir halen yn ogystal adeg eira ond ar gyfradd uwch. (Lefel 5)

Gweithrediadau

Mae fflyd cerbydau Gwasanaeth y Gaeaf yn cynnwys cerbydau pwrpasol ar gyfer taenu, unedau taenu, cerbydau amlbwrpas a chwythwyr eira.

Mae'r fflyd yn cael ei resymoli ar hyn o bryd. Bwriedir cynnal fflyd o gerbydau deuddiben i gynnal a chadw’r priffyrdd yn y gaeaf ac yn gyffredinol.

Mae Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaeth Priffyrdd ynghyd â Rheolwr Gwasanaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd yn gyfrifol am gaffael Fflyd Cynnal a Chadw’r Gaeaf.

Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Rheolwr Gwasanaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd sy’n gyfrifol am drefnu gweithwyr ar gyfer y fflyd ac am sicrhau bod y fflyd yn cael ei chadw a’i gwasanaethu. Y Rheolwr Gwasanaeth Trafnidiaeth sy’n ymgymryd â chynnal a chadw’r fflyd drwy’r Uned Cynnal a Chadw Trafnidiaeth.

Gwneud Penderfyniadau

Ymgymerir â gweithrediadau graeanu rhagofalus Gwasanaeth y Gaeaf gan gerbydau graeanu un dyn. Mae asesiadau risg ar gyfer y weithdrefn hon yn nodi fod gweithio unigol o dan amgylchiadau peryglus yn weithgaredd risg uchel.

Mae System Leoli Fyd-eang (GPS) wedi’i gosod ymhob cerbyd gwasanaeth y gaeaf. Ar hyn o bryd, caiff y system GPS ei gweithredu trwy Exactrak, ac mae'r system yn medru lleoli safle’r cerbyd drwy’r adeg, gan alluogi'r Goruchwyliwr Dyletswydd i fonitro’r sefyllfa o ran y gwaith graeanu a gweld lle’n union y mae’r cerbyd graeanu.

Gosodwyd y system tracio newydd a gwell hwn yn y cerbydau graeanu newydd yn y ffatri, ac fe’i ôl-osodwyd yn y rhan fwyaf o’r fflyd graeanu presennol.

Fel y nodwyd, dengys yr asesiadau risg bod gwneud gwaith graeanu fel person unigol mewn amodau peryglus posibl yn weithgaredd risg uchel.  Mae’r feddalwedd olrhain yn rhoi lefel ychwanegol o ddiogelwch gan ei fod yn caniatáu i oruchwylwyr a/neu swyddogion dyletswydd fonitro’r cerbydau.  Os bydd y gweithwyr yn mynd i drafferthion, bydd y swyddogion yn cael eu hysbysu o broblem bosibl a gellir darparu cymorth yn ôl y gofyn.  

Fel rheol, Peiriannydd Cynorthwyol a leolir yn swyddfa Glanyrafon a/neu Benrhos sy’n penderfynu ar yr hyn a wneir yn ddyddiol yn ystod oriau gwaith arferol.  Seilir unrhyw gamau ar ôl derbyn rhagolygon y tywydd oddi wrth MetDesk.  Llenwir taflen ar-lein sy’n nodi’r Camau Graeanu ac fe’i dychwelir yn electronig i’r MetDesk sydd yna’n anfon y camau i restr bostio sy’n cynnwys Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), awdurdodau cyfagos, gwasanaethau brys ac ati.  Yna caiff y camau a bennir eu gweithredu.  Anfonir copïau papur o’r camau i’r goruchwyliwr gaeaf.   

Mae’r swyddogion hynny’n sy’n gwneud penderfyniadau wedi’u hyfforddi’n gymwys ac yn brofiadol i ymgymryd â phenderfyniadau ynglŷn â gwasanaeth y gaeaf ar draws amrediad cyfan o’r amodau a gyflwynir yn ystod tymor y gaeaf.

