Yng ngwir draddodiad ei arwyddair gwreiddiol bydd y Coliseum, Aberystwyth, sef cartref Amgueddfa Ceredigion erbyn hyn, yn cynnal noson ysblennydd o ‘adloniant heb aflednais’ ar nos Sadwrn 4 Awst, i ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru.

Gyda’r môr yn brif thema, yr hynod boblogaidd Jez Danks fydd wrth y llyw, yn cyflwyno brodwaith o straeon ac anturiaethau morol. Byddwn nid yn unig yn cael y cyfle i glywed morwyr a morladron Y Borth yn canu ond bydd Jez hefyd yn cyflwyno Phil a Martin Hugill, sy’n dod yn wreiddiol o’r ochr draw i’r afon Dyfi.

Mae gan y brodyr Hugill gyfoeth o Ganeuon y Môr a etifeddwyd gan eu tad enwog, Stan Hugill, a fu’n hwylio ar fyrddau’r hen longau hwylio. Dywed Sarah Morton, swyddog digwyddiadau’r amgueddfa, “Rwyf wrth fy modd bod y brodyr Hugill wedi dychwelyd i’w hardal enedigol i berfformio gyda’i gilydd unwaith eto. Yn ogystal â ceilidhs a nosweithiau gwerin ym Mhrydain, maent hefyd wedi ymddangos sawl tro yng ngŵyl flynyddol Mystic Seaport yn Connecticut yn yr Unol Daleithiau, ac wedi canu mewn gwyliau yn Yr Almaen a Gwlad Pwyl.

Mae’n argoeli i fod yn noson hwyliog o guro traed a dwylo. Bydd yna gitâr fas a drymiau yn ogystal â sain ffidil a mandolin. Dewch yn barod i ganu am noson gyfan.”

Cynhelir y noson ar 4 Awst am 7yh. Mae tocynnau yn £8/£6.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau yn yr amgueddfa ffoniwch 01970 633088 neu ewch i wefan yr amgueddfa trwy http://www.ceredigionmuseum.wales/hafan/

26/07/2018