Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ffitrwydd Tai i fod yn Gartref

Rhaid i'ch landlord sicrhau bod eich cartref yn 'ffit i bobl fyw ynddo', sy'n golygu ei fod yn ddiogel, yn iach a heb gynnwys pethau a allai achosi niwed difrifol i chi neu unrhyw un arall yn eich cartref. Er enghraifft, os yw eich tŷ neu fflat yn rhy oer ac ni allwch ei gynhesu, gall hyn effeithio ar eich iechyd.

Mae'r rheoliadau ynghylch ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn dwy Ran. Mae Rhan 1 yn rhestru'r pethau i'w hystyried wrth benderfynu a yw cartref yn ffit i bobl fyw ynddo. Mae Rhan 2 yn nodi'r pethau y mae'n rhaid i landlord eu gwneud er mwyn i gartref fod yn ffit i bobl fyw ynddo.

Mae Rhan 1 yn ei gwneud yn ofynnol i landlord 'roi sylw i 29 o faterion ac amgylchiadau'. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i landlord sicrhau nad yw'r un o'r 29 o bethau hyn yn gwneud yr annedd yn anaddas i bobl fyw ynddi.

Materion ac Amgylchiadau

  1. Lleithder, gwiddon a llwydni neu dwf ffyngaidd: Dod i gysylltiad â gwiddon llwch tŷ, tamprwydd, llwydni neu dwf ffyngaidd
  2. Oerfel: Dod i gysylltiad â thymheredd isel iawn
  3. Gwres: Dod i gysylltiad â thymheredd uchel iawn
  4. Asbestos a ffibrau mwynol a weithgynhyrchwyd: Dod i gysylltiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynol a weithgynhyrchwyd
  5. Bioladdwyr: Dod i gysylltiad â chemegion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni
  6. Carbon monocsid a chynhyrchion tanwydd hylosgi: Dod i gysylltiad ag— (a) carbon monocsid; (b) nitrogen deuocsid; (c) sylffwr deuocsid a mwg
  7. Plwm: Llyncu plwm
  8. Ymbelydredd: Dod i gysylltiad ag ymbelydredd
  9. Nwy tanwydd nas hylosgwyd: Dod i gysylltiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd
  10. Cyfansoddion organig anweddol: Dod i gysylltiad â chyfansoddion organig anweddol
  11. Gorboblogi a gofod: Diffyg lle digonol ar gyfer byw a chysgu
  12. Tresbaswyr yn dod i mewn: Anawsterau wrth gadw'r annedd yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig
  13. Diffyg golau digonol
  14. Sŵn. Dod i gysylltiad â sŵn
  15. Hylendid domestig, plâu a sbwriel. (1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel ei bod yn anodd cadw'r annedd yn lân. (2) Dod i gysylltiad â phlâu. (3) Darpariaeth annigonol ac anhylan ar gyfer storio a gwaredu gwastraff tŷ
  16. Diogelwch bwyd – Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd
  17. Hylendid personol, glanweithdra a draeniau – Darpariaeth annigonol o— (a) cyfleusterau ar gyfer cynnal hylendid personol da; (b) glanweithdra a draeniau
  18. Cyflenwad dŵr – Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, ar gyfer yfed a dibenion domestig eraill
  19. Cwympo sy'n gysylltiedig â baddonau ac ati – Cwympo sy'n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill
  20. Cwympo ar arwynebau – Cwympo ar arwyneb
  21. Cwympo ar risiau ac ati – Cwympo ar stepiau, grisiau neu rampiau
  22. Cwympo rhwng lefelau – Cwympo o un lefel i'r llall (gan gynnwys disgyn o uchder)
  23. Peryglon trydanol – Dod i gysylltiad â thrydan
  24. Tân – Dod i gysylltiad â thân heb ei reoli a mwg cysylltiedig
  25. Fflamau, arwynebau poeth ac ati – Dod i gysylltiad â — (a) tân neu fflamau o dan reolaeth; (b) gwrthrychau, hylif neu anweddau poeth
  26. Taro yn erbyn neu fynd yn sownd – Darnau o’r corff yn taro yn erbyn neu’n mynd yn sownd mewn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill
  27. Ffrwydradau – Ffrwydrad yn yr annedd
  28. Safle amwynderau a’u gweithrediad ac ati – Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau ac offer
  29. Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn – Yr annedd gyfan neu ran o’r annedd yn dymchwel gan gynnwys elfennau sy'n disgyn

Ni fydd rhai o'r 29 o faterion ac amgylchiadau yn codi'n aml iawn, tra bydd eraill yn fwy cyffredin. Er enghraifft, mae Mater 1 – Twf lleithder a llwydni, Mater 2 – Oerfel, a Mater 3 – Gwres, yn broblemau mwy cyffredin na Mater 27 – Ffrwydradau, a Mater 29 – Dymchwel strwythurol. Fodd bynnag, rhaid i landlordiaid ystyried pob un o'r 29 o faterion ac amgylchiadau wrth benderfynu a yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.

Gall fod yn hawdd i ddeiliad y contract nodi a yw un o'r 29 o faterion ac amgylchiadau yn achosi problem yn yr annedd, er enghraifft pan fydd llwydni sylweddol yn bresennol yn yr ystafell wely oherwydd bod lleithder yn dod trwy'r waliau, neu os nad yw'r boeler yn gallu cynhyrchu digon o wres yn ystod misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, gallai fod adegau pan fydd deiliad y contract yn ansicr a yw problem benodol yn golygu nad yw ei gartref yn ffit i bobl fyw ynddo. Ym mhob achos, dylai deiliad contract godi'r pryderon hyn gyda'r landlord yn gyntaf. Os yw'r landlord yn cytuno, dylai gymryd camau i ddatrys y broblem.

Mae Rhan 2 y rheoliadau yn nodi 3 pheth y mae'n rhaid i landlord eu gwneud i sicrhau bod cartref yn ffit i bobl fyw ynddo:

  • Gosod larymau mwg
  • Cynnal prawf diogelwch trydanol o leiaf bob 5 mlynedd
  • Gosod larymau carbon monocsid lle mae offer nwy, olew neu danwydd solet yn bresennol

Sylwer: Nid yw'r gofynion ffit i bobl fyw ynddo yn disodli'r dull o asesu eiddo rhent y mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio o dan y System Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) (Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004). Gallai Cynghorau barhau i fynnu bod gwaith yn cael ei wneud mewn eiddo rhent hyd yn oed pe byddai'n addas o dan ofynion Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi.

Mae'r Llywodraeth wedi rhyddhau canllawiau cynhwysfawr ar Guide for tenants: Homes (Fitness for Human Habitation) Act 2018 ar ei gwefan.