Mae ganddynt ddealltwriaeth drwyadl o’r rhwydwaith lleol ac unrhyw amgylchiadau, boed dros dro neu’n barhaol, a fyddai angen ystyriaeth benodol wrth ddarparu’r gwasanaeth.  Mae ganddynt ddealltwriaeth ddigonol o’r broses dechnolegol i benderfynu sut gall newidiadau mewn amgylchiadau o ran defnyddio gwahanol ffyrdd o doddi rhew, yr amodau pan ddefnyddir y moddau o doddi rhew, y gallu i daenu graean, newidiadau hwyr yn y tywydd, amodau traffig neu ar y ffyrdd, effeithio ar y lefel o wasanaeth y gellir ei ddarparu a byddant wedi ymgymryd â’r hyfforddiant perthnasol.

Rhoddir gwybod i’r swyddogion ar ddyletswydd am y camau a fwriedir, a nhw fydd yn gyfrifol am fonitro rhagolygon y tywydd y tu allan i’r oriau gwaith arferol. Os bydd yr amgylchiadau neu’r tywydd a ragwelir yn newid, gall y swyddogion ar ddyletswydd, wrth gyfathrebu â’r sawl sy’n rhagweld y tywydd, newid y camau a fwriedir.

Hefyd, gall swyddogion gyfathrebu â gweithwyr yr awdurdodau cyfagos ynglŷn â’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd.

Os rhagwelir cyfnod hir o eira neu oerfel eithafol yn rhagolwg 5 niwrnod MetDesk, gall y Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Priffyrdd baratoi patrwm sifftiau ar gyfer taenu graean er mwyn cael gwasanaeth 24 awr ar y trywyddion rhagofalus penodedig ym mhob ardal. Mae’r patrwm sifft hwn yn digwydd yn y ddau ddepo; mae pob sifft yn cynnwys dau gyfnod 12 awr a newidir y sifftiau am 12 hanner dydd a 12 hanner nos.

Taenu Halen – Halennu Rhagofalus

Bydd y penderfyniad i daenu halen ar y ffyrdd ymlaen llaw yn dibynnu ar y canlyniadau a ddaw o’r system ICELERT a Rhagolygon MetDesk. Wrth ystyried y data neu’r cyngor hwn, gellir targedu’r rhannau hynny o’r ffyrdd y mae angen eu halennu ymlaen llaw gan sicrhau nad oes gormod o halen yn cael ei wastraffu.

Mae’r penderfyniad i halennu yn cael ei gymhwyso gan ffactorau megis hynodwedd ddaearyddol leol, mesuriadau lleithder, cyflymder y gwynt ac arsylwi'r halltedd sydd yn weddill.

Os oes modd cael rhybudd, mae’r halennu rhagofalus yn fwyaf effeithiol pan fo tymheredd gostyngol yn cyrraedd +1 gradd Celsius, os yw’r lleithder cyffredinol, yr halltedd sy’n weddill a gorchudd y cwmwl yn cyfiawnhau’r penderfyniadau.

Os rhagwelir y bydd yn bwrw eira’n barhaus, mae’r graddfeydd taenu yn cynyddu yn ôl gerwinder y cwymp eira. Bydd y cynnydd halltedd yn toddi’r eira cyntaf ac yn darparu wyneb gwlyb o dan yr eira dilynol gan wneud gwaith yr erydr eira’n haws.

Bydd y rhannau uchel o rwydwaith y priffyrdd a’r rhannau sydd ar dir isel yn fwy tebygol o rewi ac efallai y bydd angen rhoi sylw arbennig iddynt.

Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw

Rhoddir blaenoriaeth i’r Cefnffyrdd a’r Priffyrdd.  Y rhain yw’r ffyrdd strategol a’r ffyrdd lle y gwelir y traffig trymaf.

Yna rhoddir sylw i’r priffyrdd eraill, mynediadau i safleoedd o bwysigrwydd strategol gan gynnwys ffyrdd yn arwain at ganolfannau gwaith a mannau dosbarthu pwysig, canolfannau’r gwasanaethau brys, trywyddion bws pwysig a depos bysiau, cysylltiadau gorsaf trenau rhyngsirol ynghyd â thrywyddion gwaith pwysig.

