Mae Theatr Felinfach wedi cael ei chynnwys ar restr hir o blith 121 o enwebiadau ledled y Deyrnas Unedig i greu Arddangosfa Ranbarthol ar gyfer Gwobr Achates 2020.

Prosiect gan Sefydliad Dyngarwch Achates yw’r wobr hon, a grëwyd yn 2016 i gefnogi arloesedd yn y sector diwylliannol ac i gefnogi datblygiad modelau sy'n galluogi gwytnwch sefydliadol. Mae’r theatr yn hynod o falch o gael yr enwebiad a’i chynnwys ar y rhestr. Yn ystod cyfnod anodd a heriol y clo mawr llwyddodd y tîm staff i ddod o hyd i ffordd o gyrraedd nifer fawr o’u cynulleidfa, yn ogystal ag ennill cynulleidfa newydd.

Ar ôl tair wythnos gyntaf y cyfnod clo, roedd swyddogion y theatr yn teimlo bod ganddynt gyfrifoldeb i ddarparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn arbennig. Roeddent yn ymwybodol y byddai nifer o blant yn colli'r cyfleoedd i glywed yr iaith Gymraeg heb sôn am ei siarad, a bod angen creu'r cyfleoedd hynny. Aethant ati i greu platfform digidol ar y rhwydweithiau cymdeithasol a'i alw'n ‘Dychmygus / Imagine’. Erbyn hyn, mae ystod eang o weithgareddau ar y platfform – o sesiynau cyfranogol i blant i ŵyl ddigidol i Geredigion a'r byd.

Dywedodd Cadeirydd Sefydliad Dyngarwch Achates, Caroline McCormick: “Mae Gwobr Dyngarwch Achates 2020 yn taflu goleuni ar rôl y sector diwylliannol ar yr amser tywyllaf mewn cenhedlaeth. Mae pob un o’r enwebiadau’n dangos sut mae sefydliadau diwylliannol ledled y wlad wedi ymateb i heriau COVID-19, er gwaethaf eu bod dan fygythiad eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Hoffwn longyfarch Theatr Felinfach yn wresog ar gael ei henwebu ar gyfer y wobr anrhydeddus hon ac am y gydnabyddiaeth haeddiannol y mae wedi’i chael am y gwaith da y mae’n ei gyflawni. Yn ystod y cyfnod heriol diweddar hwn, mae’r theatr wedi troi at gynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol sydd wedi bod yn hanfodol bwysig i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ynghyd â hyrwyddo’r Gymraeg trwy hynny. Llongyfarchiadau mawr.”

Bellach, mae’r theatr yn ymwybodol nad yw’n un o’r 24 sefydliad ym maes y celfyddydau a fydd yn mynd ymlaen i greu Arddangosfa Ranbarthol ar gyfer y wobr eleni, ond roedd cael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn wych. Hoffai Theatr Felinfach hefyd ddymuno’n dda i’r tri sefydliad arall o Gymru a fydd yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, sef Dawns i Bawb, Gŵyl Llanandras a Theatr Clwyd.

Noddir Gwobr Dyngarwch Achates 2020 gan Achates Philanthropy Ltd gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn, ac mewn partneriaeth â BOP Consulting, Spektrix a HOME, Manceinion.

12/10/2020