Wrth i flwyddyn y Cynghorydd Lynford Thomas fel Cadeirydd y Cyngor am 2017-2018 ddod i ben, cynhaliwyd cinio swyddogol Cadeirydd y Cyngor. Yn ystod y digwyddiad cafodd casgliad i’w wneud ar gyfer cefnogi elusen a ddewiswyd gan y Cadeirydd, sef DASH Ceredigion.

Mae DASH Ceredigion yn elusen sy’n darparu cyfleoedd hamdden i blant a phobl ifanc anabl yng Ngheredigion.

Cyflwynodd y Cynghorydd Lynford Thomas siec am £410 i DASH Ceredigion a ddywedodd, “Mae’n bleser i gyflwyno’r arian yma at elusen deilwng iawn. Mae DASH Ceredigion yn darparu gwasanaeth pwysig sydd wedi galluogi nifer o blant anabl lleol a’u teuluoedd bywyd o ansawdd well.”

Ar ôl cael cyflwyno gyda'r siec, dywedodd Jo Kennaugh, Rheolwraig DASH, "Roeddwn i'n galonogol i gael gwybod bod y Cadeirydd wedi dewis cyfrannu tuag at DASH Ceredigion a hoffwn ddiolch y Cynghorydd Lynford Thomas am ddewis ein helusen. Rydym yn rhedeg nifer o gynlluniau i blant anabl a phobl ifanc, yn cynnwys cynlluniau chwarae, dyddiau gweithgareddau, clwb ieuenctid symudol, penwythnosau i ffwrdd, cyfleoedd gwirfoddoli a phrosiectau ymgysylltu wedi’i anelu at ddatblygu hyder ac annibyniaeth. Gall cyfraniadau helpu sicrhau gallwn barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau teuluoedd yng Ngheredigion."

Ymwelwch â gwefan DASH Ceredigion i gael mwy o wybodaeth o'r cynlluniau a phrosiectau sydd ar gael.

07/06/2018