Dewiswyd y ffyrdd ar gyfer eu cynnwys ar restr halennu ragofalus drwy ddefnyddio methodoleg asesu ffyrdd.  Paratowyd y rhestr ragofalus ar sail canllawiau cenedlaethol.  Mae gan yr Awdurdod Priffyrdd ddyletswydd dan adran 41 o Ddeddf Priffyrdd 1980 i atgyweirio a chynnal a chadw’r priffyrdd.  Mae hyn yn cynnwys cadw’r briffordd yn rhydd o rew ac eira (pan fo’n ymarferol).

Mae polisi gwasanaeth y gaeaf yn darparu amddiffyniad o blaid y Cyngor os gwneir hawliad, cyn belled â’i fod yn rhesymol, ymarferol ac yn cael ei weithredu.  Ni ellir ychwanegu ffyrdd at y rhestr heb fynd drwy’r dull cywir o asesu gan y byddai’n tanseilio’r polisi hwn a’r sylfaen y’i seilir arno (h.y. y matrics).  Buasai hefyd yn tanseilio ac yn  cymhlethu amddiffyniad yr Awdurdod Priffyrdd petai’n cael ei herio mewn perthynas â’i ddyletswyddau dan adran 41 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Adolygir y fethodoleg asesu hon yn gyson er mwyn medru cyfarfod â’r newidiadau mewn anghenion a osodir ar y rhwydwaith priffyrdd.  Mae’n rhaid i’r matrics asesu ddefnyddio dull sgorio i sicrhau bod y Cyngor Sir yn medru darparu’r gwasanaeth heb effeithio’n anffafriol ar wasanaethau eraill.

Mae’r rhwydwaith rhagofalus nawr yn cynnwys tua 463 cilomedr o ffyrdd y rhwydwaith sydd wedi eu nodi ar drywyddion unigol o fewn y gweithdrefnau gweithredol manwl.  Cynllunnir pob trywydd fel bod modd cwblhau’r gwaith arferol o fewn 3 awr ar gyfer gweithrediadau halennu normal er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y trywydd i’r eithaf.

Mewn amgylchiadau o dywydd gaeaf eithafol a effeithia ar fwyafrif o’r wlad, pan fo’r alwad genedlaethol am halen yn goddiweddyd y gallu i adnewyddu’r stoc gan y cynhyrchwyr halen, yna pan fetha popeth arall gellir ystyried lleihau’r rhwydwaith halennu rhagofalus er mwyn cadw’r stoc halen sy’n weddill.

Bydd yr ‘isafbwynt rhwydwaith argyfwng’ yn cynnwys y Cefnffyrdd a’r Ffyrdd Sirol Strategol yn unig. Gwneir eithriadau o ganolfannau pwysig sy’n darparu cyfleusterau adeg argyfwng. Bydd y cynllun wrth gefn hwn, ynghyd â rhai eraill sydd eisoes wedi eu gweithredu, yn diogelu’r stoc halen fel bod yr Awdurdod yn medru trin gweddill y rhwydwaith am gyfnod mor hir ag sydd yn bosibl neu tan yr amser hwnnw y gellir adnewyddu’r stoc halen. Caiff yr awdurdodau cyfagos eu hysbysu o’r weithred hon lle bynnag y bydd yn effeithio ar ffyrdd sy’n cysylltu’r siroedd.

Llwybrau Troed

Mae graean yn para’n hwy ar lwybrau troed nac ar ffyrdd, ac felly nid oes gofyn graeanu mor aml. Gan amlaf, byddwn yn penderfynu halennu yn ôl y galw, ond gellid trin llwybrau troed ymlaen llaw pe bai’r Swyddog ar Ddyletswydd yn penderfynu bod hynny’n ofynnol neu’n hanfodol.

Darperir triniaeth ar gyfer llwybrau troed a ddefnyddir gan lawer neu droedffyrdd yng nghanol trefi.

Llwybrau Beicio

Mae’r mwyafrif o lwybrau beicio yng Ngheredigion yn rhai hamdden. Fodd bynnag, ceir ambell lwybr, yn enwedig yn Aberystwyth, sy’n cael eu defnyddio naill ai gan gymudwyr, neu Lwybrau Diogel i’r Ysgol.

