Anogir y cyhoedd i fod yn wyliadwrus dros yr oriau nesaf yn sgil rhybudd ambr am wyntoedd cryfion wrth i Storm Francis daro rhannau o Gymru.

Mae’r rhybudd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd yn weithredol o 14:00 tan 22:00 ddydd Mawrth, 25 Awst 2020.

Gofynnir i drigolion ac ymwelwyr fod yn wyliadwrus, yn ofalus a chadw draw o ardaloedd arfordirol yn ystod cyfnodau'r llanw uchel. Dylid cymryd gofal wrth deithio gan y gallai’r gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd. Gofynnir i’r cyhoedd fod yn ofalus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.

Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer o bosibl, gan effeithio ar rai gwasanaethau eraill.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk/, neu wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld y rhybuddion sydd mewn grym: www.naturalresources.wales

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon.

25/08/2020