Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i adnewyddu cartrefi gwag er mwyn adfywio cymunedau a darparu tai y mae mawr eu hangen ledled Cymru.

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai i adnewyddu tai gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Er mwyn bod yn gymwys am y grant:

  • Rhaid bod y cartref gwag wedi’i leoli yn ardal awdurdod lleol Ceredigion.
  • Rhaid bod y cartref wedi’i gofrestru gydag Adran Treth y Cyngor fel eiddo gwag (heb ei feddiannau a heb ei ddodrefnu) am o leiaf 12 mis.
  • Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn berchnogion neu’n ddarpar berchnogion sy'n bwriadu defnyddio'r cartref gwag fel eu prif gartref a’u hunig gartref am o leiaf 5 mlynedd.
  • • Rhaid i’r perchennog fodloni meini prawf Cysylltiadau Lleol Ceredigion.
  • o wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor tref / cymuned gyfagos (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod parhaus o 5 mlynedd.
    NEU
  • o angen byw yng Ngheredigion i ofalu’n sylweddol am berthynas agos neu i gael gofal gan berthynas agos sydd wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor tref / cymuned gyfagos (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod parhaus o 5 mlynedd ac ni all eiddo’r berthynas (naill ai fel y mae neu o’i ymestyn) gyflawni anghenion yr aelwyd gyfunedig.
    NEU
  • o yn gyflogedig yng Ngheredigion fel gweithiwr allweddol ar sail barhaol llawn amser (35 awr)
    At y dibenion hyn, diffinnir gweithiwr allweddol fel a ganlyn:
    • Athro/athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu goleg chweched dosbarth;
    • Nyrs neu weithiwr proffesiynol medrus arall yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
    • Swyddog heddlu;
    • Gweithiwr yn y gwasanaeth prawf;
    • Gweithiwr cymdeithasol;
    • Seicolegydd addysg
    • Therapydd galwedigaethol a gyflogir gan yr awdurdod lleol;
    • Swyddog tân;
    • Unrhyw berson arall y mae ei gyflogaeth yn cyflawni rôl bwysig wrth ddarparu gwasanaethau allweddol yng Ngheredigion lle bu’n anodd recriwtio o fewn y Sir. Bydd angen i’r Awdurdod Lleol gytuno â hyn a bydd angen darparu tystiolaeth ynghylch recriwtio

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, i gadarnhau eich bod yn gymwys ac i gyflwyno cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod:

Hafan | Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Noder mai Cyngor Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.