Pan fydd llawer o bobl yn mwynhau toriad y Nadolig gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, bydd yn fusnes fel arfer i nifer o staff Cyngor Sir Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys y Tîm Casglu Gwastraff, sydd wedi gwynebu rhai heriau yn ddiweddar gyda dibynadwyedd y fflyd sy’n heneiddio. Mae hyn yn golygu nad yw wedi bod yn bosib i ddarparu’r safon gorau o wasanaeth bob tro.

Diolchodd Prif Weithredwr y Cyngor, Eifion Evans, i’r criwiau am eu gwaith caled yn ystod yr amser heriol yma a hefyd eu gwaith dros y flwyddyn gyfan. “Hoffwn roi clod i’r criwiau casglu gwastraff sy’n gwneud gwaith gwych ac yn gweithio’n ddiflino bob dydd, trwy gydol y flwyddyn. Gyda 2019 yn agosau’n gyflym, rydym yn edrych ymlaen at y Gwanwyn pan fydd y fflyd newyd yn cael ei gyflwyno. Bydd hyn yn helpu’r gwasanaeth i fod yn fwy effeithlon. Tan hynny, mae’r Tîm Gwastraff, gyda chefnogaeth gan eu cydweithwyr yn yr Uned Cynnal a Chadw Trafnidiaeth, yn gweithio’n galed i gadw’r fflyd yn ddiogel ac ar y ffyrdd i leihau’r aflonyddwch i’r gwasanaeth.

Mae angen i ni gofio pan fo’r tywydd yn troi’n aeafol, mae nifer o’r criw yn gweithio fel gyrrwyr y lorïau graenu. Maent yn helpu i gadw ffyrdd Ceredigion yn glir o ia ac eira, sydd hefyd yn gallu, yn anffodus, cael effaith ar eu gallu i wneud y casgliadau gwastraff.

Diolch i chi, trigolion Ceredigion, am fod yn amyneddgar â’r gwasanaeth yn ystod yr amser heriol yma. Cofiwch fod yn ystyriol bod y criwiau yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod eich biniau yn cael eu casglu ar eich diwrnodau arferol.”

Bob diwrnod, mae’r criwiau casglu gwastraff yn casglu tua 65 tunnell o wastraff, sydd yr un peth a 54 car bach!

Bydd casgliadau gwastraff dros gyfnod yr ŵyl ar ddydd Llun, 24 Rhagfyr a dydd Llun, 31 Rhagfyr yn cael eu casglu fel arfer. Bydd yr holl gasgliadau eraill rhwng 24 Rhagfyr a 5 Ionawr yn cael eu casglu ddiwrnod yn hwyrach.

Mae aflonyddwch i’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk/aflonyddwchirgwasanaeth

17/12/2018