​Cafodd asbestos ei ddefnyddio’n helaeth mewn deunyddiau adeiladu yn y DU o’r 1950au tan ddechrau’r 1980au.

Fe’i defnyddiwyd at wahanol ddibenion ac roedd yn ddelfrydol i ddiogelu adeiladau rhag tân a’u hinswleiddio. Gall fod asbestos mewn unrhyw adeilad a godwyd cyn 2000 (tai, ffatrïoedd, swyddfeydd, ysgolion, ysbytai ac ati). Mae deunyddiau asbestos sydd mewn cyflwr da yn ddiogel, oni bai fod ffibrau asbestos yn cael ei rhyddhau i’r awyr. Mae hyn yn digwydd pan fydd deunyddiau’n cael eu difrodi.

Gellir cael hyd i asbestos mewn deunyddiau cyffredin a weithgynhyrchwyd cyn diwedd y 1980au:

  • Teils a dalennau to
  • Leinin waliau a nenfydau
  • Bwyleri a phibellau (deunydd inswleiddio)
  • Deunyddiau llawr

Mae’n anodd gwybod a oes asbestos mewn unrhyw ddeunydd drwy edrych arno. Yr unig ffordd o wybod yn sicr a oes asbestos mewn deunydd yw drwy ei brofi. Yn gyffredinol, ni fydd unrhyw ddeunydd sydd mewn cyflwr da ac sydd heb ei ddifrodi yn beryglus. Os ydych chi’n amau bod deunydd yn cynnwys asbestos a bod ôl traul arno neu’i fod yn dirywio, dylech chi ofyn am gyngor arbenigol ynghylch profi’r deunydd. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwasanaeth o’r fath. Dylai fod gan unrhyw gontractiwr sy’n gweithio gydag asbestos drwydded gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os bydd yn cymryd mwy na dwy awr i gwblhau’r gwaith.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).