Mae lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth wedi cael ei gau am beidio â chydymffurfio â hysbysiad gwella mangre.

Mae hysbysiad cau wedi cael ei gyflwyno i G-One, Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion am ddiffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020. Gofynnwyd i'r busnes, fis diwethaf, i “ddarparu neu ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n gweithio ar y safle ddefnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb”. Fodd bynnag, gwelodd swyddogion nad oedd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ar sawl achlysur, gan dorri’r gofynion.

Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws. Tra bydd busnesau nad ydynt yn cydymffurfio fel arfer yn cael cyngor a chanllawiau, eir i’r afael ag achosion difrifol a pharhaus trwy gyfrwng pwerau cau, hysbysiadau cosb benodedig neu erlyniad.

Bydd yn rhaid i'r busnes gau hyd nes 21 Rhagfyr 2020, a gellir darllen yr hysbysiad cau yn llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Hysbysiadau Gwella a Chau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor trwy ddilyn y ddolen hon: Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

08/12/2020