Dan Gynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol, mae gan bobl hŷn na 60 a phobl gyda rhai anableddau penodol yr hawl i deithio am ddim ar unrhyw adeg o'r dydd ar wasanaethau bysus lleol ar hyd a lled Cymru.

O’r 11 Medi 2019 bydd y tocynnau bws yn cael eu cynhyrchu gan Trafnidiaeth Cymru.

Newidiadau i docynnau bws

Daw’r holl docynnau bws presennol (gwyrdd 60 a Throsodd a Chardiau Person Anabl) i ben ar 31 Rhagfyr 2019.

O 11 Medi 2019 mae angen i ddalwyr cardiau ymgeisio eto am gerdyn newydd cyn y dyddiad dod i ben.

I adnewyddu eich cerdyn ewch i Pobl dros 60 - Trafnidiaeth Cymru (TrC) a dewiswch 60 a Dros neu Anabledd ac yna Amnewid Hen Gerdyn.

Os ydych yn gwenud cais am gerdyn newydd ewch i Pobl dros 60 - Trafnidiaeth Cymru (TrC) i wneud cais.

Os ydych yn cael problemau gyda hyn ffoniwch 0300 303 4240.