Ni fydd y Gwasanaeth dros y Gaeaf yn cynnwys y llwybrau hamdden, na’r llwybrau sydd wedi’u creu mewn ardaloedd amgylcheddol sensitif.  Trinnir ffyrdd cymudwyr Aberystwyth a’r Llwybrau Diogel i’r Ysgol gan halennu adweitheddol, sef yr ymatebiad y penderfynwyd arni.  Ar y llaw arall, gellir eu cau ar sail diogelwch gan nad yw’n ymarferol neu’n rhesymol iddynt gael eu trin.

Clirio Eira oddi ar Lonydd Cerbyd

Rhoddir blaenoriaeth i Ffyrdd Sirol Strategol y Rhwydwaith sy’n cynnwys y Cefnffyrdd a ddilynir gan ffyrdd sy’n arwain at ganolfannau gwaith hanfodol a chanolfannau dosbarthu, ysbytai, gorsafoedd tân, ambiwlans a’r heddlu, prif lwybrau bysiau, llwybrau pwysig i’r gwaith, gorsafoedd trenau a bysiau, ffyrdd sy’n arwain at ganolfannau siopa, ffyrdd sy’n unig fynedfa i bentrefi, pentrefannau, cymunedau gwledig, ysgolion a ffermydd, cyn mynd ati yn olaf i raeanu ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.

Pan fo’r amodau’n caniatáu hynny, bydd y swch eira’n mynd ar hyd y ffyrdd unwaith y bydd 3 neu 4 cm o eira’n gorchuddio’r llawr. Gellir taenu halen hefyd bob tro'r â’r swch eira heibio.

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd gwael eithafol, gellir ymgymryd â chwe thriniaeth yn olynnol o fewn 24 awr. Cyfeirir at hyn fel ‘graeanu trwm’. Gall hyn olygu defnyddio cymaint â 500 tunnell o halen y dydd. O ystyried y capasiti presennol, gall Ceredigion raeanu’n drwm am 19.6 diwrnod heb orfod ail-archebu, os oes gennym stoc llawn i ddechrau.

Mewn amgylchiadau eithafol, caiff nifer y rhwydweithiau sy’n cael eu trin ei leihau i’r lefel gofynnol os nodwyd bod angen arbed halen. Mewn argyfwng, bydd hyn yn cynnwys Ffyrdd Sirol Strategol a Chefnffyrdd yn unig. Bydd canolfannau pwysig sy’n darparu cyfleusterau argyfwng, megis ysbytai, yn eithriadau i hyn. Bydd y cynllun hwn, ynghyd ag eraill sydd ar waith eisoes, yn cynnal y stoc halen ac yn galluogi’r awdurdod i drin y rhwydwaith sy’n weddill cyhyd ag sy’n bosib neu nes y gellir cyflenwi mwy o halen.

Bydd Awdurdodau cyfagos yn cael gwybod am gamau o’r fath pan fydd hyn yn effeithio ar ffyrdd rhyng-sirol.

Ffyrdd Eraill

Bydd y Cyngor yn darparu gwasanaeth adweitheddol mewn perthynas â’r ffyrdd eraill adeg cyfnodau o dywydd gwael estynedig y gaeaf, ond dim ond pan nad yw’n cyfaddawdu ar driniaeth effeithlon y rhwydwaith halennu ragofalus fel y cyfeirir ato’n flaenorol a lle bo’r adnoddau ar gael. Y ffyrdd eraill yw’r rhai hynny nad ydynt wedi eu cynnwys ar rwydwaith triniaeth rhagofalus y Cyngor.

Dibynna effeithiolrwydd ac ymateb y gwasanaeth y gellir eu priodoli i’r ffyrdd eraill hyn ar argaeledd offer a phersonél o fewn fflyd gwasanaeth y gaeaf ‘wrth gefn’.  Bydd y fflyd hon yn cynnwys offer rhagofalol rheng-flaen a ‘ymddeolwyd’ a cherbydau graeanu sy’n dal i weithredu ar gyfer gweithrediadau cynnal a chadw eraill y priffyrdd.

Mae’r Cyngor hefyd yn cadw rhestr ddethol o gontractwyr lleol (ffermwyr yn bennaf) yr aseswyd eu bod yn gymwys i gynorthwyo gyda gwaith clirio eira ar y rhwydwaith is-ffyrdd lleol a gynhelir gan arian cyhoeddus i aneddiadau llai.

Clirio Eira oddi ar Lwybrau Troed

Rhoddir blaenoriaeth i’r prif ardaloedd siopa, cyn rhoi sylw i’r ardaloedd trefol prysur, gan gynnwys llwybrau troed sy’n arwain at sefydliadau hanfodol, ysbytai, llwybrau bysiau o bwys mewn trefi, ysgolion a lleoliadau eraill sy’n peri trafferthion, er enghraifft, rhiwiau serth.

Caffael Halen

Compass Minerals yw’r cyflenwr halen, neu halen craig, i Awdurdodau Cymru. Compass Minerals sy’n gweithredu mwynglawdd halen craig mwyaf yn y DU, a’r cyflenwr mwyaf ym Mhrydain o halen craig naturiol a ddefnyddir gan weithwyr cynnal a chadw gwasanaeth y gaeaf proffesiynol i ddadrewi ffyrdd rhewllyd adeg tywydd gaeafol.

Lleolir Compass Minerals ym Mwynglawdd Halen Craig Winsford yn Sir Gaer.

Ar hyn o bryd mae Ceredigion yn caffael halen trwy gyfrwng fframwaith caffael ar y cyd rhwng Awdurdodau Cymru. Mae hyn yn darparu dull effeithlon a gwerth am arian i gynyddu gwytnwch gwasanaeth y gaeaf.

Mae Ceredigion yn sicrhau bod y stoc halen y gall ei gadw yn ei storfeydd wedi’i hatgyflenwi ar ddiwedd cyfnod gwasanaeth y gaeaf a chyn gwasanaeth y gaeaf dilynol. Cyflenwir y stoc yn yr haf gan fod y gyfradd fesul tunnell fetrig ar gyfer halen craig yn is.

Mae’r stoc yn cael ei fonitro wrth i gyfnod y gaeaf fynd rhagddo ynghyd â rhagolygon y tywydd.

Gwneir mesuriad manwl gywir o’r stoc halen ar ddechrau’r gaeaf, a byddwn yn monitro’r stoc wrth iddo leihau wrth ddefnyddio’r halen ar hyd y rhwydwaith.  Caiff pob cerbyd graeanu ei bwyso cyn gadael y depo, ac wrth ddychwelyd ar ôl bod yn taenu graean.  Gwneir penderfyniad cyflenwi’r stoc yn seiliedig ar lefelau’r stoc a’r swm y disgwylir ei ddefnyddio yn ôl rhagolygon a phrofiad fel y cyfyd yr angen.

Mae lefelau’r stoc yn cael eu rheoli’n fewnol erbyn hyn.  Cedwir cofnod o faint o halen sydd mewn stoc ar ddechrau tymor y gaeaf.  Mae swm yr halen a ddefnyddir yn ystod y gaeaf yn cael ei fonitro’n ddyddiol trwy wybodaeth a gaffaelir drwy’r tocynnau pont pwyso a thaflenni cofnodi,  a chedwir hyn ar gronfa ddata.  Pan fydd y stoc yn cyrraedd lefel benodol, caiff rhagor o halen ei archebu o Compass Minerals.

Cadw Halen

Cedwir halen ar ddau safle gwahanol mewn ysguboriau pwrpasol yn y storfeydd depos priffyrdd yng Nglanyrafon, Aberystwyth a Phenrhos, Llandysul.  Adeiladwyd yr ysguboriau ar ffurf modiwlau. Gyda’i gilydd mae cyfanswm yr ardal dan do yn cadw 9,800 tunnell.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn argymell y dylai’r cyflenwad halen ar gyfer dechrau unrhyw dymor gaeaf gael ei bennu ar 1.5 gwaith y defnydd cyfartalog yn y cyfnod o chwe blynedd 2005-2011, a oedd yn cynnwys dau aeaf caled. Mae’r ffigwr hwn yn cyfateb i 9838 tunnell.Bydd ysguboriau Glanyrafon a Phenrhos ill dau’n hollol lawn ar ddechrau unrhyw dymor gwasanaeth y gaeaf.  Mae hyn yn uwch na’r ffigwr paratoadau gwrthsefyll a argymhellir.

Biniau Halen

Darperir biniau halen er mwyn galluogi gyrwyr neu gerddwyr i halennu dros eu hunain y rhannau hynny o’r rhwydwaith nad ydynt yn Ffyrdd â Blaenoriaeth. Maent hefyd ar gael ar y ffyrdd hynny mewn mannau y gwyddys bod anawsterau’n codi, er enghraifft, rhiwiau serth, troeon llym a chyffyrdd.

Dengys cofnodion bod yno oddeutu 600 o finiau halen o wahanol faint ar hyd a lled y Sir.  Mae eu cyflwr yn cael ei fonitro ac maent yn cael eu hail-lenwi fel y bo’r angen ar ddechrau pob tymor y gaeaf, ac adnewyddir biniau sydd wedi’u difrodi os oes cyllid ar gael. 

Asesir ceisiadau am gymeradwyo neu fel arall y ddarpariaeth o finiau halen trwy gyfrwng ffurflen asesu criteria biniau halen.

Bwriedir i bobl ddefnyddio’r halen o’r biniau hyn ar y rhan benodol honno o’r briffordd gyhoeddus, ac ni ddylid ei symud a’i ddefnyddio rhywle arall nac at ddibenion preifat.

Adnoddau, Offer a Cherbydau

Mae Gwasanaeth y Gaeaf yn ddibynnol ar daenu halen yn effeithlon gan gerbydau pwrpasol er mwyn dadrewi ynghyd â’r defnydd o gymysgedd o halen a graean i leihau effeithiau rhew sydd wedi ffurfio neu eira tynn. Symudir eira sydd ar lawr wrth aradu, ei chwythu neu’n gorfforol gan y gweithlu.

Cynlluniau Wrth Gefn

Yn sgil adolygu’r canllawiau o ran y ddarpariaeth ar gyfer Gwasanaeth y Gaeaf, argymhellir y dylai awdurdodau lunio cynlluniau wrth gefn ar gyfer tywydd garw iawn, gan gynnwys posibiliadau megis haelennu Lleiafswm Rhwydwaith y Gaeaf.

Buasai’r ‘lleiafswm rhwydwaith adeg argyfwng’ yn cynnwys cefnffyrdd a ffyrdd strategol sirol yn unig. Eithriadau i hyn fyddai canolfannau pwysig sy’n darparu gwasanaethau brys, megis ysbytai.  Bydd llunio cynllun wrth gefn fel hwn, ynghyd â chynlluniau eraill sydd eisoes ar waith, yn arwain at gynilo halen er mwyn galluogi’r Awdurdod i drin gweddill y rhwydwaith dros gyfnod hwy, neu tan y bydd modd ailgyflenwi’r stoc halen.  Bydd awdurdodau cyfagos yn cael eu hysbysu o’r fath weithred lle bo hynny’n effeithio ar ffyrdd cyswllt rhwng y gwahanol siroedd.

Dim ond pan ddaw hi i’r pen y dylid rhoi’r lleiafswm rhwydwaith adeg argyfwng ar waith.  Cyn ymgymryd â’r penderfyniad, buasai gweithrediadau eraill a nodwyd i gynilo’r defnydd o halen eisoes wedi ei roi ar waith.

Mae’r gyfradd taenu halen hefyd yn hanfodol wrth gynilo’r stoc. Gall penderfyniad i ostwng y gyfradd daenu arferol wneud gwahaniaeth sylweddol wrth gynilo’r stoc halen sy’n weddill.

Rhifau Teleffon Mewn Argyfwng Tu Allan I Oriau Gwaith

  • Gogledd – 01970 625277
  • De – 01239 851604

(Cyfeiria Gogledd at bob ffordd i’r gogledd o’r A482, sef y ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan)

Mae’r rhifau mewn grym rhwng: 17:00 awr tan 09:00 awr o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a rhwng 16:30 awr Ddydd Gwener tan 09:00 awr y Dydd Llun canlynol.

Mae’r rhifau mewn grym dros wyliau’r banc, a phan fydd swyddfeydd y Cyngor ar gau yn ogystal.

Yn ystod y dydd gwaith arferol defnyddiwch: 01545 570881, clic@ceredigion.gov.uk.